Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Gwobr CAFC am y Myfyriwr Amaethyddiaeth Gorau yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth.  Rhaid i ymgeiswyr fod wedi astudio Amaethyddiaeth neu raglen gydag elfen sylweddol o Amaethyddiaeth i lefel Gradd, Diploma neu Dystysgrif a dylent fod wedi’u geni a’u magu yng Nghymru.

Mae Gwobr eleni am Fyfyriwr y Flwyddyn ym mynd i Osian Gwyn Jones o Rhyd-y-Fen, Arenig, Y Bala, Gwynedd.

Magwyd Osian ar fferm Rhyd-y-Fen, Arenig, Y Bala, Gwynedd, fferm fynydd rhwng 340m a 689m yn cadw 500 o ddefaid Mynydd Cymreig a 18 o fuchod Duon Cymreig. Osian fydd y 4edd genhedlaeth o’r teulu i ffermio yno, ond mae’r teulu wedi ffermio yn yr ardal ers canrifoedd.

Mynychodd Osian Ysgol Gynradd Bro Tryweryn ac Ysgol Uwchradd y Berwyn cyn cael ei dderbyn i astudio am radd BSc (Anrh) mewn Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2018. Graddiodd eleni â gradd Dosbarth I gyda marciau arbennig o uchel a chyson.

Yn ei draethawd gradd cwblhaodd ymchwiliad i’r posibilrwydd o galchu glaswelltir amaethyddol fel modd o atal llifogydd. Dangosodd ei ymchwiliad fod peidio â rhoi calch yn cael effaith negyddol ar ymdreiddiad dŵr ac y gallai rhoi calch fod yn fodd o wella ymdreiddiad ar laswelltir.

Dywed mai ei uchafbwyntiau tra oedd yn fyfyriwr yn y Brifysgol oedd y darlithoedd glaswelltir – yn benodol y darlithoedd ar systemau pori a sut mae modd cynyddu effeithlonrwydd defnydd glaswellt drwy bori mewn dull mwy technegol; hefyd y darlithoedd ar gyfrifo ffrwythlondeb ac iechyd pridd. Ystyria fod yr holl waith a wnaethpwyd ar yr amgylchedd amaeth yn berthnasol iawn i’r math o ffermio y maent yn ei ymarfer gartref ac yn gyfoes iawn o ystyried y cynnydd yn niddordeb y cyhoedd yn ôl troed amgylcheddol eu bwyd. Yn ogystal, gwerthfawrogodd y  bywyd cymdeithasol rhagorol sydd i’w brofi ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ei gynlluniau ar ôl graddio ar hyn o bryd yw ffermio gartref gan chwilio i mewn i rentu mwy o dir i ehangu’r ddiadell a’r fuches yn ogystal ag opsiynau arallgyfeirio posibl. Mae hefyd yn bwriadu chwilio am swydd o fewn y diwydiant amaethyddol i gyd-fynd â’i waith ar y fferm yn y dyfodol agos.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn llongyfarch Osian ar ei gamp ac yn dymuno’n dda iddo at y dyfodol.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o gefnogi’r Wobr hon sy’n cydnabod potensial aruthrol y genhedlaeth nesaf.