Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Fel prif wobr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, mae Gwobr Goffa Syr Bryner Jones yn cael ei chwennych yn fawr bob blwyddyn.

Mae enillydd gwobr eleni wedi’i gadw ynghudd tan ddoe, (dydd Llun 18 Gorffennaf), diwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru, gan greu ymdeimlad o gyffro a disgwyliad sy’n briodol i wobr mor glodfawr.

Fe wnaeth Syr Bryner Jones helpu i lunio cyfeiriad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am hanner can mlynedd. Roedd yn bennaeth yr Adran Amaethyddiaeth a Choleg Aberystwyth yn 1907 ac aeth yn ei flaen i fod yn un o brif gymeriadau addysg amaethyddol yng Nghymru. Roedd yn ddyn dylanwadol yn Amaethyddiaeth Cymru, gan ddod yn Gomisiynydd ac yn Gadeirydd Cyngor Amaethyddol Cymru ac wedi hynny daeth yn Ysgrifennydd Cymru’r Weinyddiaeth Amaeth.

Roedd Syr Bryner Jones, a gafodd ei urddo’n Farchog yn 1947, yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus Sioe Frenhinol Cymru o 1908 tan 1910 ac roedd yn Gadeirydd Cyngor y Gymdeithas o 1944 tan 1953. Daeth yn Llywydd y Gymdeithas yn 1954, yn 50fed flwyddyn y gymdeithas.

Er 1957 mae’r wobr wedi’i rhoi bob blwyddyn i rywun o wahanol ran o’r diwydiant ffermio sydd wedi cyrraedd y lefel cyflawniad uchaf yn y sector a ddewiswyd. Eleni roedd y beirniaid yn chwilio am unigolyn neu fusnes sy’n ymwneud yn weithredol â chynhyrchu bwyd a/neu ddiod cynradd sy’n dangos arloesedd cynaliadwy ac sy’n gwella amgylchedd Cymru.

Gyda phob un o’r terfynwyr a roed ar y rhestr fer, a’u teuluoedd yn aros yn eiddgar i glywed pwy oedd wedi ennill, cyhoeddodd Llywydd y Gymdeithas, Harry Fetherstonhaugh mai enillydd Gwobr Goffa Syr Bryner Jones 2022 yw’r Arglwydd Newborough o Ystâd Rhug, Corwen.

Mae Ystâd Rhug yn Sir Ddinbych yn ymestyn  dros 12,500 o erwau gyda thua 6,700 o’r rheini’n cael eu ffermio mewn llaw.  Cymerodd yr Arglwydd Newborough awenau’r Ystâd gan ei dad yn 1998 ac am fod cynaliadwyedd wrth galon y genhadaeth fusnes, cafodd ei haddasu’n fferm organig gyda statws organig llawn o 2000.  Mae’r model ffermio cynaliadwy yma’n cynhyrchu cymaint yn awr â phan oedd yn cael ei ffermio’n gonfensiynol.  Mae Ôl Troed Carbon ac Effaith Amgylcheddol bob amser ym mhob cynllun ar draws y busnes ac wedi bod felly o’r cychwyn ac ers bod yr ôl troed carbon yn cael ei fesur, maen nhw mewn sefyllfa garbon negyddol oherwydd y system a’r ffordd y maen nhw wedi ffermio a rheoli’r tir.

Agorodd y siop fferm yn Rhug yn 2002 gan werthu ei gig gwobrwyedig o ansawdd uchel, yn gig eidion, cig oen, cyw iâr, cig carw, gwyddau a thwrci, mewn amrywiaeth eang o gynhyrchion, dewisiadau a thoriadau.  Mae yna fwyty, caffi a lle bwyd i fynd hefyd ac ychwanegiad diweddar yw’r cyfleuster trwy ffenest y car newydd sy’n boblogaidd iawn oherwydd ei leoliad yn union ar ochr yr A5.

Gellir compostio neu ailgylchu’r deunydd pacio yn Siop y Fferm, y cyfleuster Trwy Ffenest y Car a’r Lle Bwyd i Fynd yn gyfan gwbl ac felly hefyd gyda’r hambyrddau cardbord ar gyfer eu cynhyrchion cig ac maen nhw’n adolygu’r deunyddiadu cynaliadwy ac ecogyfeillgar diweddaraf yn gyson. Mae’r gwastraff a gynhyrchir gan yr ymwelwyr yn cael ei ddidoli ac mae popeth y gellir ei ailgylchu yn cael ei ailgylchu. Mae Ystâd Rhug yn cyflenwi cig ar draws y DU i’r bwytai gorau yn ogystal â’i allforio i leoedd megis Hong Kong, Singapore a Dubai.

Bedair blynedd yn ôl, dyfarnwyd Gwarant Benodi Frenhinol i’r Arglwydd Newborough a Fferm Organig Rhug, siop y fferm a chownter y cigydd i EUB Tywysog Cymru.  Mae hyn ynddo’i hun yn gamp ryfeddol sy’n dangos cydnabyddiaeth i gynaliadwyedd a’i werth.

Mae cynhyrchu Ynni Gwyrdd yn Rhug yn rhan annatod o’r model cynaliadwyedd a dros y blynyddoedd maen nhw wedi adeiladu nifer o gynlluniau ynni dŵr, tyrbinau gwynt, systemau paneli solar a storfeydd batris ac mae nifer o brosiectau ar fynd ar hyn o bryd, yn cynnwys wyth o fannau gwefru trydan cyflym ar gyfer ymwelwyr a chwsmeriaid sy’n galw yn Rhug.  Fe wnaeth ymagwedd arloesol yr Arglwydd Newborough eu helpu i lansio dewis o nwyddau gofal croen newydd wedi’u brandio yn 2020 gan ddefnyddio cynhwysion a chwilotwyd ac a dyfwyd ar yr Ystâd.  Mae ymhell dros 100 o staff wedi’u cyflogi ar draws yr amrywiol fentrau ar yr Ystâd bellach ac mewn ardal wledig mae hynny o arwyddocâd a phwysigrwydd enfawr i’r economi a’r seilwaith lleol.

Mae hwn yn fusnes “cae i’r plât” gwirioneddol wedi’i drwytho ag angerdd a brwdfrydedd a arweinir yn dda gan yr Arglwydd Newborough a’i dîm wedi’i seilio ar fodel busnes eithriadol o gryf.  Mae iddo weledigaeth a chenhadaeth glir i fynd â’r busnes yn ei flaen am flynyddoedd i ddod i ehangu enw a brand Rhug.

Capsiwn y llun: Derbyniodd yr Arglwydd Newborough Wobr Syr Bryner Jones ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru 2022 gan y Llywydd Harry Fetherstonhaugh a’i wraig, Davina a noddwr y fedal, Gareth Roberts. Wedi ymuno â nhw mae’r beirniaid Brian Jones a Richard Vaughan.

Chwith i’r dde: Brian Jones, Gareth Roberts, Yr Arglwydd Newborough, Harry a Davina Fetherstonhaugh, Richard Vaughan.