Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’r paratoadau ar eu hanterth ar gyfer y Ffair eleni ac mae mesurau diogelwch ychwanegol yn cael eu rhoi yn eu lle i sicrhau bod diogelwch pawb yn brif flaenoriaeth pan fyddant yn ymweld â maes y sioe yn Llanelwedd. Bydd angen i bob tocyn gael ei brynu cyn y Ffair YMA, a gyda Llywodraeth Cymru’n cyflwyno’r angen am basbortau brechiad, bydd angen i Ffair Aeaf Frenhinol Cymru gydymffurfio â’r canllawiau diweddaraf hyn.

Bydd angen i bob oedolyn 18 oed a throsodd ddarparu tystiolaeth o un o’r canlynol wrth y fynedfa er mwyn cael mynediad i’r digwyddiad.

  • Darparu tystiolaeth eich bod wedi’ch brechu’n llawn trwy wneud cais am eich Pasbort COVID-19.
  • Darparu tystiolaeth o Brawf Llif Unffordd COVID-19 negyddol (wedi cael prawf o fewn 48 awr cyn cyrraedd y )

Copi electronig o’ch Pasbort COVID-19

  • Ewch i wefan y GIG https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/
  • I gael defnyddio y gwasanaeth, bydd angen ichi gofrestru ar gyfer yr NHS login os nad oes gennych un yn barod.
  • Lawrlwythwch a phrintio copi o’ch Pasbort COVID-19 yn barod ar gyfer y Ffair.
  • Edrychwch beth yw’r dyddiad darfod a gofalu nad yw’n darfod cyn ichi fynychu’r Ffair Aeaf (29 a 30 Tachwedd).

Copi papur o’ch Pasbort COVID-19

  • Os hoffech ofyn am gopi papur o’ch Pasbort COVID-19, ffoniwch 0300 303 5667.
  • Sylwch y gall hi gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i dystysgrif gyrraedd yn y post ac na ellir rhoi ceisiadau ar drywydd cyflym.

Brawf Llif Unffordd COVID-19 negyddol (prawf a gymerwyd o fewn 48 awr cyn cyrraedd y Ffair)

Gellwch gael profion llif unffordd yn rhwydd o wefan y GIG i’w danfon i’ch cartref https://www.gov.uk/order-coronavirus-rapid-lateral-flow-tests neu gellwch eu casglu o’ch fferyllfa leol.

  • Ar ôl cwblhau’r prawf RHAID rhoi gwybod beth yw’r canlyniad i’r GIG: https://www.gov.uk/report-covid19-result
  • Byddwch yn derbyn testun neu e-bost cadarnhau neu ddiweddariad i’ch ap GIG.
  • Mae canlyniad prawf llif unffordd yn ddilys am 48 awr, felly rydym yn cynghori i’r prawf gael ei wneud y noson cyn mynychu’r Ffair.