Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae cystadlaethau silwair cladd a byrnau mawr Cymru gyfan 2022, sy’n cael eu rhedeg gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru, wedi gweld silwair o’r ansawdd uchaf yn cael ei gynhyrchu unwaith eto gan lawer o’r tyfwyr silwair gorau o bob cwr o Gymru.

Mae silwair yn allweddol i gynhyrchu cig a llaeth ar lawer o ffermydd Cymru, ac mae’r gystadleuaeth yn un o’r rhai y mae mwyaf o gystadlu amdani yn y diwydiant.

Cystadleuaeth Silwair Cladd Cymru Gyfan

Enillydd y gystadleuaeth cladd, a noddir gan Wynnstay Group PLC ac a gefnogir gan Agri Lloyd International Ltd, yw Ifan Ifans o Tyddyn Cae, Boduan, Pwllheli.

Mae cystadleuaeth Silwair Cladd Cymru Gyfan wedi bod yn rhedeg er 1979 ac mae’n agored i holl aelodau 22 cymdeithas tir glas Cymru. Mae pum terfynydd rhanbarthol yn mynd trwodd wedyn i rownd derfynol Cymru Gyfan, a feirniadwyd eleni gan feirniad technegol, John Evans; noddwr y Diwydiant Bryn Hughes o Wynnstay; ac enillwyr cystadleuaeth Silwair Cladd 2020 Michael Williams o Fagwrfran East, Puncheston, Hwlffordd ac enillwyr 2021 Nigel Williams a Joy Smith o Parc-y-Marl, Llys-y-frân, Clarbeston Road, Sir Benfro.

Roedd y Panel Beirniadu yn cytuno bod Tyddyn Cae yn cwrdd â’r holl feini prawf a osodwyd ym manylebau’r gystadleuaeth. Mae’n system a reolir yn dda. Er bod y dadansoddiadau o ansawdd y silwair yn bwysig, mae’r beirniaid yn ymweld â phob fferm hefyd i asesu rheolaeth y cladd ac arferion bwydo ymhlith marcwyr effeithlonrwydd eraill.

Fferm laeth 520 erw wedi’i lleoli ym Mhen Llŷn yw Tyddyn Cae, gyda 400 erw o laswellt yn cael ei ddefnyddio ar gylchdro a 120 erw o borthiant âr (80 o gnwd cyfan wedi’i dan-hau a 40 erw o indrawn). Mae cyfanswm o 6700 litr/fuwch o laeth yn cael ei gynhyrchu bob mis. Braster menyn 4.6% Protein 3.7%

Roedd dadansoddiad sylfaen y dogn gaeaf yn DM 33%; Gwerth D 74.6%, ME 11.9 MJ/kg a CP 12.8% gan ddangos lefelau cymeriant uchel a chnwd wedi’i wneud yn dda iawn.

Cymerwyd 200 erw ar gyfer y toriad cyntaf ar y 5ed o Fai – cafodd y cnwd ei wywo am 18 awr a chwblhawyd y broses silweirio mewn diwrnod. Defnyddir ychwanegyn Ecosyl bob toriad. Roedd yna ail doriad (10fed Mehefin) a thrydydd (22ain Gorffennaf) o 250 erw, pob un yn gwneud cyfanswm o 2000t wedi’i silweirio.

Cystadleuaeth Byrnau Mawr Cymru Gyfan

Enillydd y gystadleuaeth byrnau mawr, a noddir gan BPI Agriculture (Silotite), yw Gerwyn Williams o Swmbarch, Treletert, Hwlffordd.

Mae cystadleuaeth Byrnau Mawr Cymru Gyfan wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ers ei chychwyn yn 1996. Mae’n agored i holl aelodau 22 cymdeithas tir glas Cymru, ac mae’n gystadleuaeth sy’n gryn her ei hennill. Beirniadwyd cystadleuaeth eleni gan Dr Dave Davies, Silage Solutions; Stuart Anthony (Noddwr y Diwydiant BPI Agri); a Gary a Jess Yeomans, Pant Farm, Llanwytherin, Y Fenni (Enillydd Cystadleuaeth Byrnau Mawr FWGS 2021).

Meddai Dave Davies, y beirniad arweiniol: “Roedd y gystadleuaeth yn ffyrnig eleni gyda silwair o ansawdd rhagorol ar ddangos.  Gyda’r newidiadau sgorio sydd wedi digwydd mae hi’n hanfodol bwysig fod y cystadleuwyr yn canolbwyntio nid yn unig ar gynhyrchu silwair o’r ansawdd uchaf ond hefyd ar sicrhau fod gwerth maethol y silwair yn cael ei optimeiddio ar gyfer yr anifeiliaid y mae’n eu bwydo.  Yn ogystal, mae cyfran fawr o’r marciau’n cael eu dyfarnu am agweddau eraill ar y broses gwneud a bwydo’r silwair a mwyhau’r ddibyniaeth ar borthiant o fewn systemau bwydo’r fferm gyfan ac ansawdd y stoc sy’n ei fwyta.”

Mae enillydd y gystadleuaeth, Gerwyn Williams yn rhedeg buches gaeëdig o fuchod sugno gan fynd â’r holl wartheg bîff trwodd i’w pesgi, gydag ydau a dyfir ar y fferm a’r dwysfwyd lleiaf posibl yn cael ei brynu fel adchwanegion. 48 o fuchod i gyd yn fuches Gaeëdig tarw potel Genus a’r holl anifeiliaid bîff yn cael eu gwerthu cyn 24 mis. Mae Gerwyn nid yn unig yn optimeiddio Ansawdd Silwair i anghenion maethol yr anifail ond mae’n defnyddio ydau a dyfir ar y fferm i’r bîff sydd ar eu tyfiant ac sy’n pesgi sy’n golygu felly bod y lleiaf posibl o ddwysfwydydd a brynir yn cael eu defnyddio. Mae’r buchod ar silwair a silwair âr, mae’r stoc ifanc ar 1.5kg/pen o gymysgedd cartref a’r stoc sy’n pesgi ar 5.5kg/pen o gymysgedd cartref a silwair ad-lib. Adchwanegyn protein yw’r unig fwyd anifeiliaid a brynir. Daw’r rhan fwyaf o fwyd yr anifeiliaid o silwair. Mae ef wedi cyrraedd y rowndiau terfynol nifer o weithiau ond ni fu erioed yn enillydd… eleni fodd bynnag, ef yw hufen yr hufen.

Mae tri thoriad cynaeafu yn Swmbarch (Mai, Gorffennaf, Awst) gyda chyfanswm y byrnau y  llynedd yn 380 ynghyd â silwair âr Barlys/Pys wedi’i fyrnu a’i dan-hau â glaswellt. Mae’r toriad cyntaf yn cael ei wywo am 48 awr a’r ail a’r trydydd am 24 awr yr un. Roedd y dadansoddiad o fyrnau mawr Gerwyn yn dangos DM 52.1%, CP 11.6, Gwerth D 59.8, ME 9.6, a pH 4.8.

Meddai Dave Davies, y Beirniad Technegol “Mae bwydo silwair o wahanol ansawdd i wahanol fathau o stoc ar ffermydd bîff a defaid yn hollbwysig hefyd i gynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol. Gwelodd y beirniaid fod Gerwyn Williams yn optimeiddio ei strategaeth bwydo porthiant orau ymhlith y rhai yn y rownd derfynol.  Roedd ei fwydo porthiant wedi’i dargedu yn arwain at gostau bwydydd anifeiliaid a brynir is ac yn ei alluogi i weld y nifer o fanteision canlyniadol y mae’r ffordd yma o fynd ati yn eu darparu.”