Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae cannoedd o bobl o bob cwr o’r wlad wedi ymgofrestru ar gyfer y Sioe Frenhinol ddigidol gyntaf erioed union 24 awr ar ôl i’r wefan gofrestru gael ei lansio.

Fe wnaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru lansio’r digwyddiad rhithiol yn swyddogol ddoe a dywedodd fod hyn wedi’i wneud yn bosibl gyda chymorth a chefnogaeth NatWest Cymru a Business News Wales sydd wedi bod a wnelo â’r cysyniad o’r cychwyn.

Mae platfform newydd sbon sydd wedi’i greu ochr yn ochr â gwefan y Gymdeithas wedi ychwanegu ymdeimlad newydd a chyfoes at y sioe, sydd ar agor ar-lein yn awr ac yn derbyn cofrestriadau ar gyfer pryd mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn ystod 20fed – 23ain Gorffennaf 2020. Os hoffech chi gofrestru i dderbyn diweddariadau a hysbysiadau neu i ddarllen mwy o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i’n gwefan: https://cafc.cymru/

Mae’r Gymdeithas yn falch dros ben fod NatWest Cymru wedi cytuno i fod yn gefnogwr swyddogol Sioe Frenhinol Cymru Rithiol eleni ac maent yn gyffrous i arddangos rhaglen wythnos o hyd o sesiynau addysgiadol a sesiynau adloniant gydol bob diwrnod yn ogystal â rhanddeiliaid yn cynnal sesiynau holi ac ateb byw i bawb gymryd rhan ynddynt.

Meddai Kevin Morgan, Bwrdd NatWest Cymru: “Rydym wrth ein bodd o fod yn partneru â Sioe Frenhinol Cymru fel cefnogwr swyddogol digwyddiad digidol carreg filltir eleni. O’r cysyniad cychwynnol rydym wedi gweithio’n agos iawn â thîm gweithredol y digwyddiad i ddatblygu’r syniad o sioe ddigidol a chredwn fod hyn yn gyfle arloesol i gael cynulleidfa newydd i ymgysylltu â’r digwyddiad yn ogystal â’r cannoedd o filoedd o bobl sy’n ymweld â maes y sioe bob blwyddyn. Mae’n cymunedau gwledig yn bwysig dros ben inni fel banc, a dyna pam ein bod yn falch o gefnogi cymaint o fusnesau ffermio a busnesau amaethyddol ledled Cymru. Mae eu grymuso nhw, a’r cymunedau o’u hamgylch, wrth inni ddod allan o’r cyfnod clo yn rhan o’n pwrpas a phaham ein bod yn edrych ymlaen at gynnal nifer o ddigwyddiadau digidol fel rhan o sioe ar-lein eleni.”

Meddai Steve Hughson, y Prif Weithredwr, “Wedi’i osod yn erbyn cefndir o siom a her yn gysylltiedig â chanslo’r holl ddigwyddiadau ar Faes y Sioe hyd yma, rydym yn dal i edrych ymlaen gydag ymroddiad i sicrhau dyfodol y Gymdeithas a’i digwyddiadau. Rydym wrth ein bodd o lansio’n Sioe rithiol, a fydd yn caniatáu’r cyfle i bawb fwynhau rhai o’r uchafbwyntiau y mae miloedd yn eu mwynhau bob blwyddyn. Rwyf yn ddiolchgar i NatWest Cymru sydd wedi camu i mewn i gefnogi’r fenter newydd gyffrous yma ac edrychwn ymlaen at barhau ein perthynas ragorol yn y dyfodol.”

Yn ogystal â’r gefnogaeth gan NatWest Cymru i arddangos y sioe rithiol, mae’r gymdeithas yn gyffrous o fod yn gweithio gyda Business News Wales sy’n cynnal platfform y digwyddiad yn y cyfnod yn arwain at ac yn ystod wythnos y sioe.

Gwnaeth Mark Powney, Rheolwr-Gyfarwyddwr Business News Wales Ltd y sylw, “Rwyf wrth fy modd fod Business News Wales wedi sicrhau’r contract i gynhyrchu Sioe Frenhinol Cymru eleni. Er ei bod yn siomedig dros ben peidio â bod yn mynychu’r digwyddiad yn gorfforol eleni, mae fodd bynnag wedi cyflenwi’r sioe â’r cyfle i gyflymu ei siwrnai ddigidol ei hun a fydd gobeithio yn dod yn rhan naturiol o sioeau’r dyfodol. Tra bydd ein tîm cynhyrchu yn helpu i ddarparu profiad Sioe Frenhinol Cymru eleni, byddwn hefyd yn rhannu pob sesiwn gyda’n cynulleidfa fusnes ddyddiol o 20,000+ a fydd yn agor y sioe i gynulleidfa fusnes newydd eleni. Mae ein tîm fideo, gwaith graffig, golygyddol a datblygu’r we yn gweithio o fore gwyn tan nos ar hyn o bryd i sicrhau bod sioe eleni yn llwyddiant digidol i’r 100+ o bartneriaid sy’n gyfrannog.”

 

 

Ochr yn ochr â’r digwyddiad rhithiol, mae’r Gymdeithas wedi lansio ymgyrch #20in20 #20mewn20 i godi £20,000 mewn 20 diwrnod yn arwain at sioe rithiol 2020, gyda’r arian a godir yn cael ei rannu rhwng yr elusennau canlynol: Sefydliad DPJ, Tir Dewi a’r Sefydliad Amaethyddol Brenhinol Llesol (RABI) i gydnabod pwysigrwydd cefnogaeth a chodi’r ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn y diwydiant amaethyddol. Os hoffech chi gymryd rhan ewch i’n tudalen Facebook, sydd â’r wybodaeth ddiweddaraf neu i roi rhodd ewch i’n tudalen JustGiving  https://www.justgiving.com/crowdfunding/royal-welsh

Mae heddiw’n gweld lansio cystadleuaeth ddifyrrwch ‘Y Tîm o Bump Gorau’ ac rydym yn annog cymuned Sioe Frenhinol Cymru i gymryd rhan ac i anfon eu lluniau atom. Mae cystadleuaeth y Tîm o Bump yn Sioe Frenhinol Cymru yn ddigwyddiad pinacl yng nghylch y gwartheg ond mae’r gystadleuaeth newydd hon yn caniatáu i bawb gymryd rhan gyda’u Tîm o Bump gorau. Mae’r cynigion yn gallu cynnwys unrhyw beth o 5 gwialen bysgota i 5 tractor a bydd gwobrau’n cael eu dyfarnu i’r tri chynnig gorau a fydd yn cael eu beirniadu trwy bleidlais gyhoeddus. I gymryd rhan anfonwch eich lluniau i marketing@rwas.co.uk neu defnyddiwch yr hashnodau canlynol ar y cyfryngau cymdeithasol #YSioe2020 #The2020Show.