Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cytuno i estyn y brydles ar y Pafiliwn Gwyrdd a’r Ganolfan Feddygol ymhellach a bydd yn parhau i gynnig cyfleusterau ar gyfer y ganolfan frechu a’r ganolfan brofi yn ddi-rent.

Sefydlodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys y ganolfan brofi ar Faes y Sioe yn Llanelwedd gyntaf ar gychwyn y pandemig, ac ym mis Ionawr 2021 ychwanegwyd canolfan brechu torfol ati. Mae’r  ganolfan frechu yn gallu bod ar agor am hyd at saith diwrnod yr wythnos ar adegau prysur a chaiff ei rhedeg gyda chymorth gwirfoddolwyr, y mae rhai ohonynt yn stiwardiaid ac yn aelodau o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Mae Maes y Sioe’n cynnig lleoliad canolog gwych ym Mhowys i’r ganolfan frechu ac mae â chyfleusterau rhagorol ar gael i wneud y broses frechu mor hawdd â phosib. Mae’r adeiladau a’r cyfleusterau wedi’u rhoi’n ddi-rent i gefnogi rhaglen yr ymateb i COVID ym Mhowys. Mae hyn wedi helpu i alluogi’r rhaglen frechu fwyaf llwyddiannus o’r holl fyrddau iechyd yng Nghymru, gyda dros 90 y cant o oedolion wedi cymryd eu dos cyntaf a dros 80 y cant wedi derbyn eu pigiad atgyfnerthu yn barod.

Yn ystod Ffair Aeaf Frenhinol Cymru fis Tachwedd diwethaf, roedd ymwelwyr heb bàs COVID yn gallu cael eu profi am y feirws tra oedd y ganolfan frechu wedi’i chau dros dro ar gyfer y Ffair. Mae CAFC yn falch o gadarnhau y bydd y ganolfan frechu yn aros ar agor ar gyfer yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad sydd ar ddod ym mis Mai, gan gynnig cyfleuster galw i mewn i bobl sydd arnynt eisiau pigiad cyntaf, ail bigiad, neu bigiad atgyfnerthu.

Meddai Steve Hughson, Prif Weithredwr CAFC, “Rydym wedi dangos ein cefnogaeth i gymunedau lleol trwy gydol y pandemig hwn ac mae’r cyfleusterau ar Faes y Sioe yn berffaith ar gyfer y canolfannau brechu a phrofi. Mae caniatáu i’r adeiladau hyn gael eu defnyddio’n ddi-rent fel petai y peth iawn i’w wneud yn yr amgylchiadau, er bod ein heriau ariannol ein hunain wedi canslo dwy flynedd o ddigwyddiadau.  Dylem i gyd edrych ymlaen at dymor Sioe a hanner yn 2022.”

Meddai Adrian Osborne, Cyfarwyddwr Rhaglen Brechu COVID-19 a Phrofi Olrhain Diogelu gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Ni fyddai llwyddiant y rhaglen brechu COVID-19 a Phrofi Olrhain Diogelu ym Mhowys wedi bod yn bosib o gwbl heb gymorth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Mae’u cymorth hyblyg wedi sicrhau bod brechu a phrofion COVID wedi bod ar gael i’n cymunedau yn union yng nghanol y sir. Mewn gwirionedd, fe wnaethom gyrraedd carreg filltir fawr yr wythnos yma gan fod 60000 o ddosys brechlyn wedi’u darparu ar faes y sioe. Hoffwn ddiolch i’r tîm cyfan am eu rôl ganolog wrth ymateb i’r pandemig COVID-19.”