Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Wrth i Sioe Frenhinol Cymru ddychwelyd dathlwn gyfraniad aruthrol y diweddar Dai Jones Llanilar i fywyd cefn gwlad a’r Sioe Frenhinol. Bu farw Dai yn gynharach eleni, yn dilyn dros 50 mlynedd o gyfraniad i ddarlledu’r ffordd wledig Gymreig o fyw. Bu ei allu unigryw i gyfleu gwir ymdeimlad cefn gwlad Cymru yn dra hysbys mewn cyfres a ddechreuodd yn 1982 wrth i gyfres S4C Cefn Gwlad barhau hyd heddiw. Dros y degawdau bu Dai yn angor i amserlen ddarlledu S4C o’r Sioe Frenhinol ynghyd â’r Ffair Aeaf. Roedd ei allu unigryw i gysylltu â phob cefndir yn ei wneud yn llysgennad effeithiol dros fywyd cefn gwlad Cymru.
Dywedodd John T Davies Cadeirydd bwrdd Cyfarwyddwyr CAFC
“Am hanner canrif bu Dai yn agor y drws ar holl drysorau cefn gwlad Cymru – y cymeriadau, y cymunedau a heb anghofio da byw o’r safon uchaf. Fu ei gyfraniad i’r Sioe ar gymdeithas yn anfesuriadwy fel darlledwr a chyn Lywydd y Gymdeithas, ond yn bwysicach na dim, cyfranodd Dai sut gymaint fel llysgennad effeithiol i’r ffordd wledig Gymreig o fyw. Ni ellir caniatáu i lysgennad mwyaf cefn gwlad Cymru fynd heb ei gydnabod”.
Heddiw mae CAFC yn cyhoeddi eu bwriad i greu teyrnged barhaol i Dai Jones. ‘Ein bwriad yw creu cofeb maint llawn i Dai ar gornel cylch y Gwartheg ger adeilad y Gwartheg Duon Cymreig. Aeth John T Davies ymlaen i ddweud ‘Y lleoliad hwn oedd pulpud Dai drwy gydol wythnos y Sioe. Bydd yn gerflun ac yn gofeb addas i Frenin Bywyd Gwledig Cymru’.
Mae’r gymdeithas heddiw yn lansio safle Gofund er mwyn caniatáu i unigolion sydd yn dymuno cyfrannu tuag at gost y cerflun maint byw er cof a chyfraniad Dai Jones Llanilar, gwladgarwr a un o ddarlledwyr mwyaf Cymru.