Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o gyhoeddi bod Aled Rhys Jones wedi’i benodi fel y Prif Weithredwr nesaf, i olynu Steve Hughson ar ei ymddeoliad yn ddiweddarach eleni. Bydd Aled yn cychwyn ar y swydd ar y 1af o Fedi cyn i Steve ymadael ar ddiwedd y mis hwnnw.

Mae Aled, sy’n byw yn Llandeilo gyda’i wraig a’i ferch, yn adnabyddus yn myd amaeth Cymru. Tyfodd Aled lan ar fferm fynydd y teulu ger Cwrtycadno yng Ngogledd Sir Gâr a chwaraeodd ran weithredol ym mudiad y Ffermwyr Ifanc, a arweiniodd ato’n cael ei enwi’n Aelod Hŷn y Flwyddyn Cymru a Lloegr Ffederasiwn Cenedlaethol y Clybiau Ffermwyr Ifanc yn 2012.

Ar ôl graddio o Brifysgol Reading gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Rheoli Tir,
treuliodd Aled ran gynnar ei yrfa fel Asiant Tir a daeth yn Syrfëwr Siartredig a Phrisiwr
Amaethyddol cymwysedig. Yn ddiweddarach ymunodd â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol
Cymru fel Prif Weithredwr Cynorthwyol rhwng Medi 2013 a Rhagfyr 2017. Yn ystod y cyfnod
hwnnw, dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield i astudio rôl Cymdeithasau a Sioeau
Amaethyddol. Ar ôl cwblhau ei Ysgoloriaeth, cyflwynodd ei adroddiad yng nghynhadledd Nuffield y
DU 2016 a dyfarnwyd iddo Darian John Stewart am y cyflwyniad gorau.

Ers gadael CAFC, mae Aled wedi defnyddio ei sgiliau ym myd darlledu, gan ddod yn brif
gyflwynydd rhaglen newyddion ffermio BBC Radio Cymru, Bwletin Amaeth. Mae wedi treulio tair
blynedd hefyd fel Prif Swyddog Gweithredu Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol (CAAV),
yn gyfochrog â nifer o brosiectau llawrydd a swyddi Cyfarwyddol. Trwy gydol y cyfnod hwnnw, mae
Aled wedi dal i fod â chysylltiad cryf â sioeau a digwyddiadau amaethyddol, gan ddefnyddio ei
wybodaeth a’i ymchwil Nuffield i helpu cymdeithasau gyda’u cynllunio a’u hwyluso strategol.

Wrth sôn am ei benodiad fel y Prif Weithredwr nesaf, meddai Aled Rhys Jones:

“Er 1904, mae Cymdeithas Amaethyddol Cymru wedi bod yn gysonyn mewn môr o newid, ac mae
hi’n anrhydedd gennyf fod yn ymgymryd â swydd y Prif Weithredwr wrth iddi gychwyn ei phennod
nesaf.

Unwaith eto, mae ffermio’n wynebu cyfnod arwyddocaol o newid ac mae rôl y Gymdeithas wrth
hyrwyddo’r safonau uchaf un mewn ffermio ac wrth greu cymuned sy’n deall ac yn gwerthfawrogi
amaethyddiaeth Cymru yn bwysicach yn awr nag y bu erioed.

Mae’r Gymdeithas yn golygu cymaint i gynifer; mae hi wedi chwarae rhan fawr yn fy mywyd i, ac
felly, mae hi’n anrhydedd ac yn gyfrifoldeb personol enfawr ymgymryd â’r swydd hon. Rwyf yn
awyddus i adeiladu ar ei llwyddiant, gan ddiogelu’r hyn sy’n rhan mor bwysig o’n hunaniaeth
genedlaethol am genedlaethau i ddod. Mae pobl yn ganolog i’r llwyddiant hwn a’r cyfan y mae’r
Gymdeithas yn sefyll drosti, ac edrychaf ymlaen at weithio ochr yn ochr â’r tîm dawnus o staff,
gwirfoddolwyr ac aelodau sy’n gwneud i’r cyfan ddigwydd, i arddangos Cymru a’r hyn y mae’n ei
olygu i fod yn Gymro.”

Meddai’r Athro Wynne Jones (Darpar) Gadeirydd Ymddiriedolwyr y Gymdeithas, a arweiniodd y broses ddewis;

“Bydd cefndir a phrofiad Aled yn hynod o werthfawr i’r Gymdeithas wrth iddi edrych
ymlaen at yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’i blaen. Bydd Aled yn dod â’i weledigaeth strategol a’i
rinweddau personol cryf i’r swydd”.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn croesawu ac yn llongyfarch Aled ar ei
benodiad ac yn diolch i Steve am ei gyfraniad nodedig dros y 10 mlynedd ddiwethaf.