Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Lewys Jones, sydd wedi graddio mewn Amaethyddiaeth gyda Mecaneiddio, wedi derbyn  Gwobr Myfyriwr glodfawr Harper Cymry/Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2020.

Wedi’i sefydlu yn 1999 gan y diweddar Bill Ratcliffe, Cymrawd o Harper Adams a sylfaenydd cymdeithas cynfyfyrwyr Harper Cymry, mae’r wobr yn agored i fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf sydd wedi bod yn byw yng Nghymru am bum mlynedd neu fwy, sydd wedi cyfrannu’n weithredol at gymdeithas myfyrwyr Harper Cymru ac wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol, gweithgar at y gymuned myfyrwyr ehangach ac yr ystyrir hwy’n llysgennad addawol yn y dyfodol i Brifysgol Harper Adams. Mae angen i’r sawl sy’n ei derbyn fod wedi cael gyrfa academaidd dda hefyd. Mae enillydd y wobr yn derbyn gwobr ariannol, yn ogystal ag aelodaeth o’r dethol Ffermwyr Dyfodol Cymru,  corff anwleidyddol o ffermwyr ifanc sydd yn barod i drafod a mynegi eu barn, a’u pryderon a’u syniadau ar gyfer dyfodol ffermio a bywyd gwledig yng Nghymru.

“Mae ennill Gwobr Myfyriwr Harper Cymry/Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2020 yn fraint, yn gamp enfawr ac yn ffordd wych o orffen fy amser yn Harper,” meddai Lewys, sydd newydd gwblhau ei astudiaethau ym Mhrifysgol Harper Adams yn ddiweddar, gan ennill gradd 2:1. Mae ganddo berthynas deuluol hirsefydlog â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, o ran cefnogi’r gymdeithas ac o ran cystadlu yn y sioe.

Uchelgais gyrfa Lewys yw dod yn ei flaen ym musnes contractio amaethyddol ei deulu, a defnyddio’r sgiliau y mae wedi’u dysgu trwy gydol ei radd i helpu i dyfu’r busnes.

“Rwyf yn gweithio ar gynnal peiriannau ac rwyf yn awyddus i roi meddyliau a syniadau i lawr ar bapur i ddatrys anghenion cwsmeriaid a’r peiriannau. Rwyf wrthi’n barhaus yn datblygu sgiliau gweithio, gwybodaeth ac arbenigedd gan hybu fy natblygiad proffesiynol. Rydym yn dal i weld llawer o newidiadau yn yr ardal oherwydd y farchnad bresennol, ond, rwyf yn bwriadu symud ymlaen gyda thwf graddol parhaus y busnes, gan edrych ar ofynion y cwsmer fel canllaw, wrth inni sefydlu ein menter ffermio ein hunain ar yr un pryd” meddai.

“Bu fy amser yn Harper Adams yn brofiad bythgofiadwy ac rwyf wedi llwyr fwynhau pob munud. Rwyf wedi cael profiadau gwaith amhrisiadwy a chasglu cysylltiadau defnyddiol yn y diwydiant. Yn dilyn blwyddyn anarferol inni i gyd, cafodd fy amser yn Harper ei dorri’n fyr ond rwyf wedi ennill profiadau a gwneud ffrindiau am oes, pethau y byddaf yn eu cario gyda mi am byth a byddwn yn hoffi diolch i Harper am hynny, gyda’r bonws ychwanegol o Radd BSc (Anrh) mewn Amaethyddiaeth gyda Mecaneiddio dan fy adain.”

“Byddwn yn annog myfyrwyr i ymuno â Chymdeithas Harper Cymry gan ei bod yn ffordd wych o gymdeithasu ac o wneud ffrindiau gyda’ch cydfyfyrwyr o Gymru mewn prifysgol yn Lloegr, sy’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn.  Byddaf yn ymuno â Chynfyfyrwyr Harper Cymry i gadw mewn cysylltiad.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i staff Ymddiriedolaeth Ddatblygu’r brifysgol am wneud gwaith rhagorol ac am fy helpu i ennill ysgoloriaethau trwy gydol fy amser yn Harper.”

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o gefnogi’r Wobr hon, sy’n cydnabod potensial eithriadol y genhedlaeth nesaf. Roedd Lewys i fod i dderbyn ei wobr yn Sioe Frenhinol Cymru, ond, oherwydd COVID-19 cafodd y sioe ei chanslo a bydd trefniadau ar wahân yn cael eu gwneud.