Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Dewch i ymuno â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ddydd Gwener 3 Mai i glywed am gyfleoedd i fusnesau a sefydliadau yng Ngheredigion yn Sioe Frenhinol Cymru 2024.

Mae’r brecwast busnes hwn yn gyfle i fusnesau yng Ngheredigion a’r cyffiniau i feithrin cysylltiadau newydd gyda phartneriaid, cyflenwyr a chleientiaid posibl. Fe fydd yn gyfle i gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd i gyfrannu at waith Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac i weithio gyda hi, yn ystod blwyddyn Ceredigion fel Sir Nawdd.

Fe fydd cyfle i glywed mwy gan ddeiliaid swyddi allweddol CAFC, gan gynnwys y Prif Weithredwr, Aled Rhys Jones, am Sioe Frenhinol Cymru sydd ar droed, nodau ac amcanion elusennol y Gymdeithas, a’r pecynnau noddi a chyfleoedd manwerthu amrywiol sydd ar gael.

Cewch ddod i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac fe fydd yn cael ei gynnal yn Neuadd Fwyta Lloyd Thomas, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Campws Llambed, Ceredigion o 9:30am hyd hanner dydd, ddydd Gwener 3 Mai 2024.

Fe fydd lluniaeth brecwast ysgafn wedi’i gynnwys. I gofrestru eich diddordeb ac unrhyw ofynion dietegol, gofynnwn yn garedig i chi anfon neges e-bost i sponsorship@rwas.co.uk

Y cyntaf i’r felin amdani, felly cofrestrwch nawr i sicrhau’ch lle!