Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Gwobr CAFC ar gyfer y Myfyriwr Amaethyddiaeth Gorau yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth.  Rhaid i ymgeiswyr fod wedi astudio Amaethyddiaeth neu raglen gyda chydran arwyddocaol o Amaethyddiaeth i lefel Gradd, Diploma neu Dystysgrif a dylent fod wedi’u geni a’u magu yng Nghymru.

Mae Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn eleni yn mynd i Dewi Eifion Davies o Penlan, Llanrhystud, Aberystwyth, Ceredigion.

Mae Dewi yn fab i ffermwr defaid o Lanrhystud, gyda’r teulu’n ffermio tir ger Llanrhystud a Phenrhyn-coch.  Mae’r teulu’n ymwneud â chontractio amaethyddol hefyd, yn fwyaf arbennig gwneud silwair byrnau mawr.

Meddai Dr Iwan Owen o IBERS: “Roedd Dewi yn fyfyriwr eithriadol trwy gydol ei 3 blynedd o astudiaethau israddedig, gan ddangos brwdfrydedd, ymroddiad a gallu arbennig wrth iddo ennill gradd Dosbarth I ragorol.

Mae Dewi yn aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanddeiniol, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n amrywio o feirniadu stoc i berfformio ar lwyfan.  Mae’n Is-Gadeirydd Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Ceredigion ac yn aelod o Bwyllgor Cymru Gyfan.

Yn ychwanegol at ei waith academaidd a helpu ar y fferm deuluol ac yn y busnes contractio, mae Dewi wedi gweithio’n rhan amser hefyd i CCF am y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae wedi derbyn swydd barhaol llawn amser gyda CCF yn ddiweddar.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn llongyfarch Dewi ar ei gamp ac yn dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.”

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o gefnogi’r Wobr hon, sy’n cydnabod potensial eithriadol y genhedlaeth nesaf.