Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Gwobr Goffa John Gittins yn cael ei dyfarnu i rywun sydd wedi’i eni, sy’n gweithio neu sy’n byw yng Nghymru sydd ym marn y beirniaid, wedi gwneud cyfraniad nodedig at Ddiwydiant Defaid Cymru.  Sefydlwyd y Wobr yn 2000 gan Gymdeithas Bridwyr Defaid Miwl Cymru ar y cyd â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru fel arwydd o barch at sefydlydd y Defaid Miwl Cymreig, Mr John Gittins o Ystum Colwyn, Meifod, Powys.

Gwahoddir Pwyllgorau Ymgynghorol CAFC yng Nghymru, Cymdeithas Bridwyr Defaid Miwl Cymru, NSA Cymru, yr NFU, UAC a’r CLA i gyflwyno enwebiadau.

Eleni, mae un o’r gwobrau uchaf ei bri yn amaethyddiaeth Cymru, Gwobr Goffa John Gittins am gyfraniad nodedig at Ddiwydiant Defaid Cymru, wedi’i hennill gan Mr Terry Bayliss.

Enwebwyd Mr Bayliss ar y cyd gan Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) a Chymdeithas Ddefaid Genedlaethol Cymru (NSA Cymru), mewn cydnabyddiaeth o’i rôl wrth sefydlu cydweithfa ffermio Farmers First, a’i ddau ladd-dy gweithredol Farmers Fresh a Farmers Fresh Wales. Mae’r busnes, sydd yn eiddo i 2,750 o ffermwyr sy’n gyfranddalwyr yn canolbwyntio ar weithio i ffermwyr ledled y Deyrnas Unedig trwy ddatblygu marchnadoedd allforio ar gyfer cig oen y Deyrnas Unedig. Mae’r cwmni, sydd bellach â throsiant blynyddol o fwy na £100 miliwn ac sy’n prosesu miliwn o ddefaid y flwyddyn, sy’n cyfateb i 10% o gynnyrch ŵyn y Deyrnas Unedig wedi bod yn gyfrwng i gynnal prisiau’r farchnad, ac o fudd i lawer o ffermwyr yn y Deyrnas Unedig.

Dechreuodd y stori lwyddiant syfrdanol yn 1998 pan fu i Terry, ynghyd â phedwar arall ffurfio “Farmers Ferry” a oedd yn anelu at allforio ŵyn yn uniongyrchol o ffermydd i’r cyfandir.  O syniad a anwyd o enillion gwael i ffermwyr defaid mae’r cwmni wedi tyfu a phrofi’n hollbwysig wrth gynnal prisiau’r farchnad yn arbennig prisiau’r ŵyn mynydd llai ac yn ei ail flwyddyn allforiodd 1.2 miliwn o ŵyn.  Bu Terry’n ymwneud yn uniongyrchol â’r cwmni ers ei ffurfio gan wasanaethu fel Cyfarwyddwr y Cwmni a Chadeirydd am 23 mlynedd.

Arweiniodd llwyddiant y Farmers Ferry yn gyflym at gynnig cyfranddaliadau yn y cwmni Farmers First a phrynodd dros 2,750 o ffermwyr gyfran yn y busnes.  Yn 2000, ffurfiwyd Farmers Fresh fel braich lladd-dy’r busnes yn gweithio o’i ladd-dy yn Kenilworth, Swydd Warwick er mwyn allforio carcasau ŵyn.  Sefydlodd y cwmni fynediad a reolid gan ffermwyr i farchnad ŵyn enfawr Ewrop, gyda’r egwyddor sylfaenol y byddai dod o hyd i alw am gynnyrch y Deyrnas Unedig yn dod â chystadleuaeth i farchnad y Deyrnas Unedig ac yn gwthio pris cig oen i fyny.

Bu egni ac uchelgais Terry yn rhan annatod o dwf y busnes, a thrwy’i arweinyddiaeth cadwodd y fenter ar ei nod craidd o wella’r enillion i gynhyrchwyr da byw’r Deyrnas Unedig.

Mae Terry wedi hyrwyddo cig oen Cymreig yn gyson ac roedd ganddo uchelgais ers tro byd i brosesu stoc yng Nghymru.  Ehangodd y busnes ymhellach yn Ionawr 2018 gan ffurfio Farmers Fresh Wales trwy gael gafael ar Ladd-dy Cig Fairfield yn Wrecsam, sydd â’r gallu i brosesu 10,000 o ŵyn bob wythnos, a gwasanaethu’r 1,100 o gyfranddalwyr sy’n ffermio yng Nghymru.

Dan Gadeiryddiaeth Terry mae’r busnes wedi cyfarfod llawer her, yn y dyddiau cynnar pan ataliwyd allforion oherwydd achosion o glwy’r traed a’r genau yn y Deyrnas Unedig, pryderon gwirioneddol ynghylch y cytundeb Brexit ac yn awr y pandemig Covid cyfredol.  Mae’r heriau hyn wedi’u goresgyn wrth i’r cwmni weithio’n galed i gynnal masnach gyda 12 o wledydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd a datblygu busnes newydd ymhellach trwy gyflenwi marchnad ddomestig y Deyrnas Unedig a Gwledydd y tu allan i’r UE, yn cynnwys Canada a’r Dwyrain Canol.

Mae’r cwmni’n parhau i ganolbwyntio ar ei egwyddorion craidd, gan sylweddoli mai’r gwerth mwyaf y gall y cwmni ddod i’r ffermwr defaid yw bod yno i brynu amrywiaeth o stoc mewn marchnadoedd da byw ac un uniongyrchol o’r fferm.  Y cwmni yw’r prif ladd-dy sy’n eiddo i ffermwyr sy’n cyflenwi carcasau ŵyn a chig dafad i gwsmeriaid cyfanwerthu Ewrop a’r Deyrnas Unedig.  Wedi datblygu o ddechreuadau cyffredin i fod yn chwaraewr pwysig yn sector prosesu’r Deyrnas Unedig, cytunodd y beirniaid fod hyn yn gyfraniad nodedig  i’r Diwydiant Defaid yng Nghymru.

Mr Alwyn Rees, yn cynrychioli Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Mr Kevin Parry, o Gymdeithas Bridwyr Defaid Miwl Cymru a Ms Kate Hovers, o Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol Cymru oedd yn ffurfio panel y beirniaid ar gyfer y Wobr.

Dywedodd y beirniaid fod safon yr ymgeiswyr eleni, unwaith eto, yn eithriadol.  Ond, gan gyfweld rhestr fer o dri ymgeisydd, cafodd y beirniaid eu taro’n fawr gan lwyddiannau’r holl ymgeiswyr a gyrhaeddodd y rhestr fer, ond ar ôl ystyriaeth ofalus fe wnaethant gytuno yn y diwedd y dylai Gwobr John Gittins gael ei dyfarnu i Mr Terry Bayliss mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad oes at Ddiwydiant Defaid Cymru.

Fel yr enillydd, bydd Mr Bayliss yn derbyn eitem o Risial Cymreig, wedi’i noddi’n garedig gan Gymdeithas Bridwyr Defaid Miwl Cymru.