Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae hi heddiw’n union 100 diwrnod tan ddigwyddiad cyntaf y flwyddyn CAFC, yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad. Ar ôl cael ei chanslo oherwydd y pandemig coronafeirws hon fydd yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad gyntaf er 2019, ac mae’r Gymdeithas yn gyffrous i fod yn croesawu ymwelwyr yn ôl i Faes y Sioe y Gwanwyn yma sy’n dod.

Yn digwydd ar yr 21ain-22ain Mai, mae’r digwyddiad penwythnos o hyd yn ddathliad o fywyd gwledig a byw yn y wlad gyda gweithgareddau cadw tyddyn wrth ei galon. Gyda rhaglen orlawn o gystadlaethau da byw a cheffylau, arddangosfeydd a gweithgareddau, mae yna rywbeth i bawb ei fwynhau. Eleni rydym yn croesawu’r arbenigwraig garddio a’r cyflwynydd teledu, Charlie Dimmock i gyflwyno sgwrs ar Fywyd Gwyllt a Dŵr ar y dydd Sadwrn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn bachu tocyn oddi ar ein gwefan i’r digwyddiad gwych yma!

Mae’r Ŵyl yn gyfrwng i arddangos amrywiaeth wirioneddol cefn gwlad Cymru ac yn ddiwrnod allan gwych i deuluoedd ifanc, preswylwyr cefn gwlad ac unrhyw un â diddordeb yn yr awyr agored. Mae digonedd ar gynnig ichi ei weld a’i ddysgu yn Ngŵyl eleni. Pa un a ydych yn chwilio am ychydig o ysbrydoliaeth ar gyfer eich gardd, am gael goleuni ar fenter busnes newydd, neu’n gobeithio
gwella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth am fywyd cadw tyddyn, yr Ŵyl yw’r lle i fod.

Bydd y Ganolfan Tyddynwyr yn dal i fod yn brif fan galw i’r rheini sydd arnynt eisiau cael gwybod mwy am ffordd o fyw y tyddynnwr. Fel ag yn y blynyddoedd blaenorol, bydd yna wybodaeth ddefnyddiol a sgyrsiau i gymryd rhan ynddynt, a ‘Hwb y Tyddynnwr’ – llecyn cymdeithasol i gwrdd â thyddynwyr eraill, i rannu gwybodaeth a chael cyngor i’r rheini sydd ond yn dechrau. Canolfan y Tyddynwyr fydd y lle delfrydol i ymorol am gyflenwad o’r hanfodion o’r stondinau masnach ag iddynt thema amaethyddol a thema cadw tyddyn – pa un a ydych yn chwilio am iâr neu ddwy i ychwanegu at eich haid, bwced newydd neu beiriant efallai, byddwch yn sicr o ddod o hyd i’r hyn sydd arnoch ei angen yn yr Ŵyl.

Bydd y Cylch Arddangos yn llawn dop o arddangosfeydd i’ch diddanu, yn cynnwys neidio ceffylau, Sgrialu-yrru, arddangosfeydd cŵn a Beiciau BMX. Bydd Gŵyl Landrovers Cymru yn arddangos eu detholiad o hen gerbydau gyda’r Parêd o Landrovers ac mae Meirion Owen yn ei ôl gyda’i Gwac Pac bythol-boblogaidd.

Bydd yr holl atyniadau a’r ardaloedd arferol yma unwaith eto ichi eu mwynhau. Crwydrwch yr Ardal Bywyd Gwledig, sy’n rhoi lle amlwg i’r bandstand, i’r Prif Sioe Gŵn Agored, i’r cystadlaethau coedwigaeth, gweithgareddau cefn gwlad a chwaraeon a chystadlaethau ac arddangosiadau Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC). Darganfyddwch y Parth Gwlân, sy’n cynnal cystadlaethau trin gwlân, stondinau masnach ac arddangosiadau, yn cynnwys cneifio â gwellaif, nyddu a gwehyddu. Mae’r atyniadau eraill yn cynnwys Marchnad Rad Pethau o Dras, Neuadd Grefftau ac Addysg a gweithgareddau’r Fyddin Brydeinig.

Ni fyddai’n ddigwyddiad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru heb arddangos y cynnyrch bwyd a diod gorau sydd gan Gymru a siroedd y gororau i’w gynnig! Dewch i flasu’r nwyddau blasus yn y Neuadd Fwyd enwog neu gymryd egwyl a chael tamaid o ginio yn ein hardal Bwyd Stryd.

Am arddangos neu gymryd rhan yn y cystadlaethau?

  • Cynigion Da Byw a Cheffylau – yn agor 1af Mawrth, yn cau 4ydd Ebrill 2022.
  • Cystadleuaeth trin gwlân – yn agor 22ain Mawrth, yn cau 29ain Ebrill 2022.
  • Prif Sioe Gŵn Agored – Cynigion yn agor yn awr. Cynigion post yn cau 11eg Ebrill, a cheisiadau ar-lein yn cau 3ydd Mai 2022.

Ewch i’n gwefan am wybodaeth neu fanylion sut i gystadlu. Bydd mwy o fanylion am y cystadlaethau a’r atodlenni’n cael eu rhyddhau yn y man.

Mae tocynnau ar gyfer yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar werth yn awr trwy ein gwefan. Mae tocyn dydd i oedolyn yn costio £16, mae tocyn plentyn (5-16 oed) yn costio £5 ac mae plant dan 5 yn cael mynd am ddim.

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad ewch i’n gwefan ar www.cafc.cymru www.rwas.wales.