Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’n hyfrydwch gan CAFC y bydd Ei Huchelder Brenhinol, Y Dywysoges Frenhinol yn ymweld â Sioe Frenhinol Cymru eleni, ar yr ail ddiwrnod, dydd Mawrth 19eg Gorffennaf 2022.

A hithau wedi ymweld â Sioe Frenhinol Cymru gyntaf yn ôl yn 1981, mae’r Dywysoges Frenhinol yn un o sawl aelod o’r teulu Brenhinol sy’n ymwelwyr rheolaidd â digwyddiadau’r Gymdeithas.

Mae cysylltiadau Brenhinol y Gymdeithas yn mynd yn ôl i 1907 pan, dair blynedd ar ôl sefydlu’r gymdeithas, y daeth y Brenin Siôr V, oedd yn Dywysog Cymru bryd hynny, yn Noddwr, gyda’r Brenin Siôr VI yn ei ddilyn yn 1936. Cymerodd y Frenhines y swydd drosodd yn 1952 ac mae hi’n dal yn Noddwr hyd at heddiw.

Yn ymuno â ni ar ail ddiwrnod y sioe, dyma fydd chweched ymweliad y Dywysoges Frenhinol â Maes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, ar ôl ymweld ddiwethaf yn 2014 ar gyfer y Ffair Aeaf.

Meddai Steve Hughson, Prif Weithredwr CAFC: “Rydym yn gyffrous dros ben o groesawu EHB Y Dywysoges Frenhinol yn ôl i Sioe Frenhinol Cymru, gan atgyfnerthu ein cysylltiadau cryf â’r teulu Brenhinol a’n Noddwr Ei Mawrhydi’r Frenhines.”

Bydd y Dywysoges Anne yn cyrraedd fore dydd Mawrth a bydd hi’n mynd ymlaen gyda thaith o amgylch Maes Sioe Frenhinol Cymru, yn cael ei hebrwng gan Gyfarwyddwr y Sioe, Richard Price. Yn ystod yr ymweliad, bydd hi’n mynychu’r Seremoni Wobrwyo ble bydd hi’n cyflwyno nifer o wobrau.

Mae’n anrhydedd gan y Gymdeithas groesawu’r Dywysoges Frenhinol yn ôl i Sioe Frenhinol Cymru, ac edrychwn ymlaen at ei hymweliad mawr ddisgwyliedig yr wythnos nesaf.

Mae Sioe Frenhinol Cymru’n dechrau ar ddydd Llun 18fed Gorffennaf ac yn rhedeg am bedwar diwrnod, gyda rhaglen 12 awr lawn o gystadlaethau, atyniadau, stondinau masnach, ac arddangosfeydd y Prif Gylch. I gael mwy o wybodaeth am y Sioe neu i brynu tocynnau, ewch i  wefan CAFC.