Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn gobeithio penodi Prif Weithredwr newydd ar ôl cyhoeddiad y llynedd fod Mr Steve Hughson yn ymddeol. Wedi bron deng mlynedd o wasanaeth, bydd Mr Hughson yn ymddeol ar ddiwedd mis Medi 2022 ar ôl cwblhau ei ddegfed Sioe.
Mae ceisiadau am swydd y Prif Weithredwr ar agor yn awr ar wefan CAFC. Mae proffil uchel y swydd hon, ynghyd â pha mor anfynych y mae hi’n ymddangos fel swydd wag, yn ei gwneud yn atyniad dengar i ymgeiswyr posibl. Mae CAFC yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig i arwain y Gymdeithas drwy gam nesaf ei thaith a digwyddiadau’r dyfodol.
Yn siarad yr adeg y cyhoeddodd Mr Hughson ei ymddeoliad, gwnaeth Mr John T Davies, Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr, y sylwadau hyn:
‘’Y buddsoddiad mwyaf y gall cymdeithas sioe amaethyddol ei wneud yw penodi Prif Weithredwr gweithgar ac ymroddedig, fel y gwnaethom ddegawd yn ôl. Yr adeg honno dywedodd Steve y byddai’n cysegru deng mlynedd o’i fywyd fel arweinydd y Gymdeithas ac mae wedi gwneud hynny gyda chlod.” meddai.
“Wrth i Steve ymddeol o’r swydd ar ôl Sioe 2022, bydd gennym gyfle i fyfyrio ynghylch y cyfnod llwyddiannus iawn o dwf a sefydlogrwydd tra bu’n dal y swydd. Mae Steve yn bendant iawn wedi rhoi’r Gymdeithas ar seiliau cadarn ar adeg pan gafwyd heriau na fu eu tebyg o’r blaen. Mae ar y Gymdeithas ddyled enfawr o ddiolchgarwch i Steve, bu hi’n bleser gweithio ochr yn ochr ag ef’’.
Fel pennaeth un o’r cymdeithasau amaethyddol mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, bydd y Prif Weithredwr newydd yn gyfrifol am reolaeth strategol a gweithredol pob dydd y sefydliad a’i staff, yn ogystal ag am ddarparu stiwardiaeth gyffredinol dros y rhwydwaith sefydledig o filoedd o wirfoddolwyr, rhanddeiliaid, aelodau pwyllgorau, a chynghorwyr.
Meddai Mr Steve Hughson y Prif Weithredwr presennol, “Mae bod yn Brif Weithredwr CAFC wedi bod yn gyfle enfawr, yn arbennig i rywun a anwyd yn Llanfair-ym-Muallt ac a dyfodd i fyny gyda Sioe Frenhinol Cymru.”
“Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau sefyllfa ariannol gref wrth fynd i mewn i’r pandemig, sydd wedi’i chynnal trwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf. Wrth inni fyfyrio ynghylch Ffair Aeaf lwyddiannus ac wrth edrych ymlaen at ein Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad a Sioe Frenhinol Cymru cyntaf mewn dwy flynedd, mae hi’n teimlo fel yr adeg iawn i drosglwyddo’r gwaith o redeg y Gymdeithas i rywun fydd yn gallu arwain y Gymdeithas trwy’r heriau gwahanol fydd yn codi yn y deng mlynedd nesaf.”
Mae rhagor o fanylion, yn cynnwys disgrifiad swydd llawn a sut i wneud cais am y swydd, ar gael ar wefan CAFC ar https://rwas.wales/the-society/jobs/. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau 21 Ebrill 2022 am 12 canol dydd.