Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae The Plassey, ffermdy â’i adeiladau yn Wrecsam a godwyd yn 1902 ac sy’n eiddo i Mr a Mrs Brookshaw wedi ennill Cystadleuaeth Gweithiau ac Adeiladau Fferm 2022 Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

’Doedd y gystadleuaeth, a noddwyd yn garedig gan Harrison Clark Rickerbys Solicitors, ond yn agored i ffermydd yng Nghlwyd, sir nawdd y Gymdeithas eleni. Roedd y wobr yn chwilio am ddefnydd adeiladau traddodiadol mewn busnes amaethyddol modern a/neu fusnes cynhyrchu bwyd a diod a chafodd ei beirniadu gan Mr Colin VJ Pugh FRAgS, Mr Tom Allison (enillydd 2019) a Mr Christopher Lloyd ARAgS.

Eleni ymwelodd y beirniaid ag amrediad eang o adeiladau traddodiadol a oedd wedi’u haddasu dros y blynyddoedd i arallgyfeirio busnesau’r ffermydd. Oherwydd amrywiaeth yr adeiladau a oedd wedi’u haddasu at ddefnydd bwyd ac amrywiol gyfnodau datblygu’r busnesau, rhoddodd gryn anhawster i’r beirniaid wrth benderfynu ar enillydd, ond penderfynwyd mai’r addasiad adeilad gorau oedd y ffermdy a’r adeiladau a adeiladwyd yn 1902 yn The Plassey, sy’n eiddo i Mr a Mrs J Brookshaw.

Canolbwynt The Plassey oedd adeilad a godwyd yn 1902 i safonau uchaf un y cyfnod. Roedd wedi’i adeiladu o frics gorau un Rhiwabon ac yn fewnol roedd wedi’i orffen â brics gwydrog. Roedd yn cynnwys beudy mawr gyda buchod wedi’u rhwymo mewn stolion, stablau, llociau teirw, taflod borthiant ar gyfer grawn a gwair a llawer o siediau ategol o dan yr un to.

Yn ffodus, roedd rhieni John heb dynnu ffitiadau mewnol y beudy a’r stablau yn ystod gwaith adnewyddu blaenorol gan fod y ffitiadau hynny’n creu urddas i’w ryfeddu yn y bar a’r bwyty yn dilyn y gwaith adnewyddu diweddaraf, gyda phob stâl â 2 stôl bar gyda’r mansieri a’r powlenni dŵr wedi’u goleuo o dan top y bar pren tryloyw. Mae’r bwyty’n ymestyn i fyny’r grisiau ble mae ystafelloedd derbyniadau i gyd wedi’u cynnwys o fewn y daflod rawn wedi’u hamgylchynu gan waliau brics hardd. Mae’r siop goffi yn yr un cyfadeilad wedi’i lleoli yn yr hen stablau, sydd yn dal i fod â’r stalau ceffylau gwreiddiol a gyda’r bracedau pren ar y waliau a oedd yn dal y cyfrwyau 100 mlynedd yn ôl. Mae’r bwyty a’r siop goffi’n cael eu defnyddio’n llawn gan y carafanwyr ar y safle yn ogystal ag ymwelwyr o’r ardal a thu hwnt.

Byddir yn cyflwyno Trywel Arian Ystâd Peniarth, a roddwyd gan y diweddar Gyrnol J F Williams-Wynne CBE DSO MA FRAgS, i Mr a Mrs Brookshaw ynghyd â chofrodd gan y Gymdeithas, ar ddydd Mawrth 19 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru.