Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Sioe Frenhinol Cymru yn barod i ddychwelyd eleni ar ôl egwyl o ddwy flynedd oherwydd y pandemig Coronafeirws. Yn digwydd ar 18fed – 21ain Gorffennaf 2022, mae’r Gymdeithas yn awyddus i groesawu ymwelwyr yn ôl i Faes y Sioe yr haf yma ar gyfer yr uchafbwynt o ran digwyddiadau’r flwyddyn.

Mae Sioe Frenhinol Cymru, a gynhelir yn flynyddol, yn ddigwyddiad pedwar diwrnod llawn mynd sy’n cynnwys cystadlaethau cyffrous, da byw, coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod, rhaglen 12 awr o adloniant di-dor, atyniadau, arddangosfeydd a llawer mwy.

Bydd yr uchafbwyntiau yn y prif gylch eto’n cynnwys Marchfagnelau Brenhinol y King’s Troop yn perfformio eu Gyriad Cerddorol, un o’r arddangosfeydd mwyaf trawiadol o farchogaeth yn y byd. Yn perfformio hefyd mae Tîm Arddangos Parasiwtio’r Falcons gyda’u harddangosfa cwympo’n rhydd cyffrous ar gyflymder o hyd at 120mya, ac mae Paul Hannam yn dychwelyd gyda’i Sioe Styntiau Beiciau Cwad cyffrous a phoblogaidd.

Mae tocynnau bore-godwyr ar gael ar-lein yn awr. Mae tocyn dydd sengl i oedolyn yn costio £28, a thocyn dydd plentyn yn costio £5. Mae plant dan 5 am ddim. Mae prisiau tocynnau’n mynd i fyny i £32 ym Mehefin, felly ewch i’n gwefan i gael eich tocynnau am y pris bore-godwr gostyngedig yn awr!

Mae cynlluniau ar fynd hefyd ar gyfer yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, sy’n cael ei chynnal ar 21ain – 22ain Mai. Mae’r digwyddiad penwythnos o hyd yn ddathliad o fywyd gwledig ac o fyw yn y wlad gyda gweithgareddau cadw tyddyn wrth ei chalon. Mae tocynnau ar werth yn awr ar ein gwefan.