Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Paham na wnewch chi ddadorchuddio’ch cyfoeth o botensial yn 2022, a meithrin gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod yn ein hyb gyrfaoedd mwy a gwell?

Mae hi wedi bod yn ddwy flynedd ers inni agor ein drysau ddiwethaf i egin ddechreuwyr ym myd bwyd a diod yn Sioe Frenhinol Cymru. Eich tro chi yw hi’n awr i weld sut y gellwch dorri’ch cwys eich hun a chipio’r alwedigaeth gyffrous a gwerth chweil honno i chi’ch hun.

Rydym wedi ymuno â Puffin Produce, cyflenwr mwyaf cynnyrch Cymreig Cymru sy’n cyflenwi amrywiaeth eang o datws a llysiau tymhorol i fanwerthwyr a chyfanwerthwyr mawr, i roi cipolwg ichi ar sut y mae’r diwydiant bwyd a diod yn gweithio yng Nghymru.

Ymunwch â ni a’n partneriaid lawer ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn ein Hyb Gyrfaoedd Bwyd & Diod yn adeilad Clwyd Morgannwg a chymryd rhan mewn:

  • Dosbarthiadau meistr coginio a gweithdai gyrfaoedd ar gyfer pob oed
  • Parth chwarae plant gyda thryciau fforch godi a reolir o bell
  • Profi synhwyraidd a gemau
  • Prisio bwyd a gwirio ansawdd
  • Cipolwg ar farchnata a defnyddwyr
  • Cystadlaethau, heriau a llawer mwy!

Bydd ein hysbysfwrdd swyddi byw yn eich helpu hefyd i gael gwybod beth sydd ar gael a gweld sut y gallwch agor drysau i’ch gyrfa Bwyd & Diod yn y dyfodol.

Felly cofiwch ddod i gael hyd inni a chofiwch gadw’ch llygaid ar agor am ein masgot yn Sioe Frenhinol Cymru, Tomi Taten!

https://www.foodskills.cymru/food-workforce-wales/