Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn rhoi protocolau tywydd poeth yn eu lle ar gyfer
Sioe Frenhinol Cymru 2022 a fydd yn dod i rym pan fydd y sioe’n cychwyn ar ddydd Llun 18fed
Gorffennaf. Gyda thywydd poeth yn cael ei ddarogan ar gyfer dechrau’r Sioe, mae’r Gymdeithas yn
cymryd rhagofalon ychwanegol ac yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid i liniaru peryglon gwres
ac i wella diogelwch pobl ac anifeiliaid.
Mae’r rhagofalon yr ydym wedi’u rhoi yn eu lle i ddiogelu’r bobl hynny sy’n ymweld, yn arddangos
ac yn gweithio yn y Sioe fel a ganlyn;
Lles Da Byw
Mae llawer o ddarpariaethau’n cael eu gwneud hefyd o fewn yr adran dda byw. Bydd dŵr
ychwanegol ar gael, ac mae gwyntyllau wedi’u gosod ym mhob un adeilad da byw gyda gwyntyllau
wedi’u huwchraddio newydd yn y mannau sydd dan fwyaf o fygythiad. Mae’r amseroedd cyrraedd i
dda byw wedi’u newid er mwyn croesawu stoc yn gynnar yn y bore ac yn hwyr min nos, i osgoi
ciwiau ar yr adegau poethaf o’r dydd.
Bydd milfeddygon y Gymdeithas ar ddyletswydd tra byddir yn gosod pethau i fyny ac ar hyd y Sioe
ar gyfer unrhyw gymorth milfeddygol, gyda stiwardiaid ar gael hefyd i helpu gydag unrhyw
broblemau a all ddigwydd.
Bydd y tymheredd yn yr adeiladau da byw yn cael ei fonitro’n barhaol, i gefnogi penderfyniadau
amser real. Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi hefyd i amseriadau dosbarthiadau, y gellir eu newid os
bydd angen.
Mae’r Gymdeithas yn gweithio mewn partneriaeth â’r Swyddfa Dywydd, Dŵr Cymru, Iechyd
Cyhoeddus Cymru, Y Prif Swyddog Milfeddygol, yr Awdurdod Lleol a’r holl wasanaethau golau
glas i sicrhau bod Sioe Frenhinol Cymru yn llwyddiant ysgubol, er gwaethaf y tywydd a ragwelir.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu pawb yn ôl i Faes y Sioe yn Llanelwedd yr
wythnos nesaf ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn sioe wych.