Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wrth ei bodd i gyhoeddi bod Ei Fawrhydi’r Brenin wedi cytuno i fod yn Noddwr newydd iddi. Wrth i’w Fawrhydi dderbyn Nawddogaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru mae’n dilyn yr hyn sydd bellach yn draddodiad Brenhinol.

Mae’r Brenin Charles III, fel Tywysog Cymru, wedi cefnogi’r Gymdeithas yn gyson, ag yntau wedi ymweld â Sioe Frenhinol Cymru ar saith achlysur rhwng 1969 a 2019 ac wedi agor y Ffair Aeaf yn 2001.

Meddai Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr. “Mae’r ffaith fod y brenin yn Noddwr i ni yn arbennig iawn. Rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt i’w Fawrhydi am barhau i gefnogi’r Gymdeithas.

“Mae wir yn hyrwyddwr dros faterion gwledig ac mae Cymru yn annwyl iawn iddo. Bydd ei gefnogaeth fel Noddwr yn ardystiad gwych i’r gwaith yr ydyn ni’n ei wneud i hyrwyddo amaethyddiaeth yng Nghymru”.

Daw’r penderfyniad yn sgil adolygiad o ‘Nawddogaeth y diweddar Frenhines, cyn-Dywysog Cymru a chyn-Dduges Cernyw’. Y geiriau ar y llythyr a anfonwyd o Balas Buckingham i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru oedd: ‘‘Byddai Ei Fawrhydi wrth ei fodd i dderbyn’.

Roedd y Frenhines yn Noddwr i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am 70 mlynedd ac roedd yn fawr ei chefnogaeth. Adlewyrchai ei chefnogaeth ei diddordeb yn amaethyddiaeth, garddwriaeth a materion gwledig Cymru dros gyfnod hirfaith.

Cyflawnodd y Frenhines ei rôl swyddogol gyntaf gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru fel y Dywysoges Elizabeth yn 1947, pan yr oedd yn Llywydd Anrhydeddus.  Cafodd daith orfoleddus o amgylchedd Maes y Sioe yn ystod ymweliad â Sioe Frenhinol Cymru, a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin.

Roedd y diweddar Frenhines wedi dilyn yn ôl traed ei diweddar dad, George VI, a’i thad-cu, George V wrth dderbyn y Nawddogaeth. Daeth y Brenin George V yn Noddwr am y tro cyntaf fel Tywysog Cymru, yn 1907 ac yn ffurfiol fel Brenin yn 1911. Daethpwyd i gyfeirio at ei Gwpan Her Arian ar gyfer y Cob Cymreig gorau fel Cwpan Her George Tywysog Cymru, un o’r cwpanau enwocaf a gyflwynir yn Sioe Frenhinol Cymru bob blwyddyn.