Gwobr Dr Emrys Evans - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Gyda’r thema ’Sgiliau Stocmon’ a gyda’r nod o arddangos a dangos da byw’, enillydd Gwobr Dr Emrys Evans Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni yw Mr Cai Edwards o Glwyd.

Gwnaeth safon uchel yr ymgeiswyr am y wobr, a noddwyd yn garedig gan Mrs Mair Evans, argraff dda iawn ar y beirniaid. Dangosodd pob un o’r deg ymgeisydd ystod eang o sgiliau, yn cynnwys technegau cyfoes a dulliau traddodiadol a dangos amrywiaeth o stoc, o ddefaid i wartheg a cheffylau. Roedd sgiliau eraill, yn cynnwys clipio a thrimio yn barod ar gyfer y sioeau, yn amlygu’n aml nifer yr oriau yr oedd yr ymgeiswyr yn ei neilltuo i arddangos.

“Roedd yn wir anrhydedd dderbyn y cais i feirniadu gwobr Dr Emrys Evans eleni.” meddai’r beirniaid, Mr DE Meurig James FRAgS a Mr Martin Sivill.

“Roedd cael y cyfle i ymweld â gwahanol ffermwyr ifanc o bob cwr o Gymru yn orchwyl cyffrous ac ni wnaethon nhw siomi pan wnaethom gyfarfod pob un ohonynt. Roedd y sgiliau a gyflwynwyd inni a’r stoc a ddangoswyd inni yn glod i bob un ymgeisydd.”

Roedd dau ymgeisydd yn sefyll allan uwchben y lleill, y ddau’n dangos peth wmbredd o wybodaeth a sgil wrth ddangos eu stoc dewisedig.

Mae Non Thorne o Sir Benfro yn berchennog ar fuches arbennig o wartheg Henffordd Pedigri. Roedd ei brwdfrydedd dros y brîd i’w weld yn yr amser y mae hi’n ei roi i’w hyrwyddo. Roedd hi’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i’w helpu i hyrwyddo’r brîd yn arbennig yn ystod y Cyfnod Clo pan nad oedd dim sioeau. Roedd hi’n cyflwyno ei stoc yn hyderus ac yn tynnu sylw at ei sgiliau fel person sioe deheuig.

Mae Cai Edwards o Glwyd yn berchennog ar ac yn dangos gwartheg bîff masnachol a gwartheg Limousin pedigri. Gwnaeth argraff fawr ar y beirniaid cyn gynted ag y gwnaethant gyrraedd ei fuarth.

“Roedd y tîm o wartheg sioe wedi’u rhwymo ac yn barod i gael eu gweld. Roedd ei baratoi, yn cynnwys dangos y broses o baratoi anifail ar gyfer y cylch sioe a’r wybodaeth y mae’n glir fod ganddo yn amlwg i’w weld. Mae wedi cael llawer o lwyddiant hefyd ar y gylchdaith sioeau, y mae llawer ohono wedi bod gyda gwartheg a fagwyd gartref. Mae ymwybyddiaeth Cai o farchnadoedd sy’n newid yn golygu y byddai’n hoffi cynyddu’r niferoedd pedigri, ond dangosodd hefyd ei fod yn gweld budd y stoc masnachol, yn gwerthu’n dda oddi ar gefn y llwyddiannau yn y sioeau.”

Ar ôl llawer o ystyriaeth mae’r beirniaid yn falch o ddyfarnu Gwobr Dr Emrys Evans i Cai Edwards o Glwyd ac maent yn dymuno llwyddiant cyson iddo ef ac i’r holl ymgeiswyr ar gyfer y dyfodol.

Bydd tystysgrif a medal yn cael eu cyflwyno ar ddydd Llun 18 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru er cof am Dr Emrys Evans, medalydd aur y Sioe Fawr a chadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, a fu farw y noson cyn sioe’r canmlwyddiant yn 2004.

Capsiwn y Llun: Llun o Mr Cai Edwards (dde) yn Ffair Aeaf 2018 ble enillodd ef a’i deulu Brif Bencampwr y Gwartheg.