Anrhydeddau i arweinwyr ffermio Cymru - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae nifer o arweinwyr gweithgar a haeddiannol y diwydiant wedi’u hanrhydeddu eto gan Gyngor Dyfarniadau’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol am eu cyfraniad i’r diwydiannau amaethyddol a gwledig yng Nghymru.

Mae Panel Cenedlaethol Cymru a Phanel y Safonwyr Cenedlaethol i Gyngor Dyfarniadau’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol yn ystyried yn ofalus lawer o geisiadau a wneir bob blwyddyn. Mae’r ymgeiswyr canlynol, yr ystyrid eu bod o safon digon uchel i ganiatáu iddynt y teitl chwenychedig o naill ai gymrawd neu aelod cyswllt, wedi derbyn eu gwobrau yn swyddogol mewn derbyniad a gynhaliwyd ar nos Fawrth (23 Gorffennaf) Sioe Frenhinol Cymru 2019.

Aelodaeth Gyswllt:

Ym mhob achos mae disgwyl i gyflawniadau eithriadol ymgeiswyr fod yn eglur uwch na lefel gyffredinol pobl eraill sy’n gweithio yn yr un meysydd, pa un ai mewn ffermio, ymchwil, gwaith cyhoeddus neu weithgareddau eraill.

Mr Dyfrig Wyn Hughes o Langefni, Ynys Môn am ei gyflwyniad ‘Twf a Datblygiad trwy Gyfranogiad mewn Clybiau a Chymdeithasau Amaethyddol’.

Mr D Lyndon Joseph o Stormy Down, Pen-y-bont ar Ogwr am ei gyflwyniad ‘Cydnabod bysedd y blaidd fel ffynhonnell protein cartref rhagorol ac yn ychwanegu gwerth at y busnes ffermio’.

Mr Christopher Lloyd o’r Drenewydd, Powys am ei gyflwyniad ‘Busnes manwerthu wedi’i seilio ar gariad at fywyd gwledig’.

Mr Rhys David Lougher o’r Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr am ei gyflwyniad ‘Pwysigrwydd Marchnata ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd wrth Werthu Cynnyrch Amaethyddol yn uniongyrchol o’r Fferm’.

Mr Bruce McKay o Martletwy, Arberth am ei gyflwyniad ‘Gwasanaethau i Amaethyddiaeth a Gwella Da Byw’.

Mr David Morris o Aberhonddu, Powys am ei gyflwyniad ‘Cenhadaeth i sicrhau diwydiant ffermio a bwyd cynaliadwy yng Nghymru’.

Mr W Meirion Owen o Lanarthne, Caerfyrddin am ei gyflwyniad ‘Fy Mywyd gyda Chŵn Defaid yn arwain at fod yn Llysgennad i’r Diwydiant Amaeth yn y Byd Corfforaethol’.

Mrs Joyce Owens o Lannon, Llanelli am ei chyflwyniad ‘Fy Nghyfraniad at y Diwydiant Moch’.

Mr Huw E M Thomas o Lanfallteg, Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin am ei gyflwyniad ‘Datblygu Cadwyn Gyflenwi Gynaliadwy Puffin’.

Mr David Brian Walters o Ffynnon-ddrain, Caerfyrddin am ei gyflwyniad ‘Lles Ffermwyr a Chymunedau Ffermio a Chynhyrchu Llaeth yn Gynaliadwy’.

Cymrodoriaethau:

Caiff Aelodau Cyswllt ond eu hystyried ar gyfer dyrchafiad i gymrodoriaeth os gellir dangos cyfraniad arwyddocaol parhaus i amaethyddiaeth neu ddiwydiant cysylltiedig yn ystod cyfnod eu haelodaeth gyswllt. Nid yw dyrchafiad yn awtomatig a rhaid ei ennill trwy wasanaeth nodedig pellach i’r diwydiant. Mae cymrodoriaethau wedi’u dyfarnu i’r aelodau cyswllt canlynol:

Mr Colin Gordon o Lanrhidian, Gŵyr. Teitl ei gyflwyniad gwreiddiol oedd ‘Ffermio Cymysg, Magu Cŵn Defaid a Threialu’.

Mr Dylan Tudur Jones o Bryn-Rhydd, Edern, Pwllheli. Teitl ei gyflwyniad gwreiddiol oedd ‘Rheoli Tir Glas’. Roedd Mr Jones yn methu bod yn bresennol yn Nerbyniad CARAS.

Mr Arwyn M Owen o Feddgelert, Gwynedd. Teitl ei gyflwyniad gwreiddiol oedd ‘Cefnogi Ffermio Mynydd trwy Ymgysylltu â’r Cyhoedd’.

Mr Aled Owen o Penyfed, Tynant, Corwen.  Teitl ei gyflwyniad gwreiddiol oedd ‘Un Dyn a’i Gi’.

Dr Iwan Owen o Gaersws, Powys. Teitl ei gyflwyniad gwreiddiol oedd ‘Addysg a Hyfforddiant mewn Amaethyddiaeth’.

Mr David Phillips o Windsor Farm, Landyfái, Penfro.  Teitl ei gyflwyniad gwreiddiol oedd ‘Uned Pesgi Bîff ac Ŵyn ar gyfer y Farchnad Gynnar’.

Mrs Janet Phillips o Pen-y-Gelli, Ffordd Bethel, Caernarfon. Teitl ei chyflwyniad gwreiddiol oedd ‘Cyfathrebu Amcanion Polisi i’r Diwydiant Ffermio’.

Mr Robert Rattray o Ffos-y-Fuwch, Croes Newydd, Aberystwyth. Teitl ei gyflwyniad gwreiddiol oedd ‘Dewis Da Byw o Ansawdd i Gynhyrchu Cig o Ansawdd’.

Mrs Julie Thomas o Caerlan Farm, Tonypandy. Teitl ei chyflwyniad gwreiddiol oedd ‘Hwyluso datblygiad sgiliau personol o fewn teuluoedd ffermio’. Roedd Mrs Thomas yn methu bod yn bresennol yn Nerbyniad CARAS.