Tymor sioe Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru’n cychwyn mewn steil yn yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Cafodd dau ddiwrnod gwych, llawn hwyl eu mwynhau gan filoedd yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad Frenhinol Cymru yn Llanelwedd y penwythnos hwn. Roedd y digwyddiad deuddydd yn ddathliad o fywyd gwledig, gan arddangos gwir amrywiaeth cefn gwlad Cymru, a bu’n ddiwrnod gwych allan i deuluoedd ifanc, tyddynwyr, ac unrhyw un sy’n hoff o’r awyr agored.

Gyda chyfleoedd i elwa ar amrywiaeth eang o sgyrsiau ac arddangosiadau yng Nghanolfan y
Tyddynnwr, roedd ffermwyr tyddynnod a selogion garddio yn gallu dysgu am bob math o
weithgareddau diddorol, yn cynnwys cadw gwenyn, chwilota am fwyd, rheoli defaid, magu moch,
bioamrywiaeth, cyfoethogi’r pridd, a ffermio atgynhyrchiol. Ymhlith uchafbwyntiau’r Stondin Siarad
oedd sgwrs gan gyflwynydd Ground Force a Garden Rescue y BBC, Charlie Dimmock ar Fywyd
Gwyllt a Dŵr, ble ymgasglodd llawer i wrando ar gyngor defnyddiol ac awgrymiadau garddio.

Mae’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad bob amser yn llawn adloniant cyffrous, a ’doedd eleni ddim yn
eithriad. O dorri coed a chystadlaethau coedwigaeth i’r Gwersyll Ail-greu Canoloesol, roedd cyfoeth
o wahanol grefftau gwledig ar ddangos. Roedd yr ardal Bywyd Gwledig yn llawn mynd gyda
gweithgareddau i roi cynnig arnynt, megis cwrs beicio’r plant, sgiliau syrcas gan y Panic Family
Circus, a Gower Dog Agility gyda’r cyfle i ddod â’ch ci eich hun i gymryd rhan! Cynhaliwyd y Brif
Sioe Gŵn Agored yn yr Ardal Bywyd Gwledig hefyd, a gwelsom gannoedd o gŵn yn cystadlu i
gymhwyso ar gyfer Crufts 2023.

Yn denu cystadleuwyr a thyddynwyr o bell ac agos, roedd i’r cystadlaethau da byw a cheffylau res
ragorol o anifeiliaid ym mhob adran, a hyd yn oed ymddangosiad gwestai enwog y cyflwynydd
teledu, Kate Humble, a fu’n helpu i arddangos ‘Eric’ y Tarw Ucheldir yn y gystadleuaeth gwartheg
Bridiau Traddodiadol Prin a Brodorol. Ychwanegwyd sawl adran dda byw eleni, yn cynnwys Adran
Texel Glas newydd yn sefyll ar ei phen ei hun, Adran Geifr Boeraidd, ac Adrannau Stoc Ifanc
Gwartheg Llaeth, a Thywyswyr Gwartheg Llaeth Ifanc.

Meddai Geraint James, Cyfarwyddwr Anrhydeddus yr Ŵyl wrth sôn am lwyddiant digwyddiad cyntaf
CAFC yn 2022; “Rydym wedi cael ymateb anhygoel i’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, roedd pawb mor
falch o fod yn ôl yn Llanelwedd i roi cicdaniad i dymor y sioeau. I lawer, yr Ŵyl oedd y digwyddiad
cyntaf y maen nhw wedi’i fynychu er y pandemig Covid felly roedd awyrgylch teimlad da, cadarnhaol
gwirioneddol o amgylch Maes y Sioe, y gwnaeth y tywydd heulog ond cyfrannu ato.”

Yn newydd ar gyfer eleni, roedd Canolfan Gneifio Meirionnydd wedi’i brandio fel y Parth Gwlân, yn
arddangos amlbwrpasedd gwlân a’r creadigaethau anhygoel y gellir eu gwneud ohono, gydag
amrywiaeth o arddangosfeydd a stondinau masnach. Denodd y cystadlaethau trin gwlân lawer o
wylwyr, a fu’n mwynhau gwylio’r cystadleuwyr yn brwydro am y gorau yn y cystadlaethau i nofisiaid,
y cystadlaethau canolradd a’r cystadlaethau agored.

Roedd rhesaid brysur o bethau yng Nghylch Arddangos yr Ŵyl i ddifyrru’r ymwelwyr. Ymgasglodd y
tyrfaoedd i wylio’r cystadlaethau Neidio Ceffylau, y Sioe Beiciau BMX ac Arddangosfa Cŵn
Rockwood. Bu Meirion Owen a’i Gŵn Defaid yn perfformio’u triciau doniol, ymhlith llawer o adloniant
arall, yn cynnwys arddangosfa cerbydau o dras trawiadol Gŵyl Land Rovers Cymru, ble cafodd
Llysgennad CAFC Lowri Williams fynd am reid o gwmpas y cylch yn un ohonynt!

Cymerwyd Canolfan yr Aelodau drosodd unwaith eto gan Tyfu Cymru ar gyfer Marchnad Tyfwyr
Tyfu Cymru, gan roi’r cyfle i dyfwyr arddangos a gwerthu eu cynhyrchion dros y ddau ddiwrnod.
Roedd y bwa helyg o West Wales Willows wedi’i addurno gyda blodau ffres hardd o Flowers from
the Farm a Blue Hill Flora, gan greu cyfle tynnu lluniau hynod i ymwelwyr.

Yn Neuadd 1 roedd amryw o weithgareddau addysgol ar ddangos, megis y stondin Cows on Tour,
Ysgubor Ddarganfod yr NFU, prosiect Dragon’s Den Ysgol Calon Cymru, ac arddangosiadau
crochenwaith. Roedd dalennau gweithgaredd ag iddynt thema ffermio a garddwriaeth ar gael i’w
lawrlwytho ar-lein o godau QR ar draws Maes y Sioe neu gellid casglu copïau printiedig o Siop y
Sioe.

Ni fyddai’r un o ddigwyddiadiadau’r Gymdeithas yn gyflawn heb ei gynnig o fwyd a diod ac ni
wnaeth Gŵyl eleni siomi. Yn ogystal â’r Neuadd Fwyd sy’n croesawu cynhyrchwyr i gyd yn
arddangos y cynnyrch gorau un o Gymru a siroedd y Gororau, roedd yr Ardal Bwyd Stryd
boblogaidd yn brysur trwy gydol y penwythnos gyda phobl yn cymryd ennyd i ymlacio a mwynhau
diod fach hamddenol a thrît blasus.

Ail-lansiwyd ap Brenhinol Cymru ar gyfer yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad. Roedd ymwelwyr yn gallu
lawrlwytho’r ap ar ei newydd wedd i gael sbec slei ar raglen a manylion yr Ŵyl cyn y digwyddiad.

Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, meddai Geraint: “Yn dilyn fy mlwyddyn gyntaf fel Cyfarwyddwr, rwyf yn edrych ymlaen at ddatblygu’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ymhellach ac at weithio gyda phartneriaid newydd i greu mwy o gyfleoedd ac i ehangu’r digwyddiad. Rydym yn ffodus o gael cefnogaeth aruthrol gan ein holl fasnachwyr, noddwyr, cystadleuwyr, gwirfoddolwyr, ac ymwelwyr – ym mhob un o’n digwyddiadau, ac rydym yn fythol ddiolchgar am eu cefnogaeth barhaus. ’Dyw Sioe Frenhinol Cymru ond wyth wythnos i ffwrdd, ac edrychwn ymlaen at weld pawb eto ar Faes y Sioe ym mis Gorffennaf.

Mae prif ganlyniadau’r penwythnos wedi’u rhestru isod, bydd rhestr lawn o ganlyniadau’r
cystadlaethau ar gael ar y wefan yn y man: www.cafc.cymru

The top results from the weekend:

 

Livestock Results

Sheep            

Supreme Champion – Suffolk – Miss Faye Hendrie (Cat no – 459)

Reserve Supreme Champion – Greyface Dartmoor – S J & D A Champion (Cat no – 408)

 

Sheep Group of Three        

Supreme Champion – Black Welsh Mountain – Mr & Mrs Matthew & Donna Evans (Cat nos – 39, 67, 79)

Reserve Supreme Champion – Hill Radnor – Mr Owain Jenkins – (Cat nos – 264, 274, 281)

 

Pig     

Supreme Champion – PAMPERED SILVERWINGS 9 – Dr Phillipa Timmins (Cat no – 32)

Reserve Supreme Champion – BURFORD DOLLY 101 – Mrs Sharon Barnfield (Cat no – 45)

 

Angora Goat

Supreme Champion – Rogers Family (Cat no – 11)

Reserve Supreme Champion – C & D Tyler (Cat no – 2)

 

Angora Goat Fleece Competition

Champion – Debbie Francis (Cat no – 13)

Reserve – Debbie Francis (Cat no – 25)

 

Dairy Goat Day 1

Champion – ASHDENE MINSKIP – Mr Nick Parr (Cat no – 2)

Reserve – ASHDENE MEADOWMAID – Mr Nick Parr (Cat no – 22)

 

Dairy Goat Day 2      

Champion – ASHDENE MINSKIP – Mr Nick Parr (Cat no – 2)

Reserve – ASHDENE MEADOWMAID – Mr Nick Parr (Cat no – 22)

 

Pygmy Goat Breed Champion       

Champion – PENRHIW CLEO – Mrs Jill Osborne (Cat no – 13)

Reserve – SUNNYMOUNT ZEBEDEE – Messrs Nigel & Tim Keen & Bee (Cat no – 28)

 

Pygmy Goat Pet Champion

Champion – DREAMERS NELL – Tracey & Paul Cater & Hemmings (Cat no – 3)

Reserve – N/A

 

Boer Goat     

Champion – DALBURY FREDA – Mr Ian Johnson (Cat no – 19)

Reserve –  HORNETS LAGO – Alan & Jo Jenkins (Cat no – 4)

 

Cattle

Supreme Champion – DEXTER – MARSHBROOK CARAMEL – Mrs Elayna Astbury (Cat no – 60)

Reserve Supreme Champion  – DEXTER – MARSHBROOK SHAMROCK – Mrs Elayna Astbury (Cat no – 59)

 

Best Sheep Breed Tradestand Award       

Winner – Shetland Sheep Society

Reserve – Black Welsh Mountain Sheep Society

 

Best Cattle Breed Society Stand   

Winner – HIGHLAND CATTLE CLUB OF WALES

Reserve – RED POLL CATTLE SOCIETY

 

Equine Results

CHAPS Mid Welsh Regional Show In-Hand

S.23     Supreme Championship

Champion – Michelle Pickford,  with Gold Dust

Reserve – Hywel & Jackie Williams with Ifan Ddu Desert Rose,  Handler – Gavin Merkel

 

CHAPS Mid Welsh Regional Show Ridden

S.92     Supreme Championship

Champion –     Sophia Chambers, with Roquefort Papillon

Reserve –        Lynne Startin with Dare to Dream III,  Rider:- Zara Owen

 

Heavy Horses/Shires & Foreign/World/Rare Breeds

  1. 28 Championship

Champion –     R & A Parfitt with Tresaison Le Luka

Reserve –        Gill Moore with Guldagers Sleipner

 

Traditional Gypsy Cobs

S.34     Championship – Quest for a Star (Traditional)

Champion –     Sioned Roberts with Champagne Showers

Reserve –        Alys Matravers with SD Out of the Blue

 

S.38     Championship – Go for Glory (Part Bred)

Champion –     Alys Matravers with Tiger Mazarati

Reserve –        Angharad Lloyd with Professor Higgins

 

Novice Section – Ponies

  1. 47 Championship

Champion –     Emma Edwards with Tyfel Zorro,  Rider – Hattie Edwards

Reserve –        Pauline & Chloe Jones with Cwmesgair Touch of Class, Rider – Chloe Jones

 

Novice Section – Horses

  1. 54 Championship

Champion –     Zara Owen with Kilnamona Puccini

Reserve –        Emma Edwards with Cordoba

 

Veteran Horse Society Area Qualifier 2022

  1. 59 In-hand Championship

Champion –     Wayne Rees with Oldhills Princess Belle,  Handler – Cameron Brady

Reserve –        Richard & Jean Evans with Mountcharles Firefly, Handler – Lois Medi Hughes-Jones

 

  1. 64 Ridden Championship

Champion –     Terinna Pesci-Griffiths with Sunnybanks Riverdale Classic

Reserve –        Sarah Powell with Pentaran Sea Samphire

 

Working Hunters

  1. 70 Championship

Champion –     David Thomas with Penstrumbly Our Latif, Rider – Victoria Thomas

Reserve –        Gemma Hughes with Captain Everything, Rider – Daisy Hughes

 

Mountain & Moorland

  1. 75 Championship

Champion –     Christina Elliott with Blackthorn Panche, Rider – Amy Wilde

Reserve –        Lucinda Dargavel with Collstone Cascadian

 

British Miniature Horse Society

  1. 99 Championship

Champion –     Charlotte Leonard with Scotts Olympic Dream

Reserve –        Lynda Giboney with Blacksprits Little Leo

 

Irish Draughts

  1. 108 In-Hand Championship

Maturity Champion –   Leander Walton with Cosette’s Prospect

Breeding Champion – Lindsey John with Ainninn Gealach, Handler – Zara Owen

Breeding Reserve –    Louise Harris with Clogherboy Bonnie

 

  1. 111 Ridden Championship

Champion –     Cherie Bufton with Hayestown Western Rose

Reserve –        Charlotte Harry with Kilcannon Kit Cat

 

Hacks & Riding Horses

  1. 114 Championship

Champion –     Georgia Wood with She’s a Lady II

 

Donkey Breed Society

  1. 124 Championship

Champion –     Clare Humphries with Lottie

Reserve –        Clare Humphries with Jake

 

Side Saddle

  1. 129 Championship

Champion –     Rachael Forkings with Kilcannon Skyfall

Reserve –        Charlotte Harry with Kilcannon Kit Cat

 

Arabs

S, 132  Ridden Championship

Champion –     Anne Pritchard-Simmons with Lowland Shanaya, Rider – Jessica Pritchard -Simmons

Reserve –        Suzanne Stephens with Cruzeiro