Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae i Gymdeithasau a Sioeau Amaethyddol hanes hir a chlodfawr ac maen nhw wrth galon cymunedau gwledig yng Nghymru.  Mae i bob un rôl bwysig wrth hyrwyddo ffermio a chynhyrchu bwyd cynaliadwy i’r cyhoedd ehangach ac wrth gynnal cydlyniant cymunedol, ein diwylliant, a’r agenda gwell iechyd.

O ganlyniad i’r pandemig COVID-19, cafodd y rhan fwyaf, os nad pob un o’r sioeau amaethyddol ar draws Cymru eu canslo yn 2020 a bydd nifer fawr yn cael eu canslo yn 2021.

Mae hi’n bwysig fod Cymdeithasau sioeau amaethyddol yn gallu dychwelyd i sefyllfa o rywfaint o normalrwydd ar ôl y pandemig sy’n cynnwys ailgyflwyno sioeau amaethyddol ar draws Cymru.  Yn 2020, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad byr o gadernid sioeau amaethyddol, gyda ffocws arbennig ar y canlynol:

  • Beth yw’r problemau sy’n wynebu cymdeithasau a sioeau amaethyddol?
  • Pa gymorth allai fod ei angen i helpu cymdeithasau amaethyddol ar yr adeg yma?
  • Sut all Cymdeithasau helpu ei gilydd a’r gymuned amaethyddol?
  • Beth fyddai’n helpu i adfer y sioeau y tymor nesaf?

Roedd un o’r argymhellion o’r adroddiad yn cynnwys sefydlu ‘cronfa arloesi’ trwy ba un y gall sioeau o bob maint wneud cais am gymorth ariannol i gyflenwi atebion newydd ac arloesol i’r heriau presennol.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) yn gweinyddu Cronfa Arloesi Sioeau Amaethyddol (y Gronfa Arloesi) ar ran Llywodraeth Cymru.

Pot Ariannu                                    –             £25,000

Agoriad ceisiadau                         –             18 Mehefin 2021.

Dyddiad Cau                                  –             16 Gorffennaf 2021 am 5yh

Canllawiau Cronfa Arloesi Sioeau Amaethyddol

Ffurflen Gais