Cynhadledd ASAO 2019 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Dydd Sul 3 Tachwedd – Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2019

Croesawir gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar Faes Sioe Frenhinol Cymru ac yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod


2019 yw Blwyddyn Darganfod yma yng Nghymru. Y flwyddyn i ddarganfod y cyfan sydd gan Gymru i’w gynnig. Cyfle perffaith inni ddarganfod mwy amdanom ni’n hunain, ein gilydd, ein diwydiant a’r dyfodol.

  • Darganfod Cymru
  • Darganfod sut mae eraill yn ei wneud
  • Darganfod sut i wneud iddo weithio
  • Darganfod beth i beidio ei wneud
  • Darganfod cyfleoedd
  • Darganfod beth sy’n ein gwneud yn unigryw
  • Darganfod y dyfodol…

Yn adeiladu ar lwyddiant cynadleddau cenedlaethol blaenorol, Cynhadledd Darganfod ASAO 2019 fydd y lle delfrydol i’ch sefydliad elwa ar y gronfa enfawr o wybodaeth o fewn aelodaeth ASAO.

Trochwch eich hun mewn ychydig ddiwrnodau o ddiwylliant Cymreig a darganfod sut i wella’ch digwyddiadau trwy ein hamrywiaeth eang o gyflwyniadau a sesiynau syndicet.