Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-19 Mai 2024.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
22-25 Gorffennaf 2024.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Gwahoddir aelodau cymuned wledig ac amaethyddol Cymru, gwneuthurwyr polisi, a rhanddeiliaid i fynychu Da Byw, cynhadledd diwrnod o hyd yn canolbwyntio ar ffermio da byw cynaliadwy, sy’n cael ei chynnal am y tro cyntaf.
Yn cael ei chroesawu gan Glwyd, Sir Nawdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, bydd y gynhadledd yn digwydd ar ddydd Gwener 17eg Mehefin 2022 yng Nghoed Coch, Dolwen, Abergele, Conwy, LL22 8AY, cartref Harry Fetherstonhaugh, Llywydd CAFC. Bydd cyflwyniad agoriadol yn cael ei roi gan Harry a’i wraig Davina yn dechrau am 9:45 y bore.
Pwrpas Da Byw ’22 yw dangos i’r sector amaethyddol a’r gymuned ehangach sut y gall newidiadau i’r arferion ffermio presennol wella cynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd busnesau ffermio yn sylweddol. Mae hi’n bryd tynnu sylw at y ffaith y gall amaethyddiaeth fod yn rhan o’r ateb i lawer o’r heriau amgylcheddol y mae’r byd yn eu hwynebu.
Mae’n ffaith dra hysbys mai priddoedd y byd, yn ail i’r cefnforoedd, yw’r ddalfa garbon fwyaf yn fyd-eang. Gyda bron 90% o’r tir yng Nghymru’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, mae i ffermwyr Cymru ran allweddol mewn dal carbon yn genedlaethol wrth inni weithio tuag at yr ymrwymiad cenedlaethol i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050. Mae hi’n hanfodol fod ffermio’n dod yn rhan o’r ateb.
Gyda rhestr ragorol o siaradwyr trwy gydol y dydd, gall y mynychwyr ddisgwyl clywed gan ffigyrau allweddol yn y diwydiant amaethyddol ac amgylcheddol megis Patrick Holden, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Fwyd Gynaliadwy, Yr Athro Prysor Williams, Uwch-ddarlithydd mewn Rheoli Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, a Clare Pilman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y gynhadledd yn cynnwys trafodaeth panel hefyd gyda ffermwyr sydd eisoes yn arfer ffermio atgynhyrchiol.
Amcanion Da Byw ’22
Yn dilyn y drafodaeth panel bydd bwyd min nos gan The Flameblaster, sieff o Ogledd Cymru sy’n arbenigo mewn seigiau poeth, a cherddoriaeth fyw gan yr anhygoel Police Dog Husband ac wedyn DJ Farmer of Funk.
Rhaid i ddyled enfawr o ddiolchgarwch fynd i’r noddwyr a’r cefnogwyr hael iawn sydd wedi galluogi Da Byw i fynd yn ei flaen. Diolch i’r Sefydliad Kleinheinz, Yr Ymddiriedolaeth Prudence, Banc Rathbones, teulu Naylor-Leyland, y Gwasanaethau Atal Troseddau, Ffermydd Rhug a Dewi Glyn Roberts, Brynffordd, Betws yn Rhos.
I gael mwy o wybodaeth am y gynhadledd, neu i brynu tocynnau ewch i www.dabywlivestock.com/.