Cystadlaethau Silwair Cladd a Byrnau Mawr 2021 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cystadlaethau Silwair Cladd a Byrnau Mawr Cymru Gyfan 2021 sy’n cael eu rhedeg ar y cyd gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru, wedi gweld silwair o’r safon uchaf yn cael ei gynhyrchu eto eleni gan lawer o’r tyfwyr silwair gorau o bob cwr o Gymru.

Bob blwyddyn mae’r ddwy gystadleuaeth silwair yn agored i holl aelodau 22 Cymdeithas Tir Glas Cymru ac maent ymhlith y cystadlaethau y mae’r cystadlu mwyaf brwd amdanynt yn y diwydiant.  Mae’r Gymdeithas yn falch fod y cystadlaethau hyn yn dal i gael eu beirniadu yn ystod y pandemig Covid-19.  Eleni, yn ychwanegol at y gwaith papur arferol, gofynnwyd i’r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer ranbarthol gyflenwi rhywfaint o luniau a fideos penodol i gefnogi eu cynigion.

 

Cystadleuaeth Silwair Cladd Cymru Gyfan 2021

Enillydd Cystadleuaeth Silwair Cladd 2021, a noddir yn garedig gan Wynnstay Group PLC ac a gefnogir gan Agri Lloyd International Ltd, yw’r brawd a chwaer Nigel Williams a Joy Smith, Parc-y-Marl Farm, Llysyfran, Clarbeston Road, Sir Benfro (aelod o Gymdeithas Tir Glas Gogledd Sir Benfro); gydag Elwyn Griffiths, Hill House Farm, Norton, Llanandras, Powys (aelod o Gymdeithas Tir Glas Dwyrain Maesyfed) yn ail agos iawn.

Cytunodd y Panel Beirniadu fod Parc-y-Marl Farm fel pecyn cyfan, yn cael ei rheoli’n dda o fewn system drefnus iawn.  Tra bo’r dadansoddiadau ar ansawdd y silwair (a brofwyd gan Agri-Lloyd) yn bwysig, roedd y beirniaid hefyd yn ystyried rheolaeth y cladd ac arferion porthi ymhlith y marcwyr effeithiolrwydd eraill.

Roedd panel beirniadu eleni’n cynnwys beirniad technegol John Evans; noddwr y Diwydiant Wynnstay yn cael ei gynrychioli gan Bryn Hughes ac enillydd Cystadleuaeth Silwair Cladd 2020 Michael Williams, Fagwrfran East, Cas-mael, Hwlffordd.

Ychwanegodd Mr John Evans “Mae hi mor hyfryd nodi bod pob un o’r 5 ymgeisydd wedi gwneud cyflwyniadau eithriadol o dda ac wedi dangos eu silwair a’u ffermydd inni hyd eithaf eu gallu.  Fe wnaeth y Panel Beirniadu i gyd edrych ar y lluniau a’r fideos yn unigol, ac yna gyfarfod ar Zoom i drafod ein canfyddiadau.  Roedd yn foddhaol iawn nodi ein bod i gyd yn cytuno ac wedi dod i’r un penderfyniadau ynglŷn â’r enillwyr.”

Roedd y panel i gyd yn cytuno bod Parc-y-Marl Farm yn dangos silwair wedi’i gadw’n dda iawn; yn ogystal ag agweddau eraill ar y fferm a gafodd eu dangos yn dda, ac maent yn fodlon eu bod wedi dod o hyd i enillydd teilwng. Roedd y panel yn cytuno hefyd fod yr ail ond wedi colli o drwch blewyn a bod pob un o’r pump yn y rownd derfynol i gyd yn gystadleuwyr teilwng.

Mae Parc-y-Marl yn fferm 400 erw gyda llawer o’r fferm yn sefyll yn wynebu’r De, 400-600 troedfedd uwchben lefel y môr ar bridd priddgleiog dros graig sy’n draenio’n rhwydd.  Maent yn godro 180 o fuchod Friesian Holstein sy’n cynhyrchu 7,500litr/fuwch – (4400 litr y flwyddyn oddi ar borthiant – 4.36% Braster Menyn / 3.35% Protein). Maent yn cadw 86 o wartheg stoc llaeth ifainc dan 12 mis; a 65 rhwng 12-24 mis oed; yn ogystal â 40 o stoc Bîff ifanc dan 12 mis oed; a 50 rhwng 12-24 mis oed.

Roedd dadansoddiad sylfaen dogn y gaeaf yn DM 43.3%, gwerth-D 79.5%, ME 12.76 MJ/kg a CP 14.7% gan ddangos ansawdd a dull rhagorol.  Cymerwyd 220 erw ar gyfer y toriad cyntaf ar y 13eg o Fai – cafodd y cnwd ei wywo am 24 awr a chwblhawyd y broses silweirio gyfan o fewn 2 ddiwrnod. Cafwyd ail doriad o 150 erw ar ddiwedd Mehefin, a thrydydd toriad o 100 erw ddiwedd Awst; gan wneud cyfanswm y tunelli a silweiriwyd yn 1960 tunnell. Yn ogystal mae 36 erw o Farlys i’w grimpio a dyfir ar y fferm.

Yn ail yng nghystadleuaeth agos iawn eleni oedd y ffermwr llaeth Elwyn Griffiths, Hill House Farm, Norton, Llanandras, Powys (Cymdeithas Tir Glas Dwyrain Maesyfed). Mae Hill House Farm yn fferm 290 erw gyda 830 o ddefaid / 1100 o ŵyn a 50 o fuchod Bîff a 2 darw.  Roedd dadansoddiad sylfaen y dogn gaeaf yn DM 42.7%, gwerth-D 75%, ME 12.0 MJ/kg a CP 16.2%.

 

Enillwyr rhanbarthol a theilyngwyr Cymru gyfan eraill eleni oedd:

  • T D & N Roberts, Fferm y Llan, Cerrigceinwen, Bodorgan, Ynys Môn – aelodau o Gymdeithas Tir Glas Ynys Môn;
  • Neil Morgan, Trederwen Hall, Trederwen Lane, Yr Ardd-lin, Llanymynech – aelod o Gymdeithas Tir Glas Powys
  • Alun Morris, Maenelin, Llanddeiniol, Aberystwyth – aelod o Gymdeithas Tir Glas Aberystwyth.

Meddai Charlie Morgan, Ysgrifennydd FWGS “mae’n galonogol iawn gweld ansawdd y porthiant a gynhyrchwyd ar y fferm a’r sylw i fanylion y mae ffermwyr yn ei ddangos yn y darn o ffilm er mwyn lleihau costau a gwella arbedion effeithlonrwydd ar draws pob menter.   Dymunwn ddatgan ein llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yng nghystadleuaeth eleni ac rydym yn fodlon iawn ar y safon uchel sydd ei hangen ar gyfer y gystadleuaeth hon ac o dan amgylchiadau afrealistig.”

 

 

Cystadleuaeth Byrnau Mawr Cymru Gyfan 2021

Enillydd Cystadleuaeth Byrnau Mawr 2021, a noddwyd yn garedig gan BPI Agriculture (Silotite), yw Gary a Jess Yeomans, Pant Farm, Llanwytherin, Y Fenni (aelodau o Gymdeithas Tir Glas Sir Fynwy).

Fe wnaeth y beirniaid ddim ond gofyn i’r pum enillydd rhanbarthol gyflenwi rhywfaint o luniau a fideos penodol, yn ychwanegol at y gwaith papur arferol, i gefnogi eu cynigion.  Bu i’r panel beirniadu – Dr Dave Davies (Silage Solutions); Stuart Anthony, (BPI Agri – noddwr); a Keith Williams, Haverhill Farm, Spittal, Hwlffordd (Enillydd Cystadleuaeth Silwair Byrnau Mawr 2020) i gyd eistedd i lawr yn unigol i gloriannu’r cynigion, ac roedd pob un o’r tri ag un llais wedi dod i’r un penderfyniad ynghylch yr enillydd.

Meddai Dave Davies, beirniad technegol “Roedd y rhain yn enillwyr oedd yn sefyll allan o ran ansawdd y silwair ond hefyd o ran y gwerth oeddynt yn ei gael o’u porthiant cadw.  Mae ganddynt system godro geifr drawiadol gyda phorthiant wedi’i gywain wrth galon y system, gan silweirio nid yn unig laswellt ond hefyd yn defnyddio cymysgeddau glaswellt lwsérn yn eu system silwair.”

Mae Gary a Jess yn ffermio 100 hectar 300 troedfedd uwchben lefel y môr. Mae gyda’r fferm eifr tua 900 o eifr a hwy yw’r cyflenwyr llaeth gafr cymeradwy i Hufenfa’r Fenni. Yn ogystal maent yn cadw 20 o fuchod sugno duon Cymreig gyda lloi; 20 o wartheg stôr; a 38 o loi bîff a stoc ifanc dan 24 mis.

Cawsant dri thoriad cynaeafu (Mai, Mehefin ac Awst) gyda’r cyfanswm y llynedd yn dros 450 o fyrnau – 50 tunnell o wair a 600 tunnell o indrawn.

Mae copi o glip ymgeisio Mr Yeomans i’w gael ar y ddolen ganlynol: https://youtu.be/wSXzct8Gnj4

Er eu bod yn gwneud y byrnu ar gontract, mae gweddill y gwaith cynaeafu’n cael ei wneud “yn fewnol” ar y fferm. Mae’r cnwd yn cael ei dorri gyda pheiriant lladd gwair Lely 2.8m a’i adael dros gyfnod gwywo o 24 awr cyn cael ei fyrnu gyda pheiriant Mân-Ddarnio Sgwâr New Holland.  Roedd dadansoddiad eu byrnau mawr yn dangos DM 36.0%, CP 17.6, gwerth-D 70.5, ME 11.3, a pH 4.6.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Eilir Jones, Drem Ddu, Llanbed.  Roedd y frwydr am yr ail safle’n llawer mwy tynn ond teimlai’r beirniaid fod Mr. Jones fymryn bach ar y blaen i’r lleill oedd yn ail, o ran ei allgynhyrchion a’i system ffermio, ansawdd ei stoc ond hefyd o ran ansawdd ei silwair o gymharu â’r lleill yn y rownd derfynol.

Mae Drem Ddu yn fferm 240 erw sy’n wynebu’r De-Orllewin 800 troedfedd uwchben lefel y môr. Maent yn stocio 150 o fuchod llaeth ynghyd â 73 o stoc ifanc.  Maent yn cynaeafu tri thoriad y flwyddyn (Mai, Mehefin/Gorffennaf ac Awst/Medi).  Roedd dadansoddiad y silwair yn: DM 40.2%, CP 15.4, Gwerth-D 71.9, ME 11.5, pH 4.6.

 

Y rhai eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y Gystadleuaeth oedd:

  • Rhydian Glyn, Rhiwgriafol, Tal-y-wern, Machynlleth (Cymdeithas Tir Glas Bro Ddyfi);
  • David Griffiths, Rhosson Ganol, Tyddewi, Hwlffordd (Cymdeithas Tir Glas Gogledd Sir Benfro); a
  • Thomas Jones, Fferm Y Goitre, Pwllheli (Cymdeithas Tir Glas De Arfon).

Byddai Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn hoffi cymryd y cyfle hwn i ddiolch i Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru a’r noddwyr BPI Silotite, Wynnstay, ac Agri Lloyd am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad parhaus wrth redeg cystadlaethau Silwair Cymru Gyfan.