Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Ar ôl misoedd o baratoi mae’n hyfrydwch gan y Gymdeithas lansio llwyfan ddethol newydd sbon yn gyflwynedig i’w haelodaeth sy’n llawn gwybodaeth newydd a pherthnasol yn gysylltiedig â’r diwydiannau amaethyddol a gwledig yng Nghymru. Lansiwyd y llwyfan ddethol yn seremoni agoriadol y Ffair Aeaf bore heddiw.

Bydd y llwyfan aelodaeth newydd nid yn unig yn diweddaru ein haelodau gyda’r newyddion diweddaraf am grantiau sydd ar ddod, diweddariadau am y diwydiant ac adnoddau sydd ar gael i’w lawrlwytho ond hefyd â buddion aelodaeth cyfredol a newydd, ffyrdd o ddechrau cymryd rhan gyda’ch pwyllgor ymgynghorol sirol a phodlediadau sain a fydd yn amlygu amrywiol randdeiliaid a’r rheini sydd a wnelo â’r Gymdeithas y tu ôl i’r llenni.

Bydd cyfleoedd i aelodau brynu tocynnau bore-godwyr ar gyfer ein digwyddiadau, a ffyrdd newydd a chyffrous o ddefnyddio eu haelodaeth ac i gymryd rhan gyda’r Gymdeithas i helpu i lunio’i dyfodol ar gyfer cenedlaethau i ddod. Bydd llecyn hefyd i aelodau archwilio sut y gallant hurio maes y sioe ar gyfer dathliadau a digwyddiadau a chyngor ar ble gallant ddod o hyd i help a gwasanaethau cymorth.

Mae’r Gymdeithas yn dra diolchgar i Gymdeithas Adeiladu’r Principality am eu nawdd hael i’n galluogi i lansio’r llwyfan aelodau newydd yma. Heb y cymorth hwn ni fyddem yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn i’n haelodaeth werthfawr ac rydym yn gobeithio y bydd y bartneriaeth yma’n parhau i gryfhau i’r dyfodol.

Vicky Wales, Prif Swyddog Cwsmeriaid yng Nghymdeithas Adeiladu’r Principality:
”Mae’n hyfrydwch gennym fod yn noddi Llwyfan Aelodaeth newydd Sioe Frenhinol Cymru sy’n cynnig amrediad o wybodaeth a nodweddion i fod o fudd i’r gymuned amaethyddol yng Nghymru. Edrychwn ymlaen hefyd at weithio gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i ddod ag addysg ariannol i’r llwyfan yn y dyfodol ar gyfer eu haelodau, yn cynnwys adnoddau i oedolion a gweithgareddau arian a chynilo dengar i blant.”

Bydd aelodau’n gallu cyrchu’r llwyfan yn y cyfeiriad canlynol: https://news.royalwelsh.digital/ ble gallant gofrestru wedyn gyda’u rhif aelodaeth a’u côd post. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau, cysylltwch â swyddfa CAFC ar 01982 553683 os gwelwch yn dda.

Gobeithir y bydd y llwyfan ar-lein yn dod yn ganolbwynt i’r diwydiannau niferus yng nghefn gwlad Cymru ac y bydd ein haelodau yn helpu i barhau i dyfu a datblygu’r llwyfan. Mae aelodau’r Gymdeithas yn gaffaeliad pwysig i sicrhau ei dyfodol ac os ydych yn meddwl bod rhywbeth ar goll o’r safle y byddech yn hoffi ei gynnwys yna rhowch wybod inni os gwelwch yn dda trwy gysylltu â press@rwas.co.uk.