Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Fe wnaeth diwrnod agoriadol 100fed Sioe Frenhinol Cymru groesawu tyrfaoedd enfawr a llu o westeion arbennig i faes y sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.

Wrth annerch ymwelwyr yn y seremoni agoriadol ddoe (dydd Llun 22 Gorffennaf), eglurodd Llywydd 2019, Mr Seimon Thomas, ba mor falch oedd i fod yn llywydd y gymdeithas yn ystod blwyddyn Sir Nawdd Sir Benfro eleni. “Fel sir mae ein haelodaeth yn fach, ond fel uned rydym yn wych! Fformat y siroedd nawdd sy’n ysgogi cymunedau, yn hyrwyddo amaethyddiaeth ar ei orau ac yn cefnogi Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru”

“Gyda balchder mawr yr ydym yn sefyll yma heddiw fel tair cenhedlaeth o’r un teulu Dryscolgoch, y maent i gyd wedi arddangos yn y sioe ardderchog yma, a’r bore yma mae gennym dair cenhedlaeth o deulu Mansel Davies, Scott, Stephen a Kaye, i agor y sioe.”

Mae cwmni teuluol Mansel Davies wedi datblygu ers iddo ddechrau yn ôl yn 1879… ble’r arferai fod yn ddur a glo, llaeth o Orllewin Cymru yw’r cynnyrch y mae Mansell Davies yn ei halio fwyaf bellach. Mae busnes heddiw yn rhedeg 200 o lorïau ac yn cyflogi 300 o bobl ar hyn o bryd, mewn rhan o Gymru ble mae’r opsiynau cyflogaeth yn gyfyng, gyda 80% o’r busnes wedi’i gysylltu’n uniongyrchol ag amaethyddiaeth.

“Sioe Frenhinol Cymru yw’r prif ddigwyddiad amaethyddol yn y Deyrnas Unedig. Dros y blynyddoedd mae wedi datblygu’n stori lwyddiant ysgubol a welwn o flaen ein llygaid heddiw, y 100fed sioe, stori lwyddiant sydd wedi rhychwantu cenedlaethau o bobl cefn gwlad, ffermwyr a phrif ddinasyddion ein gwlad.” meddai Scott, Stephen a Kaye yn eu hanerchiad.

“Er 1963 mae trefniant y siroedd nawdd wedi caniatáu i’r sefydliad gwych hwn ffynnu flwyddyn ar ôl blwyddyn trwy fuddsoddi mewn cyfleusterau newydd a gwell, ni fyddid yn gallu cyflawni dim o hyn heb yr ymdrechion anhygoel a wneir gan y siroedd nawdd, a ’dyw eleni ddim yn eithriad.

“Hir y parhaed traddodiad y siroedd nawdd i alluogi Sioe Frenhinol Cymru a’r gymdeithas i weithredu fel y ddolen rhwng gwlad a thref, gwledig a threfol a bwyd a’r defnyddiwr.”

Yn dilyn y seremoni agoriadol, roedd yn bleser mawr gennym groesawu Tywysog Cymru a Duges Cernyw i’r sioe. Yn ystod eu hymweliad, fe wnaeth Eu Huchelderau Brenhinol agor arena ceffylau newydd, dadorchuddio cerflun o lawn faint o Farch Cob Cymreig Adran D ac agor gardd newydd ar faes y sioe, wedi’i chreu’n benodol i goffáu hanner canmlwyddiant arwisgiad Ei Uchelder Brenhinol yn Dywysog Cymru, yn swyddogol. Roedd cyfle hefyd i’r ddau ohonynt gyfarfod ag arddangoswyr, stiwardiaid, masnachwyr a mynychwyr y sioe a hyd yn oed gyflwyno nifer o wobrau yn y cylchoedd beirniadu.

Ymunwyd â’r cwpl brenhinol hefyd gan ymwelwyr brenhinol eraill â’r sioe, y Brenin Goodwill Zwelithini kaBhekuzulu a’r Frenhines Pumi, pennaeth cenedl y Zwlw. Yn ymweld â Chymru 140 mlynedd ar ôl rhyfel Eingl-Zwlw 1879, ble bu aelodau o Gatrawd Frenhinol Cymru, fel y mae heddiw, yn ymladd yn Rorke’s Drift, mae’r Brenin Goodwill yn amcanu at gryfhau’r berthynas sydd bellach yn blodeuo rhwng Cymru a Zwlws Kwazulu-Natal.

Ynghyd â chyfarfod arweinwyr ffermio dylanwadol ac aelodau eraill o’r diwydiant amaethyddol, mae’r Brenin Goodwill yn bwriadu mynd â llawer o enghreifftiau o arfer da yn ôl i’w wlad i wella eu sgiliau ffermio ymhellach. Mae rhannu arfer da yn mynd yn ôl i’r rheswm y sefydlwyd cymdeithasau amaethyddol yn wreiddiol.

Yng nghwmni grŵp o aelodau’r Gatrawd Zwlw yn perfformio dawns rhyfelwyr Impi draddodiadol, fe wnaeth y Brenin Goodwill a’r Frenhines Pumi gyfarfod â Thywysog Cymru a Duges Cernyw tra oeddynt yn Sioe Frenhinol Cymru, cyn cychwyn ar eu rhaglen brysur eu hunain.

Yn ôl ym mhen uchaf maes y sioe, fe wnaeth ein Llywydd yn 2018, Mr Tom Tudor, agor Maes M, Bar Aelodau newydd y gymdeithas, sydd wedi’i adeiladu gyda chymorth Sir Nawdd Sir Drefaldwyn, yn swyddogol. Bydd yr adeilad modern hwn yn darparu cyfleusterau newydd, gwell cyfleoedd adloniant clywedol a gweledol a mwy o le y tu allan i’n haelodau ifanc ei fwynhau, tra byddant yn elwa hefyd ar amgylchedd mwy diogel. Bydd hefyd yn creu cyfleuster newydd ar y safle i’w ddefnyddio trwy gydol y flwyddyn.

Yn ddiweddarach yn y prynhawn tro ein Pobl Bwysig Iawn eraill oedd bod yng ngolwg y cyhoedd. Yn dilyn bore o olchi ceffylau a thwtio dofednod yn barod ar gyfer eu cystadlaethau y diwrnod canlynol, fe briododd Bethan ac Arwel, ein cwpl cariadus, yng nghalon y sioe.

Wedi’u hamgylchynu gan griw mynwesol o ffrindiau a theulu (a miloedd o ddymunwyr da hapus) cyfnewidiodd Bethan ac Arwel eu haddunedau yn ein bandstand darlunaidd. Yn dilyn y seremoni, fe wnaeth y pâr ifanc fwynhau gwydraid o siampên a chanapés gyda’u gwesteion cyn cael eu hysgubo ymaith mewn Porsche yn cael ei yrru gan chauffeur i ymuno â’r cyflwynwyr Angellica Bell, Matt Baker a Michael Sheen yn fyw ar The One Show, ble bu iddynt berfformio eu dawns gyntaf yn y stiwdio yn edrych dros y prif gylch.

“Ni allem fod wedi dymuno gwell diwrnod cyntaf i 100fed Sioe Frenhinol Cymru” medd y Prif Weithredwr, Steve Hughson. “Bu’n ddiwrnod prysur iawn, ond yn un rhyfeddol; yn ddydd Llun gwefreiddiol! Mae golwg anhygoel ar faes y sioe … yn llawn dop o ymwelwyr yn mwynhau goreuon amaethyddiaeth Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at dri diwrnod llawn cyffro gwych arall.”