Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad yn dychwelyd i Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt, Canolbarth Cymru, y Gwanwyn hwn sy’n dod.

Yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 20fed a dydd Sul 21ain Mai 2023, mae’r Ŵyl yn ddathliad o fywyd gwledig a byw yn y wlad gyda gweithgareddau cadw tyddyn wrth ei chalon. Mae’r digwyddiad penwythnos o hyd yn arddangosfa o amrywiaeth gwirioneddol cefn gwlad Cymru ac yn ddiwrnod allan ardderchog i deuluoedd, selogion garddio ac unrhyw un sydd â diddordeb yn yr awyr agored.

Gyda rhaglen orlawn o gystadlaethau da byw a cheffylau, arddangosfeydd, arddangosiadau, stondinau masnach, cerddoriaeth fyw a gweithgareddau, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.

Mae cynigion ar gyfer y cystadlaethau da byw a cheffylau ar agor yn awr a gall cystadleuwyr weld yr atodlenni a chynnig ar-lein ar ein gwefan. Agorodd cynigion am 10.00 bore heddiw (dydd Mercher 1af Mawrth 2023) a byddant yn cau am 11.59pm ar ddydd Llun 3ydd Ebrill.

Gyda thros 600 o ddosbarthiadau da byw a gwobrau arbennig ar gyfer defaid, moch, geifr a gwartheg, y mae llawer ohonynt ar gyfer bridiau traddodiadol, prin a brodorol, mae cyfle i bawb gymryd rhan.

Mae’n hyfrydwch gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gyhoeddi’r newydd cyffrous y bydd Gŵyl eleni’n cynnal rowndiau cymhwyso Sêr y Dyfodol ar gyfer Sioe Geffylau Ryngwladol Llundain 2023. Rydym hefyd yn lansio dosbarthiadau Cynhyrchwyd Gartref newydd sbon o fewn yr adran geffylau gyda chefnogaeth Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig (WPCS).

Rydym yn ffodus o groesawu’r Brif Sioe Gŵn Agored yn ystod yr Ŵyl unwaith eto. Mae cynigion ar agor yn awr ar gyfer Rownd Gymhwyso Crufts 2024 ble mae rhosedau, arian gwobrwyo a bwyd anifeiliaid anwes o ansawdd i gyd ar gael i’w cipio gan y cŵn buddugol. Mae cynigion drwy’r post yn cau ar ddydd Mawrth 11eg Ebrill, a chynigion ar-lein yn cau ddydd Mawrth 2il Mai. Ewch i wefan FDS i weld yr atodlenni ac i ymgynnig.

Bydd yr holl atyniadau ac ardaloedd arferol yn yr Ŵyl unwaith eto i chi eu mwynhau. Bydd Canolfan y Tyddynwyr yn dal i fod yn brif fan galw i’r rheini sydd arnynt eisiau dod i wybod mwy am ffordd o fyw’r tyddynnwr. Canolfan y Tyddynwyr fydd y lle delfrydol i gael cyflenwad o’r hanfodion o’r stondinau masnach ac iddynt thema amaethyddol a thema cadw tyddyn – pa un a oes angen bwced newydd neu efallai beiriant o ryw fath arnoch, byddwch yn sicr o ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch yng Nghanolfan y Tyddynwyr.

Crwydrwch yr Ardal Bywyd Gwledig, gyda’i Phrif Sioe Gŵn Agored (Rownd Gymhwyso Crufts 2024), Panic Family Circus, Fferm Naid Pentre, Grŵp Ail-greu Canoloesol Woodville, Donkey Encounter, cystadlaethau coedwigaeth, chwaraeon a gweithgareddau cefn gwlad, i gyd gyda chyfeiliant cerddoriaeth fyw o’r bandstand.

Bydd y Cylch Arddangos yn llawn dop o arddangosfeydd i’ch diddanu, yn cynnwys cystadlaethau Neidio Ceffylau a Cheffylau Hela’n Gweithio, Sioe Styntiau Beiciau Modur Steve Colley, Little Nippers Terrier Dog Racing, Gŵyl Land Rovers Cymru, a’r M.A.D.Team – Arddangosfa Awyr Beiciau Mynydd.

Bydd Canolfan Gneifio Meirionnydd yn mynd yn Barth Gwlân unwaith eto, yn ardal i hyrwyddo amlbwrpasedd a’r creadigaethau gwych y gellir eu gwneud o wlân. Wedi’u cynnwys bydd cystadlaethau trin gwlân a chneifio â gwellau, arddangosiadau gan Urdd Nyddwyr a Throellwyr Gwent, arddangosfa gneifio â hen beiriannau, a stondinau masnach yn gysylltiedig â gwlân. Mae cynigion ar gyfer y cystadlaethau trin gwlân a chneifio â gwellau i fod i agor ddiwedd mis Mawrth felly gwyliwch y fan hyn am ddiweddariadau!

Ni fyddai’n ddigwyddiad Brenhinol Cymru heb arddangos y cynnyrch bwyd a diod gorau sydd gan Gymru i’w gynnig! Blaswch y nwyddau blasus yn y Neuadd Fwyd enwog neu fachu tamaid blasus  yn un o’r llu stondinau bwyd yn yr Ardal Bwyd Stryd.

I’r rheini ohonoch ar draws y ffin, nid ydym ond hwb, cam a naid i ffwrdd! Mae Maes Sioe Frenhinol Cymru yn hawdd ei gyrraedd o bob cyfeiriad ac wedi’i leoli ble mae’r A470 a’r A483 yn croesi yn Llanfair-ym-Muallt.

Mae tocynnau ar gyfer yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar gael ar-lein. Mae tocynnau ar-lein i fore-godwyr yn £18 i oedolion, £5 i blant neu gellwch brynu tocyn teulu. Mae tocynnau pris rhatach ar gael ar gyfer aelodau CAFC. Ewch i rwas.wales / cafc.cymru am fwy o wybodaeth ynghylch yr Ŵyl neu i brynu tocynnau.