Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Croesawodd ddiwrnod agoriadol Sioe Frenhinol Cymru 2022 dywydd cynnes ac ymwelwyr yn ôl i faes y sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt. Ar ôl saib o dair blynedd, Sioe eleni yw’r gyntaf er 2019, ac roedd yr awyrgylch o gwmpas maes y sioe yn byrlymu gydag arddangoswyr, masnachwyr ac ymwelwyr yn gallu dychwelyd o’r diwedd i brif ddigwyddiad y calendr amaethyddol.

Wrth annerch ymwelwyr yn seremoni agoriadol y bore yma (dydd Llun 18 Gorffennaf), dywedodd Llywydd 2022, Mr Harry Fetherstonhaugh OBE FRAgS pa mor falch oedd ef i fod yn llywydd y Gymdeithas yn ystod blwyddyn Sir Nawdd Clwyd. “Rwyf yn sefyll yma’n ostyngedig ac yn ei hystyried yn anrhydedd hefyd imi gael fy newis gan fy nghymheiriaid i fod yn Llywydd y sefydliad urddasol ac uchel ei barch hwn. Yn wir mae hi wedi bod yn llawenydd ac yn fraint imi fy mod wedi gwneud cymaint o gyfeillion newydd trwy fy 45 mlynedd o stiwardio yn Sioe Frenhinol Cymru.”

Agorwyd y sioe yn swyddogol gan Mr Emyr Jones a Mr Rhys Williams, y mae’r ddau ohonynt yn rhan o fenter ymgeiswyr ifanc ar y cyd yn Coed Coch, cartref y Llywydd Harry Fetherstonhaugh. Mynegodd y ddau ohonynt eu diolch i’r Gymdeithas ac i Harry am y cyfle i agor Sioe Frenhinol Cymru ar y cyd.

“Mae’r sioe ardderchog yma’n agos at fy nghalon ac ni wnes i ddim erioed ddychmygu unwaith y byddwn i yn y sefyllfa anrhydeddus yma, felly diolch yn fawr iawn i Sioe Frenhinol Cymru ac yn arbennig i Harry am y fraint o’ch annerch chi heddiw ar ddechrau’r hyn sydd am fod yn wythnos wych.” meddai Rhys.

Fe wnaeth Emyr a Rhys gyfarfod Harry gyntaf chwe blynedd yn ôl pan roddwyd y cyfle iddynt ymuno â Harry a sefydlu menter ar y cyd ar fferm y plas ar ystâd Coed Coch. Soniodd Rhys am sut mai cael gafael ar dir yw’r rhwystr mwyaf wrth atal y genhedlaeth nesaf o ffermwyr rhag rhedeg eu busnesau ffermio eu hunain a sut y mae mentrau ar y cyd fel yr un yn Coed Coch yn gallu bod yn rhan o’r ateb.

Mae Rhys Williams wedi gweithio ym myd amaeth trwy gydol ei fywyd, gan ddechrau mewn addysg amaethyddol cyn symud ymlaen i waith ymgynghoriaeth i fusnesau fferm. Mae’n gweithio’n weithredol ar y fferm deuluol ym Mhen Llŷn yn ogystal â bod a wnelo â’r fenter ar y cyd yn Coed Coch ble maen nhw’n ymdrechu i weithio tuag at ddulliau ffermio cynaliadwy.

Yn dilyn y seremoni agoriadol, dechreuodd Sioe Frenhinol Cymru gyda’i rhaglen 12 awr drawiadol o adloniant ac arddangosfeydd yn y Prif Gylch, yn cynnwys y perfformiad Gyriad Cerddorol ysblennydd gan Farchmagnelwyr Brenhinol y King’s Troop, y styntiwr beiciau cwad Paul Hannam, gyda’i Sioe Styntiau Beiciau Cwad gyffrous, Tîm Arddangos Parasiwtio’r RAF Falcons, Band Catrodol y Cymry Brenhinol, Hebogyddiaeth y Mynyddoedd Du, Gyrru Cerbydau Tristar, a Meirion Owen a’i Gŵn Defaid.

Yn newydd ar gyfer eleni, roedd CAFC yn falch o lansio’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig. Wedi’i hanelu at ysbrydoli arweinwyr y dyfodol ym myd amaeth, mae’r rhaglen yn gyfle i ddatblygu sgiliau arwain ar adeg mor bwysig i’n sector. Bydd y rhaglen yn gwrs llawn mynd o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth a chyfarwyddyd yn ystod tri sesiwn preswyl dwys. Cyhoeddwyd y pedwar ar ddeg o ymgeiswyr yn ystod seremoni wobrwyo ddoe.

Meddai Steve Hughson Prif Weithredwr CAFC

“Er gwaethaf heriau’r tywydd, roedd diwrnod cyntaf y Sioe Frenhinol yn llwyddiant ysgubol, gyda miloedd yn mwynhau’r amrywiaeth eang o dda byw, arddangosfeydd a stondinau masnach ar y safle.  Wrth inni edrych ymlaen at yr ail ddiwrnod, rydym yn gyffrous y bydd Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol yn ymweld ac yn gweld y goreuon sydd gan Gymru i’w gynnig.  Wrth i’r tywydd wella, edrychwn ymlaen at dri diwrnod arall a nifer y mynychwyr yn cynyddu.”