Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

O ystyried cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw na fydd dim newidiadau i’r cyfyngiadau coronafeirws ar hyn o bryd, mae’r paratoadau at y Ffair Aeaf wedi hen gychwyn ar gyfer y digwyddiad deuddydd sy’n cael ei gynnal ar ddydd Llun 29ain a dydd Mawrth 30ain Tachwedd.

Gydag ychydig dros wythnos i fynd nes bydd maes y sioe yn Llanelwedd yn llawn ymwelwyr, arddangoswyr a da byw ysblennydd unwaith eto, mae’r Gymdeithas yn edrych ymlaen at groesawu selogion y Ffair Aeaf sy’n dychwelyd i Faes Sioe Frenhinol Cymru ar gyfer ei digwyddiad mawr cyntaf er Ffair Aeaf 2019.

Wedi’i chynnal gyntaf yn 1990 ac ond yn ddigwyddiad undydd cymharol fach yn wreiddiol, mae llawer yn cyfeirio’n awr at Ffair Aeaf Frenhinol Cymru fel y sioe stoc ddethol orau yn Ewrop ac mae wedi hen ymsefydlu fel un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd ar galendr sioeau amaethyddol Prydain.

Gyda channoedd o gynigion gwartheg, defaid, moch a cheffylau a thros £25,000 mewn arian gwobrwyo ar gynnig, mae’r llwyfan wedi’i osod ar gyfer gwerth deuddydd gwych o gystadlaethau.

Bydd Ffair Aeaf eleni’n cael ei hagor yn swyddogol gan Gadeirydd y Cyngor, Mr David Lewis DL FRICS FLAA FRAgS yn Neuadd Arddangos 1 Sioe Frenhinol Cymru, Prif Gylch ar ddydd Llun 29ain Tachwedd am 10 y bore.

Mae Mr Lewis o Benrhiw, Llandysul yn adnabyddus fel arwerthwr da byw a bridiwr gwartheg Charolais. Yn ogystal â bod yn un o brif sylwebwyr gwartheg y Gymdeithas ers dros 40 mlynedd, Mr Lewis oedd Llywydd Sioe Frenhinol Cymru yn 2005 a chyn hynny mae wedi dal swydd Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr. Yn 2017 dyfarnwyd Gwobr Aur y Gymdeithas i Mr Lewis am ei lwyddiannau parhaol a’i gyfraniad eithriadol at y Gymdeithas.

Yn dilyn yr agoriad swyddogol byddir yn cyflwyno Gwobr Goffa John Gittins 2021, Bwrsari Cynhadledd Ffermio Rhydychen CAFC 2022, Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield 2022 a Gwobr Cymrodoriaeth CARAS i deulu’r Diweddar Mr Richard Tudor.

Ynghyd â’r atodlen arferol o gystadlaethau, dosbarthiadau, arddangosfeydd ac arddangosiadau, mae’r Ffair Aeaf yn cynnig y cyfle perffaith i siopwyr gael hyd i anrhegion Nadolig unigryw a gwreiddiol oddi ar y cannoedd o stondinau masnach a byddwn yn gweld yr arddangosfa dân gwyllt wych yn ei hôl ar y nos Lun ar yr amser cynharach o 6:30 pm. Bydd y neuadd fwyd yn cynnig arddangosfa o gynhyrchwyr bwyd gorau un Cymru a’u cynnyrch unwaith eto, gan demtio ymwelwyr i roi cynnig ar yr amrywiaeth eang o ddanteithion coginiol.

Bydd angen i bob tocyn gael ei brynu cyn y digwyddiad trwy ein gwefan er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau Coronafeirws presennol. Oherwydd rheoliadau Tracio ac Olrhain Llywodraeth Cymru ni fyddwn yn gallu cynnig y mynediad am ddim arferol ar ôl 4 y pnawn ar y nos Lun.

Bydd angen i ymwelwyr sy’n mynychu’r Ffair Aeaf sydd dros 18 oed ddarparu tystiolaeth o’u pàs COVID GIG neu brawf llif unffordd negyddol wrth gyrraedd. Mae mesurau ychwanegol yn cael eu rhoi yn eu lle i sicrhau bod diogelwch pawb yn brif flaenoriaeth pan fyddant yn ymweld â maes y sioe. Rydym yn gofyn yn garedig i bob ymwelydd wisgo gorchuddion wyneb pan fyddant y tu mewn i unrhyw un o’n hadeiladau, glynu at gadw pellter cymdeithasol a chadw at systemau unffordd a defnyddio ein mannau diheintio dwylo yn rheolaidd.

Prynwch eich tocynnau ar gyfer y Ffair Aeaf ar-lein yn awr ar ein our gwefan. I gael mwy o wybodaeth am y ffair a’n mesurau diogelwch COVID ewch i www.rwas.wales/winter-fair/.