Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Dyw hi ond mater o ddyddiau’n awr hyd nes bydd Maes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd yn
ferw o weithgaredd unwaith eto wrth inni groesawu ymwelwyr yn ôl i’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad.

Yn digwydd y penwythnos nesaf (yr 21ain a’r 22ain Mai) mae’r digwyddiad gwanwyn yn ddathliad o
fywyd gwledig ac o fyw yn y wlad gyda gweithgareddau cadw tyddyn wrth ei galon. Mae tocynnau
ar gael ar-lein ac yn gwerthu’n gyflym, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymorol am eich rhai chi
yn awr i osgoi siom!

Mae’r Ŵyl yn arddangos gwir amrywiaeth cefn gwlad Cymru ac mae’n ddiwrnod allan gwych i deuluoedd ifanc, preswylwyr cefn gwlad ac unrhyw un gyda diddordeb yn yr awyr agored. Gyda
rhaglen orlawn o gystadlaethau da byw a cheffylau, arddangosfeydd a gweithgareddau,
cerddoriaeth fyw a bwyd a diod, mae yna rywbeth i bawb ei fwynhau.

Canolfan y Tyddynnwr yw’r prif fan galw i’r rheini sydd am ddysgu mwy am ffordd o fyw’r
tyddynnwr. Bydd gwybodaeth ddefnyddiol a sgyrsiau i gymryd rhan ynddynt, a ‘Hyb y Tyddynnwr’ –
man cymdeithasol i gyfarfod â thyddynwyr eraill, rhannu gwybodaeth a chael cyngor i’r rheini sydd
ond yn cychwyn arni. Eleni rydym yn croesawu’r arbenigwr garddio a’r cyflwynydd teledu Charlie
Dimmock i gyflwyno sgwrs ar Fywyd Gwyllt a Dŵr am hanner dydd ar y dydd Sadwrn yn y Stondin
Siarad.

I’r rhai yn eich plith sy’n hoff o gŵn, mae Prif Sioe Gŵn Agored Cymru’n cael ei chynnal yn yr Ŵyl
ar hyd y penwythnos gyda’r cyfle i weld miloedd o gŵn yn cystadlu am gyfle i gymhwyso ar gyfer
Crufts 2023. Gellwch hyd yn oed ddod â’ch ci eich hun i’r digwyddiad a gweld sut maen nhw dod
ymlaen ar gwrs Ystwythder Cŵn Gŵyr. O ran adloniant cŵn yn y Cylch Arddangos, mae gennym
Arddangosfa Cŵn Rockwood i swyno’r gynulleidfa gyda’u campau comedi a’u triciau, a Meirion
Owen a’i Gŵn Defaid.

Bydd digonedd i’w weld ac i gymryd rhan ynddo yn yr Ardal Bywyd Gwledig, o gystadlaethau
coedwigaeth, arddangosiadau a chwaraeon a gweithgareddau gwledig. Mwynhewch eich hun yn
gwrando ar y perfformiadau cerddoriaeth byw yn y Bandstand a gwylio Grŵp Ail-greu Canoloesol
Woodville gyda’u harddangosfeydd hanesyddol o fywyd canoloesol.

I’r rheini sy’n chwilio am hwyl i’r teulu, mae modd cymryd rhan yn y gweithgareddau beicio a’r cwrs
rhwystrau. Gall plant roi cynnig ar feicio, ac mae helmedi a beiciau’n cael eu darparu. Hefyd yn
cael lle amlwg yn yr Ardal Bywyd Gwledig, mae Syrcas Teulu Panic yn dychwelyd i’ch difyrru
gydag pherfformiadau sgiliau syrcas a gweithdai, a sioeau pypedau traddodiadol.

Bydd y Cylch Arddangos yn llawn dop o arddangosfeydd ichi eu mwynhau, yn cynnwys neidio
ceffylau, arddangosfeydd cŵn, Beiciau BMX, a Pharêd Gŵyl Land Rovers Cymru.
Bydd Canolfan Gneifio Meirionnydd yn cael ei brandio fel y Parth Gwlân eleni i hyrwyddo pa mor
amlbwrpas yw gwlân ac i dynnu sylw at y creadigaethau anhygoel y gellir eu gwneud â gwlân.

Wedi’u cynnwys bydd Cystadlaethau Trin Gwlân, Urdd Nyddwyr a Gwehyddwyr Gwent,
arddangosfa Coleg Sir Gâr, Arddangosfa Cneifio â Hen Beiriannau Meirionnydd a llawer o
stondinau masnach yn gysylltiedig â gwlân.

Bydd Tyfu Cymru yn cymryd y Ganolfan Aelodau drosodd unwaith eto ar gyfer Marchnad Tyfwyr
Tyfu Cymru. Bydd tyfwyr yn cael y cyfle i gyflwyno a gwerthu eu cynhyrchion yn ystod yr Ŵyl
ddeuddydd yn y lleoliad dethol yng Nghanolfan yr Aelodau.

Ni fyddai’n ddigwyddiad Brenhinol Cymru heb arddangos y cynnyrch bwyd a diod gorau sydd gan
Gymru a siroedd y gororau i’w gynnig! Dewch i flasu’r nwyddau blasus yn y Neuadd Fwyd enwog
neu gymryd egwyl a chael tamaid o ginio yn ein hardal Bwyd Stryd.

Mae tocynnau ar gyfer yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar werth yma. yn awr. I gael mwy o
wybodaeth am yr Ŵyl ewch i’n gwefan ar www.cafc.cymru / www.rwas.wales