Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’r gymdeithas wrth ei bodd y bydd Eu Huchelderau Brenhinol Tywysog Cymru a Duges  Cernyw yn ymweld â 100fed Sioe Frenhinol Cymru eleni, ar ddiwrnod agoriadol yr achlysur, dydd Llun 22 Gorffennaf.

“Mae hyn yn anrhydedd fawr i’r gymdeithas, yn arbennig gan ein bod yn gallu cydnabod hanner canmlwyddiant arwisgiad Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.” meddai Steve Hughson, prif weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

“Fel cefnogwyr ardderchog i amaethyddiaeth a chefn gwlad, mae’r Tywysog a’r Dduges wedi ymweld â maes y sioe nifer o weithiau o’r blaen, ac rydym wedi rhoi rhaglen orlawn at ei gilydd, yn ymweld ag amryw o ardaloedd maes y sioe ac yn cyfarfod cymaint o bobl ag sy’n bosibl.”

Mae cysylltiadau brenhinol y gymdeithas yn mynd yn ôl i 1907, pryd, dair blynedd ar ôl sefydlu’r gymdeithas, y daeth y Brenin Siôr V, neu Dywysog Cymru fel yr oedd bryd hynny, yn Noddwr, gyda’r Brenin Siôr VI yn ei ddilyn yn 1936. Cymerodd y Frenhines y swydd drosodd yn 1952 a hi yw ein Noddwr hyd heddiw.

Tywysog Cymru, sydd wedi bod yn gefnogwr pybyr i’r gymdeithas ac sy’n adnabod llawer o’r ffermwyr sy’n arddangos yn Llanelwedd, oedd ein Llywydd yn 2004, blwyddyn ganmlwyddiant y gymdeithas.  Yn eiriolwr dros ddiwylliant Cymru, fe wnaeth y Tywysog hyd yn oed dreulio tymor yng Ngholeg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, yn dysgu siarad Cymraeg cyn ei arwisgiad yn 1969.

Yn ystod yr ymweliad, bydd Eu Huchelderau Brenhinol yn agor arena ceffylau newydd, yn dadorchuddio cerflun o lawn faint o Farch Cob Cymreig Adran D ac yn agor gardd newydd ar faes y sioe yn swyddogol, wedi’i chreu’n benodol i goffáu hanner canmlwyddiant arwisgiad Ei Uchelder Brenhinol yn Dywysog Cymru.

Bydd ymwelwyr brenhinol eraill â’r sioe, y Brenin Goodwill Zwelithini kaBhekuzulu a’r Frenhines Pumi, pennaeth cenedl y Zwlw, yn ymuno â’r cwpl brenhinol hefyd.

Yn ymweld â Chymru 140 mlynedd ar ôl rhyfel Eingl-Zwlw 1879, ble ymladdodd aelodau Catrawd Frenhinol Cymru fel y mae heddiw yn Rorke’s Drift, nod y Brenin Goodwill yw cryfhau’r berthynas sy’n blodeuo’n awr rhwng Cymru a Zwlws Kwazulu-Natal.

Ynghyd â chyfarfod arweinwyr ffermio dylanwadol ac aelodau eraill o’r diwydiant amaethyddol, mae’r Brenin Goodwill yn bwriadu mynd â llawer o enghreifftiau o arfer da yn ôl i’w wlad i wella eu sgiliau ffermio ymhellach. Mae hyn yn mynd yn ôl i’r rheswm y sefydlwyd cymdeithasau amaethyddol yn wreiddiol.

Yng nghwmni grŵp o 15 aelod o’r Gatrawd Zwlw yn perfformio dawns ryfelwr Impi draddodiadol ac aelodau Band Catrodol a Chorfflu Drymiau’r Cymry Brenhinol yn chwarae ffanffer trympedi, bydd y Brenin Goodwill a’r Frenhines Pumi yn cyfarfod Tywysog Cymru a Duges Cernyw tra byddant yn Sioe Frenhinol Cymru, cyn ymgymryd â’u rhaglen brysur eu hunain.