Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Wedi’i ddadorchuddio’n swyddogol heddiw, dydd Llun 22 Gorffennaf, gan Dywysog Cymru a Duges Cernyw, mae’r Cerflun o Farch Cob Cymreig newydd yn ychwanegiad trawiadol sy’n taro’r llygad at Faes Sioe Frenhinol Cymru.

Wedi’i gomisiynu gan Euros Llyr Morgan, sydd newydd orffen ei dymor dwy flynedd fel Llysgennad Ifanc Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig, ynghyd â phobl ifanc Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig, nod y cerflun yw dathlu’r gymuned farchogol yng Nghymru a thu hwnt.

Yn cymryd pedwar mis i’w lunio, mae’r cerflunydd, Robert Rattray wedi defnyddio dros 700 o bedolau yn gwneud y cerflun o faint naturiol o Farch Cob Cymreig Adran D. Wedi’u rhoi gan berchnogion ceffylau ar draws y byd, mae’r pedolau wedi’u defnyddio’n fedrus i ddal cydffurfiad a nodweddion allweddol y brîd.

Mae’r prosiect hyd yn oed wedi derbyn cefnogaeth Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig a Noddwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Ei Mawrhydi Y Frenhines, gyda llygaid y cerflun wedi’u gwneud o ddwy bedol fechan a roddwyd gan Ei Mawrhydi yn bersonol.

Mae Robert, sydd â’i ganolfan yng Nghrucywel, yn artist a gydnabyddir yn rhyngwladol y mae’i waith, yn gerfluniau ac yn lluniadau, yn adlewyrchu ei ddiddordeb angerddol mewn bywyd gwyllt a’i wreiddiau gwledig. Mae wedi cerflunio dau geffyl Windsor Grey o faint naturiol o’r blaen, wedi’u comisiynu i ddathlu’r Jiwbilî Ddiemwnt yn 2013.

“Pan ymgymerais â’r comisiwn hwn, rhan o’r her oedd sut orau i ddal ysbryd y March Cob Cymreig – brîd sy’n adnabyddus am eu natur dda, eu gwydnwch a’u symudiad llyfn” eglurodd Robert.

“Ar ôl gweithio ag amrywiol ddeunyddiau dros y blynyddoedd, roedd fel petai creu’r cerflun o bedolau, wedi’u rhoi gan aelodau o Gymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig, yn deyrnged briodol i’r brîd Cymreig penigamp yma.”

Wrth grynhoi’r bridiau Cymreig ac ieuenctid y gymuned, mae Euros wedi enwi’r cerflun yn ‘Angerdd a Thân / Fire and Passion’. “Bydd y cerflun hardd hwn yn sefyll dros y prif Gylch am flynyddoedd lawer i ddod ac mae’n creu atgof parhaus ar faes y sioe o Lysgenhadon Ifanc Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig” meddai Euros.

Roedd dadorchuddio’r cerflun anhygoel hwn yn un yn unig o’r dyletswyddau swyddogol a gyflawnwyd gan Eu Huchelderau Brenhinol Tywysog Cymru a Duges Cernyw, ar eu hymweliad â Sioe Frenhinol Cymru ar y diwrnod agoriadol.

Gyda’i gilydd bu iddynt agor yn ogystal â phlannu llwyn yng ngardd newydd y Pafiliwn Rhyngwladol, a grëwyd gan yr arddluniwr, Sarah Husband, i goffáu hanner canmlwyddiant Arwisgiad Ei Uchelder Brenhinol yn Dywysog Cymru.

Fe wnaeth Ei Huchelder Brenhinol, Duges Cernyw agor yr arena ceffylau bob tywydd yn swyddogol hefyd. Wedi’i greu fel rhan o Brosiect Ceffylau cyffredinol y gymdeithas, yn cael ei gefnogi gan y gymdeithas ac arian Siroedd Nawdd Gwent a Sir Gâr, adeiladwyd yr arena newydd yn dilyn rhodd hael gan y diweddar Mr Norman Griffiths. Roedd cynrychiolwyr teulu Mr Griffiths yn bresennol yn yr agoriad a bu iddynt gyfarfod y Dduges.