Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’n dda gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gyhoeddi cohort newydd y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig ar gyfer 2024-2025.

Yn dilyn y diwrnod dethol yn gynharach y mis hwn, dewiswyd 12 ymgeisydd llwyddiannus i ddilyn y rhaglen.

Nod y rhaglen yw ysbrydoli arweinwyr y dyfodol ym maes amaethyddiaeth, ac fe fydd yn darparu cwrs bywiog o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth ac arweiniad dros dair sesiwn ddwys. Yn rhan o raglen 2024-25, fe fydd cyfle i’r cynrychiolwyr fynd i un o’r digwyddiadau amaethyddol mwyaf uchel eu bri yn y byd, sef Cynhadledd Amaethyddiaeth y Gymanwlad.

Dyma’r 12 ymgeisydd llwyddiannus (cyfenwau yn nhrefn y wyddor) –

Clare Brown, Y Bont-faen – Cydlynydd Amaethyddiaeth a Dysgu, Cenin Renewables
Mae Clare yn ysgrifenyddes ar gyfer ei Chlwb Ffermwyr Ifanc lleol ac yn chwarae rhan weithgar ar fferm y teulu, gan reoli’r ddiadell o ddefaid a magu perchyll er mwyn gwerthu selsig a phorc yn uniongyrchol.

Lauren Evans, Pen-y-bont ar Ogwr – Cyfarwyddwr y Cwmni, Hufen Ia Fablas
 hithau wedi dod yn wreiddiol o fferm bîff a defaid, dechreuodd Lauren ar ei siwrnai entrepreneuraidd gyda’i mam nôl yn 2016 gan gynhyrchu hufen ia, a’r canlyniad yw busnes hynod o lwyddiannus Fablas.

Catrin Elin Hughes, Llanbedr Pont Steffan – Derbynnydd a Chynorthwyydd Gweinyddol, Milfeddygon Steffan
Mae Elin wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau yn y diwydiant amaethyddol tra’n gweithio ar fferm ei theulu gyda’i gŵr a’u plant. Mae’n eistedd ar nifer o bwyllgorau CAFC, gan gynnwys Pwyllgor Ymgynghorol Sirol Ceredigion, ac mae’n mwynhau dangos gwartheg a defaid.

Carwyn James, Sir Benfro – Rheolwr Cyffredinol, Bibby Agriculture
Magwyd Carwyn ar fferm bîff a defaid 200-erw, ac mae amaethyddiaeth wedi bod yn rhan o’i fywyd o’r cychwyn cyntaf. Mae wedi cymryd rhan mewn nifer o raglenni datblygu, gan gynnwys Academi Amaeth Busnes ac Arloesi, Sefydliad Future Farmer Tesco, a Ffermwyr Dyfodol Cymru.

Cennydd Owen Jones, Ceredigion – Darlithydd Rheoli Glaswelltir Amaethyddol, Prifysgol Aberystwyth
Mae Cennydd, sy’n Ddarlithydd yn y Brifysgol, yn byw bywyd gweithgar ac yn mwynhau beicio, rhedeg, ac estyn llaw ar fferm laeth ei deulu yn Ne Ceredigion. Mae Cennydd yn aelod prysur o’r CFfI, ac mae wedi cael nifer o swyddi ar lefel clwb, sir a Chymru.

William Nixon, Llanfair-ym-muallt – Swyddog Prosiectau, Stonegate Farmers LTD
Tyfodd William i fyny ar fferm bîff a defaid y teulu yng Nghanolbarth Cymru lle mae nawr yn arfer ffermio cynaliadwy yn weithgar. Mae’n aelod actif o NFU Cymru, ac yn mwynhau cerdded ar fryniau Cymru a bod yn rhan o’i glwb CFfI Cymru lleol.

Alys Probert, Swydd Henffordd – Darlithydd Amaethyddiaeth, Coleg Holme Lacy
Mae Alys yn estyn llaw’n rheolaidd ar fferm bîff ei theulu ac yn rhedeg diadell o tua 100 o famogiaid ar dir rhent. Mae Alys yn awyddus bob tro i ehangu ei gwybodaeth a’i sgiliau, ac yn ddiweddar mae wedi cwblhau cwrs weldio ac wedi gwirfoddoli yn Ffiji a Nicaragwa.

Liz Rees, Aberhonddu – Rheolwr Rhanbarthol, Y Sefydliad Amaethyddol Llesiannol Brenhinol (RABI)
Mae gan Liz ddiddordeb craff mewn amaethyddiaeth ac angerdd at gefn gwlad, ac mae’n ffermio ym Mannau Brycheiniog gyda’i phartner a’i rhieni. Mae ganddi ddiadell o ddefaid a chenfaint fach o foch. Yn ei hamser rhydd, mae Liz yn gerddor brwd ac wrth ei bodd yn canu’r piano a’r delyn ac yn canu.

Fflur Roberts, Y Trallwng – Darlithydd Amaethyddiaeth, Coleg Henffordd, Llwydlo a Gogledd Swydd Amwythig
Magwyd Fflur ar fferm gymysg y teulu yng Nghanolbarth Cymru, ac enillodd wobr Myfyriwr y Flwyddyn CAFC yn 2019 a’r Myfyriwr Amaethyddiaeth Gorau ar y Cyfan yng Ngrŵp Colegau NPTC. Mae Fflur wedi gweithio yn Seland Newydd ac Awstralia, gan ehangu ei gwybodaeth am systemau amaethyddol dramor.

Edward Swan, Yr Wyddgrug – Rheolwr Fferm a Chigydd, Siop Fferm Swans
Ag yntau’n dod o fferm deuluol trydedd-genhedlaeth yn Sir y Fflint, mae Edward yn angerddol ynghylch ffermio cynaliadwy ac wedi ymrwymo i gynhyrchu bwyd i’r safonau amgylcheddol uchaf posibl. Mae Edward yn aelod gweithgar o NFU Cymru ac yn eistedd ar Fwrdd Cnydau Cyfunadwy Cymru.

Teleri Haf Thomas, Aberhonddu – Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol, Cyswllt Ffermio Menter a Busnes
Er nad yw’n dod o gefndir ffermio, mae gan Teleri gysylltiadau â’r gymuned wledig yn sgil ei Chlwb Ffermwyr Ifanc lleol sydd wedi ei harwain i gofleidio’r diwydiant amaethyddiaeth yn broffesiynol ac yn bersonol. Ar hyn o bryd mae Teleri yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Marchnata ac mae’n gweithio’n llawn-amser ar yr un pryd.

Carys Annwylyd Thomas, Llandeilo – Trefnydd Sirol, Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr
Merch i ffermwr o Sir Benfro yw Carys ac mae’n torchi llewys ar fferm y teulu sy’n magu tyrcïod ar gyfer y Nadolig. Mae ganddi ei thyddyn bach ei hun gyda’i gŵr a’u plant yn Llandeilo, lle mae’n magu lloi. Chwaraeodd Carys ran weithgar yn ei Chlwb Ffermwyr Ifanc a chafodd ei dewis i deithio i Kansas, yn yr Unol Daleithiau, am chwe wythnos.

Hoffai Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru longyfarch y cohort newydd ar gael eu dewis, a’u croesawu i’r hyn sy’n addo bod yn rhaglen gyffrous, yn llawn bwrlwm, gan ddechrau gyda’r sesiwn gyntaf fis nesaf.

Ariennir y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yn llwyr diolch i’r gymynrodd hael a adawyd gan y diweddar Mr N Griffiths, gydag arian cyfatebol gan Bwyllgor Ymgynghorol Sirol Morgannwg (Sir Nawdd CAFC 2023).