Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad cyntaf y flwyddyn i’r Gymdeithas!

Mae ein hoff ddigwyddiad teuluol, yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, yn dychwelyd i Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt, Canolbarth Cymru, y Gwanwyn yma sy’n dod.

Yn cael ei chynnal ar y 18fed a’r 19eg Mai 2023, mae’r Ŵyl penwythnos o hyd yn ddathliad o fywyd gwledig gyda gweithgareddau cadw tyddyn wrth ei chalon, yn arddangos amrywiaeth wirioneddol cefn gwlad Cymru. Yn ogystal â rhes o atyniadau cylch arddangos, cystadlaethau, gweithgareddau plant, stondinau masnach siopa, cerddoriaeth fyw, a bwyd a diod hynod flasus, mae’r Ŵyl yn addo bod yn ddiwrnod allan gwych i bawb.

Mae cynigion ar gyfer y cystadlaethau da byw a cheffylau ar agor yn awr a gall cystadleuwyr weld yr atodlenni ac ymgynnig ar-lein ar ein gwefan. Gyda dros 600 o ddosbarthiadau da byw a gwobrau arbennig ar gyfer defaid, moch, geifr a gwartheg, y mae llawer ohonynt ar gyfer bridiau traddodiadol, prin a brodorol, mae cyfle i bawb gymryd rhan. Mae cynigion yn cau ar ddydd Mercher 3ydd Ebrill.

Mae’n hyfrydwch gennym gyhoeddi y bydd Gŵyl eleni’n cynnal rowndiau cymhwyso ar gyfer Sioe Geffylau Ryngwladol Frenhinol Cymdeithas Ceffylau Sioe Prydain (BSHA), a Dangos a Dressage Ceffylau Hŷn Cyf (SSADL), Cymdeithas Merlod Sioe Prydain (BSPS) a Sioe Geffylau Ryngwladol Llundain Cymdeithas Ceffylau Sioe Prydain (BSHA).

Unwaith eto, rydym yn falch o groesawu’r Brif Sioe Gŵn Agored. Mae cynigion ar agor yn awr ar gyfer Rownd Gymhwyso Crufts 2025 ble mae rhosedau, arian gwobrwyo a bwyd anifeiliaid anwes o ansawdd i gyd ar gael i’w cipio gan y cŵn buddugol. Mae cynigion drwy’r post yn cau ar ddydd Mawrth 9fed Ebrill, a chynigion ar-lein yn cau ddydd Mawrth 30ain. Ewch i wefan FDS i weld yr atodlenni ac i ymgynnig.

Bydd yr holl atyniadau ac ardaloedd arferol yn yr Ŵyl i chi eu mwynhau. Bydd Canolfan y Tyddynwyr yn dal i fod yn brif fan galw i’r rheini sydd arnynt eisiau dod i wybod mwy am ffordd o fyw’r tyddynnwr, gyda sgyrsiau ac arddangosiadau gan grŵp rhwydweithio a chymorth Tyddynwyr Morgannwg. Y man delfrydol i gael cyflenwad o’r hanfodion o’r stondinau masnach amaethyddol – pa un a oes arnoch angen bwced newydd neu beiriant o ryw fath efallai, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch yng Nghanolfan y Tyddynwyr.

Crwydrwch yr Ardal Bywyd Gwledig, sy’n rhoi lle amlwg i’r Prif Sioe Gŵn Agored (Rownd Gymhwyso Crufts 2025), Panic Family Circus, Grŵp Ail-greu Canoloesol Woodville, fferm fwytho, cwrdd ag asynnod, cystadlaethau coedwigaeth, a chwaraeon a gweithgareddau cefn gwlad, i gyd i gyfeiliant cerddoriaeth fyw o’r bandstand.

Mae gan Gylch Arddangos yr Ŵyl raglen lawn dop i’ch diddanu, yn cynnwys sioe styntiau beiciau cwad a beiciau modur cyffrous Dangerous Steve, Tîm Arddangos Cŵn Paws for Thought, cystadlaethau Neidio Ceffylau a Cheffylau Hela’n Gweithio, Sgrialu-Yrru, a Meirion Owen a’i gŵn defaid.

Bydd Canolfan Gneifio Meirionnydd yn cynnal cystadlaethau trin gwlân a chneifio â gwellau trwy gydol y penwythnos, arddangosiadau gan Urdd Nyddwyr a Gwehyddion Gwent, arddangosfa cneifio â hen beiriannau, a stondinau masnach yn ymwneud â gwlân. Mae cynigion ar gyfer cystadlaethau trin gwlân a chneifio â gwellau i fod i agor ddiwedd Mawrth felly gwyliwch y fan hyn am ddiweddariadau!

Ni fyddai’n ddigwyddiad y Gymdeithas heb arddangos y cynnyrch bwyd a diod gorau sydd gan Gymru i’w gynnig! Blaswch y nwyddau blasus yn y Neuadd Fwyd enwog neu fachu tamaid blasus yn un o’n llu stondinau bwyd yn y Pentref Bwyd Cymreig, Gwledd | Feast.

I’r rheini ohonoch ar draws y ffin, nid ydym ond hwb, cam a naid i ffwrdd! Mae Maes Sioe Frenhinol Cymru yn hawdd ei gyrraedd o bob cyfeiriad ac wedi’i leoli ble mae’r A470 a’r A483 yn croesi yn Llanfair-ym-Muallt. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfeillgar i gŵn ac mae â digonedd o le parcio ar y safle AM DDIM.

Mae tocynnau ar gyfer yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar gael ar-lein. Mae tocynnau oedolion i fore-godwyr yn £18 ac mae tocynnau plant yn £5. Gellwch brynu tocyn teulu hefyd. Mae tocynnau pris rhatach ar gael i aelodau CAFC hyd at 30ain Ebrill.

Ewch i cafc.cymru / rwas.wales am fwy o wybodaeth ynghylch yr Ŵyl neu i brynu tocynnau.