Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Ar ddydd Sadwrn 19eg Medi teithiodd 11 o gystadleuwyr i Ganolbarth Cymru i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Cwympo Coed flynyddol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru sy’n dathlu ei dengmlwyddiant ar hugain!

Cystadleuaeth Cwympo Coed CAFC 2020 yw 30ain flwyddyn y gystadleuaeth sy’n cael ei chynnal yng nghoedwigoedd a choetiroedd Cymru. Gan gychwyn yn 1990 ond heb ei chynnal yn 2001 oherwydd epidemig y traed a’r genau, cynhelir y gystadleuaeth mewn gwahanol leoliadau fel arfer ac felly mae hi wedi teithio i bobman, er o gwmpas Canolbarth Cymru y bu hynny’n bennaf. Cyn hyn roedd cystadleuaeth yn cael ei chynnal ar Faes y Sioe yn ystod Wythnos y Sioe Frenhinol. Gyda gofynion cynyddol am yr hyn yr ydym yn ei adnabod bellach fel cyfarpar diogelu personol (PPE) a chymhwysedd dangosadwy h.y. ardystiad, gwnaed y penderfyniad yn 1989 i symud y gystadleuaeth i mewn i’r coetiroedd. Dros y blynyddoedd mae’r gystadleuaeth wedi dod yn fwy cyfunion i’r rheolau ar gyfer Pencampwriaethau Torri a Thrin Coed y Byd. Serch hynny mae Cystadleuaeth Sioe Frenhinol Cymru yn cadw’i gofyniad unigryw ei hun, sef tocio canghennau’r goeden a gwympwyd, gofyniad y mae’r cystadleuwyr yn edrych ymlaen ato.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn 1990 yng Nghwmysgawen, Coedwig Coed Sarnau, ger Abaty Cwm Hir. Enillydd y gystadleuaeth gyntaf oedd Paul Lloyd, o Lanidloes sy’n gontractwr cynaeafu coed.

Mae’n gystadleuaeth flynyddol a heddiw mae’n digwydd fel arfer dros 2 ddiwrnod ac yn cynnwys 5 disgyblaeth, er oherwydd niferoedd llai yn 2020 (effaith COVID-19,) roeddem yn gallu cynnal y gystadleuaeth dros ddiwrnod. Mae’r disgyblaethau i gyd yn ymwneud â chwympo a phrosesu coeden â llif gadwyn, sy’n cael ei wneud gan weithiwr coedwig yn ystod diwrnod gwaith: Gosod cadwyn newydd, trawstorri boncyff sydd ar y llawr yn gywir, cwympo coeden a’i thocio (torri’r canghennau i ffwrdd). Mae pob gornest yn erbyn y cloc. Caiff y disgyblaethau eu beirniadu a’u sgorio yn unol â’r rheoliadau cwympo coed. Os hoffech chi gael gwybod mwy am y disgyblaethau a ddefnyddir gan y gystadleuaeth cliciwch ar y ddolen ganlynol: www.ukloggers.co.uk

Dros y blynyddoedd mae poblogrwydd y gystadleuaeth wedi amrywio ond bu’r nifer sy’n cystadlu yn rhagorol yn y blynyddoedd diweddar, gyda chystadleuwyr yn dod o bob cwr o’r DU. Mae pob disgyblaeth ag angen beirniad a stiward felly ni allem barhau heb help ein tîm o feirniaid a stiwardiaid gwirfoddol. Mae yna dri sydd wedi bod gyda’r gystadleuaeth o’r cychwyn, Brian Barker, George Johnson a Richard Siddons. Mae dyfodol y gystadleuaeth yn edrych yn ddisglair, gyda phwyslais cynyddol ar rôl coetiroedd yng Nghymru a’r angen am weithlu tra medrus i’w rheoli.

Enillydd cystadleuaeth 2020 yw Gethin Hughes, contractwr cynaeafu o’r Rhiw, Pwllheli, Gwynedd. Am wybodaeth a sgorau’r cystadleuwyr eraill cysylltwch â’r Gymdeithas.