Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

16 & 17 Mai 2020

Gatiau’n agor am 9 y bore

Tocynnau Oedolion £16 wrth y giât, gostyngiadau ar-lein ar gael

Mynediad AM DDIM i bob plentyn 16 oed ac iau

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

30 Tachwedd & 1 Rhagfyr 2020

Gatiau’n agor am 8 y bore

Tocynnau Oedolion: o £16 wrth y giât, gostyngiadau ar-lein ar gael

Tocynnau Plant: (5-16) £5

Plant dan 5: AM DDIM

Yn ymrwymiad sefydlog ar y calendr i lawer, bydd Sioe Frenhinol Cymru, sy’n cael ei chynnal eleni ar 22-25 Gorffennaf, yn dathlu’i 100fed sioe.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn wreiddiol fel Cymdeithas Amaethyddol Genedlaethol Cymru yn 1904 a daeth yn ‘Frenhinol’ tair blynedd yn ddiweddarach, pan ddaeth y Brenin Siôr V yn noddwr yn 1907, ac fe’i dilynwyd gan Frenin Siôr VI yn 1936 a’r Frenhines yn 1952.

Am hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf, roedd y sioe’n symud rhwng safleoedd bob blwyddyn, gan ddigwydd bob yn ail yng Ngogledd a De Cymru. Nid tan 1963 y gwnaeth y sioe a swyddfeydd y gymdeithas symud i’w safle parhaol, presennol yn Llanelwedd.

Ar ôl setlo ar faes y sioe, ni chollodd y gymdeithas olwg ar y strwythur siroedd nawdd a fu mor fanteisiol iddi yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny. Yn hytrach na symud o sir i sir, fel cynt, gwahoddwyd y siroedd i fod yn sir nawdd bob blwyddyn, gyda chynrychiolydd yn dod yn llywydd y gymdeithas am eu tymor yn y swydd. Mae strwythur y siroedd nawdd a’r pwyllgorau ymgynghorol sirol yn dal i fod yn asgwrn cefn llwyddiant y gymdeithas ac yn ‘llwch aur’ sy’n ein gosod ar wahân i lawer o gymdeithasau eraill.

Gydag amcanion cynnar y gymdeithas i wella bridio stoc ac annog amaethyddiaeth ledled Cymru, denodd y sioe gyntaf a gynhaliwyd yn Aberystwyth 442 o dda byw i gystadlu. Pedair blynedd yn ddiweddarach, yn 1908, cyrhaeddodd 23 o drenau arbennig yn cynnwys 224 o wagenni gwartheg a cheffylau y sioe, ynghyd â 100 o goetsis teithwyr yn cludo ymwelwyr o bobman.

Y dyddiau hyn, mae’r cynigion da byw yn rhifo tua 8,000, gydag 20,000 o geir y dydd ynghyd â channoedd o loris a threlars stoc yn cydgyfeirio at faes y sioe yng Nghanolbarth Cymru ar gyfer y digwyddiad blynyddol, sydd wedi tyfu’n un o’r sioeau amaethyddol mwyaf poblogaidd yn Ewrop.

Heddiw, mae’r gymdeithas yn sefydliad cenedlaethol sy’n dra hoff ledled Cymru a thu hwnt, nid yn unig gan ffermwyr a’r gymuned wledig ond gan bobl o bob cefndir, y mae llawer ohonynt wedi dod i ystyried Sioe Frenhinol Cymru fel uchafbwynt eu blwyddyn.

Er bod y gymdeithas wedi dathlu’i chanmlwyddiant yn ôl yn 2004, nid ydym wedi gallu cynnal sioe pob un flwyddyn. Cafodd y sioe ei chanslo yn ystod y ddau ryfel byd, yn 1948 oherwydd dogni petrol ac yn fwyaf diweddar, yn 2001 oherwydd Clwy’r Traed a’r Genau. O ganlyniad, rydym yn gyffrous iawn i fod yn cynnal ein 100fed sioe eleni!

Trwy gydol y pedwar diwrnod bydd yna nifer o ddathliadau coffaol i nodi’r garreg filltir hon yn hanes y sioe. Mae’r rhain yn cynnwys cynnal priodas i bâr ffodus, Arwel a Bethan o Sir Gaerfyrddin. Enwebwyd y pâr cariadus gan ffrindiau i briodi yn ystod y sioe, mewn priodas a’r holl gostau wedi’u talu, yn dilyn nifer o flynyddoedd anodd i’r ddau a’u teulu. Wedi’u hamgylchynu gan gylch mynwesol o ffrindiau a theulu, bydd Arwel a Bethan yn priodi yn ein bandstand darlunaidd, yn union wrth galon maes prysur a bywiog y sioe, ar ddiwrnod cyntaf y sioe, cyn mwynhau gwydraid o siampên oeredig a gwledd briodas flasus gyda’u gwesteion.

Ar bob un o’r pedwar diwrnod, bydd y prif gylch yn gweld strafagansa gerddorol yn dathlu 100 mlynedd o ffermio a diwylliant Cymreig. Yn gyflawn â cherddoriaeth draddodiadol a cherddoriaeth gyfoes, canu, dawns a sylwebaeth, bydd gorymdaith o rai o’r peiriannau ffermio cynharaf i’r dechnoleg fwyaf diweddar sydd ar gael heddiw yn cael eu coreograffu’n fedrus yn arddangosfa sy’n mynd â’ch anadl i bawb ei mwynhau. Yn cael ei chynhyrchu gan Lysgennad Ifanc Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig, Euros Llyr Morgan, bydd yr olygfa ysblennydd hefyd yn cynnwys gwestai arbennig sy’n canu ac yn syfrdanu’r tyrfaoedd tra bydd ar gefn ceffyl.

Mae’r 100fed sioe yn cael ei chodi hefyd mewn llawer o’r cystadlaethau ledled maes y sioe gyda chardiau a rhosedau gwobrwyol coffaol ar gyfer pencampwyr pob adran, a gydag arddangosiadau addurno teisennau, gwaith haearn addurniadol, arddangosiadau coedwigaeth a dosbarthiadau gosod blodau sy’n darlunio’r thema hefyd. Yn aros o fewn yr adran garddwriaeth, bydd y sioe yn cynnal lansiad amrywogaeth Pys Pêr newydd sbon hefyd i goffáu 100fed Sioe Frenhinol Cymru.

Yn cwblhau ychydig ddyddiau gwych o ddathliadau, bydd cystadleuaeth syfrdanol Prif Bencampwr y Pencampwyr yn cael ei chynnal yn y prif gylch ar y prynhawn dydd Iau. Bydd y dosbarth arbennig hwn yn gweld ceffylau, gwartheg, defaid, geifr a moch i gyd yn cystadlu am y teitl unigryw hwn yng 100fed Sioe Frenhinol Cymru gyda’r anrhydedd o feirniadu yn syrthio i’n Cyfarwyddwr Sioe ni ein hunain, Harry Fetherstonhaugh, yn ei flwyddyn olaf yn y swydd ar ôl 25 mlynedd.

Ynghyd â’r da byw gwych, mae’r sioe’n darparu rhywbeth i ennyn diddordeb pawb trwy’i hamrywiaeth eang o weithgareddau, yn cynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, bwyd a diod a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosfeydd cyffrous.

Yr atyniadau mawr yn y prif gylch fydd yr anhygoel Atkinson Action Horses, sydd wedi treulio’r ugain mlynedd ddiwethaf yn hyfforddi ceffylau a marchogion ar gyfer ffilm a theledu. Gyda chredydau diweddar o Poldark, Victoria, Peaky Blinders, The Living and the Dead a Hippopotamus – mae’n sicr bod y llu elît hwn wedi cael hyd i’w ffordd i’ch sgrin deledu ar ryw adeg! Paratowch i gyfrwyo, clymu’r strapiau a dal gafael yn dynn, wrth i’r tîm eofn hwn o farchogion stỳnt ddod â’u harddangosfa unigryw i’r prif gylch bob diwrnod o’r sioe.

Gall ymwelwyr edrych ymlaen hefyd at wylio tîm arddangos beiciau modur herfeiddiol Bolddog Lings. Gyda mynd di-baid o’r dechrau i’r diwedd, bydd reidwyr beiciau modur dull rhydd gradd uchaf y Deyrnas Unedig yn ymddangos yn eu harddangosfa, gyda’r triciau cynyrfiadol diweddaraf yn difyrru’r dyrfa gyda’u sylwebaeth ar gefn y beiciau modur – gan hyd yn oes sgwrsio â’r dyrfa tra byddant yn perfformio tric yn hedfan 35 troedfedd i’r awyr!

Yn dychwelyd i ddifyrru’r tyrfaoedd fydd Band Catrodol trawiadol y Cymry Brenhinol, Hebogyddiaeth y  Mynyddoedd Du, Gyrru Cerbyd Tristar, Meirion Owen a’r Cwac Pac, y Ras Gyfnewid Rhwng Helwyr a llawer mwy.

Gyda thros fil o stondinau masnach a channoedd o stondinau bwyd a diod rhyfeddol, bydd gan hyd yn oed y siopwyr a’r selogion bwyd mwyaf detholgar ormod o ddewis yn ystod y sioe – rydym hyd yn oed wedi darparu ‘crèches siopa’ i gadw’ch pryniannau gwerthfawr yn ddiogel nes mae’n amser mynd adref.