Mae Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru yn enwog am ei chystadlaethau da byw, ond mae yna lawer mwy i’w fwynhau hwnt ac yma o amgylch Maes y Sioe.
Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru, pinacl y digwyddiadau yng nghalendr amaeth Prydain, ar Faes y Sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-muallt o ddydd Llun 22 hyd ddydd Iau 25 Gorffennaf 2024.
Bob blwyddyn, mae Sioe Frenhinol Cymru yn denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr i galon Canolbarth Cymru i ddathlu’r gorau o amaethyddiaeth Cymru a Phrydain. Mae’r Sioe yn ddigwyddiad pedwar-diwrnod sy’n llawn cyffro, gyda gwledd o gystadlaethau cyffrous, da byw garddwriaeth, coedwigaeth, crefftau, campau cefn gwlad, siopa, bwyd a diod a rhaglen 12-awr o adloniant, atyniadau ac arddangosiadau di-stop, a llawer iawn mwy.
Mae pawb wrth eu boddau â Sioe Frenhinol Cymru oherwydd ei chystadlaethau da byw, sydd gyda’r gorau yn y byd, ond beth sy’ ‘mlaen o amgylch Maes y Sioe, tu allan i’r cylchoedd beirniadu? Darllenwch ymlaen i weld pa bethau difyr allwch chi eu gwneud eleni ar Faes Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru…
- Galwch heibio i’r Pentref Garddwriaeth newydd sbon, sy’n dathlu pob agwedd ar arddwriaeth yng Nghymru – gan gynnwys cyflwyniadau ac arddangosiadau, gwesteion arbennig, arddangos cystadleuol, micro welyau, gardd synhwyraidd, cerddoriaeth fyw ac ardal fwyd.
- Gwyliwch y seremoni agoriadol fore dydd Llun. Eleni, fe fydd Sioe Frenhinol Cymru yn cael ei hagor yn swyddogol gan Mr Charles Arch, llais adnabyddus iawn a ddechreuodd sylwebu nôl yn 1980!
- Oerwch gyda hufen iâ – galwch heibio i Minolis of Machen o dan yr Eisteddle sy’n dathlu 30 mlynedd o fasnachu yn Sioe Frenhinol Cymru!
- Gwyliwch ragbrofion cystadleuaeth Ffermwr Mwyaf Heini Prydain y Farmers Weekly yn y Pentref Chwaraeon ddydd Iau, lle bydd ffermwyr yn wynebu cyfres o heriau corfforol llym sydd wedi’u cynllunio i brofi eu cyflymder, eu nerth a’u stamina.
- Porwch drwy’r stondinau niferus – codwch bob math o gofbethau a rhoddion unigryw a diddorol o’r cannoedd o stondinau masnach.
- Mwynhewch saib haeddiannol a thamaid i’w fwyta yn y Pentref Bwyd Cymreig, Gwledd | Feast.
- Profwch fwrlwm Canolfan Cneifio Meirionnydd brynhawn dydd Mercher lle bydd y Pencampwriaethau Uwch yn mynd rhagddynt.
- Gwyliwch y gystadleuaeth Dringo Polyn – cafwyd polion newydd o Ystâd Doldowlod gerllaw i ailgyflwyno’r gystadleuaeth dringo polion hynod o boblogaidd hon. Mae’r polion yn pwyso 5 tunnell yr un ac yn sefyll 90 troedfedd o hyd ac wedi’u gwneud o goed a blannwyd dros 60 mlynedd yn ôl!
- Gwyliwch yr Orymdaith Fawr – profwch awyrgylch y Prif Gylch wrth i dda byw a cheffylau sydd wedi ennill gwobrau ddod at ei gilydd brynhawn dydd Mercher a dydd Iau.
- Blaswch fwydydd bendigedig o bob cwr o Gymru yn ein Neuadd Fwyd enwog – o gampweithiau sawrus i ddanteithion melys – fe fydd rhywbeth yn siŵr o dynnu dŵr o’ch dannedd!
- Gwyliwch adloniant y Prif Gylch o 8am hyd 8pm bob dydd – gan gynnwys JCB Dancing Diggers, arddangosfa gerddorol Heavy Horse, yr RAF Falcons, Band Catrawd y Cymry Brenhinol, a Meirion Owen a’i gŵn defaid. I nodi 120 mlynedd ers sefydlu’r Gymdeithas, a dathlu sir nawdd Ceredigion, fe fydd Arddangosfa Dathlu Amaethyddiaeth Cymru yn cynnwys pyped anferth o ffermwr o Geredigion gydag anifeiliaid, perfformwyr a chantorion. Arddangosfa unigryw, na ddylech ei cholli!
Gallwch brynu tocynnau ar-lein ymlaen llaw nawr ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru. Neidiwch y ciw ac ewch i www.rwas.wales / www.cafc.cymru i gael eich tocynnau nawr!