Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

I ddathlu’n 100fed sioe, a rhannu cariad Sioe Frenhinol Cymru, bu’r gymdeithas yn chwilio am gwpl arbennig i briodi yn ystod Sioe Frenhinol Cymru eleni.

Ar ôl derbyn nifer enfawr o enwebiadau teilwng iawn, doedd y broses o lunio rhestr fer ddim yn orchwyl hawdd o gwbl. Ond, o’r diwedd, mae un pâr ffodus o Sir Gaerfyrddin wedi’u dewis.

A hwythau wedi adnabod ei gilydd o’r gylchdaith dangos ceffylau ers blynyddoedd lawer, dechreuodd Bethan ac Arwel ganlyn yn 2015 ac ymhen dim o amser daethant yn gariadon ffyddlon. Yn rhannu cariad at geffylau, ieir a’u teuluoedd ifanc, daeth y ddau’n dîm perffaith yn fuan iawn, gan fynychu sioeau gyda’i gilydd a’u tri bachgen.

Ar ôl colli mab Arwel yn drasig yn 2016, roedd y teulu galarus yn dibynnu’n drwm ar ei gilydd ac ar y gefnogaeth a’r cysur a gynigiwyd gan ‘deulu Sioe Frenhinol Cymru’ – rhwydwaith agos o gyfeillion oes, wedi’u dwyn at ei gilydd gan gariad cyffredin a pharch at ei gilydd.

Yn cael eu hedmygu gan lawer am eu positifrwydd a’u gwytnwch, dechreuodd y ddau ailadeiladu eu cynlluniau at y dyfodol, dim ond i orfod eu rhoi ar un ochr pan fu’n rhaid i Arwel gael adferiad hir yn dilyn llawdriniaeth wedi iddo dorri ei goes yn ddrwg.

Ar nodyn hapusach, cyrhaeddodd baban bach newydd yn ddiogel yn gynharach eleni. Ychwanegiad tra hoff at y teulu y mae’i frodyr hŷn yn dotio ato.

“Dywedir yn aml ymhlith yr arddangoswyr yn Sioe Frenhinol Cymru, bod dychwelyd i faes y sioe flwyddyn ar ôl blwyddyn fel dod adref. Mae’r cyfeillgarwch rhwng y cystadleuwyr gyfryw fel bod y cysylltiadau a wneir trwy gylchdaith y sioeau yn arwain yn aml at ddod yn gyfeillion da iawn.” eglura Harry Fetherstonthaugh, Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe.

“Nid yw priodas rhwng y rheini sydd wedi cyfarfod yn y sioe yn anarferol, ond bydd priodas ar faes y sioe yn ystod wythnos y sioe ei hun yr un gyntaf! Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at helpu i wneud diwrnod arbennig Bethan ac Arwel mor wych a chofiadwy ag sy’n bosibl.”

Wedi’u hamgylchynu gan ddyrnaid mynwesol o gyfeillion a theulu, bydd Bethan ac Arwel yn priodi yn ein bandstand darluniaidd, yn union yng nghanol y maes sioe prysur a bywiog, ar ddiwrnod cyntaf 100fed Sioe Frenhinol Cymru eleni.

Yn dilyn y seremoni, bydd y ddau’n mwynhau gwydraid o siampaen oer tra byddant yn ymlacio ym Mlwch y Llywydd yn eisteddle’r prif gylch (y seddi gorau yn y tŷ!). Ar ôl ychydig funudau gwerthfawr iddynt hwy’u hunain, yn gwylio atyniadau’r prif gylch, bydd y pâr ifanc yn ymuno â’u gwesteion ar gyfer gwledd briodas flasus.

Trwy’r adegau anhygoel o drist a thrwy’r amseroedd hapusach, mae Sioe Frenhinol Cymru bob amser wedi bod â lle arbennig yng nghalonnau Bethan ac Arwel, a byddem yn hoffi llongyfarch y ddau ohonynt ar eu priodas pan ddaw.