Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
20-21 May 2023.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
24-27 Gorffennaf 2023.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
27-28 Tachwedd 2023.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Yn niffyg Sioe Frenhinol Cymru, sydd wedi’i chanslo’n unol â’r cyfyngiadau sydd ohoni mae CAFC yn falch o gyhoeddi y bydd y sioe geffylau yn cael ei chynnal yr Hydref hwn a gynhelir ar faes sioe Frenhinol Cymru dros y 3ydd penwythnos ym mis Medi.
Bydd y digwyddiad newydd sbon hwn yn cael ei gynnal ar 18fed a 19eg o Fedi 2021.
Os hoffech chi aros dros y penwythnos yn ystod sioe geffylau, ewch i’n tudalen archebu maes gwersylla yma lle gallwch chi archebu’ch lle gyda ni.