Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’n bleser gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru lansio Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig newydd CAFC ar gyfer 2022-2023.

Mae’r Gymdeithas yn cydnabod yn ddiolchgar gymynrodd hael y ddiweddar Mrs Mair Jones Griffiths, a gefnogir gan Sir Nawdd Morgannwg 2023.

Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth yn anelu at ddarparu rhaglen llawn mynd o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth a chyfarwyddyd yn ystod tri sesiwn preswyl dwys. Fe wnaeth y cyfle i rwydweithio gydag unigolion uchel eu proffil o fewn y diwydiant ddechrau gyda diwrnod dethol/blasu i ymgeiswyr ym mis Mai 2022.

Yn anelu at ysbrydoli arweinwyr y dyfodol mewn amaethyddiaeth, mae’r rhaglen yn gyfle i ddatblygu sgiliau arwain ar adeg mor bwysig i’n sector.

Yr 14 ymgeisydd llwyddiannus, a gyhoeddwyd yn seremoni wobrwyo ddoe, yw (yn nhrefn yr wyddor o ran eu cyfenw) –

Nicola Davies, Marton, Y Trallwng

Mae Nicola Davies yn gyfreithwraig sydd newydd gymhwyso mewn cwmni gwledig sy’n cynnig amryw o wasanaethau cyfreithiol a chynghorol i ffermwyr, tirfeddianwyr, a phobl wledig. Fel merch fferm, mae gan Nicola ddealltwriaeth dda o’r heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu ac mae’n gobeithio datblygu ei gwybodaeth ymhellach trwy’r hyfforddiant a’r mentora sydd ar gael yn y rhaglen.

“Teimlaf yn ffodus iawn fy mod wedi fy newis ar gyfer y Rhaglen Arweinyddiaeth ac edrychaf ymlaen at gyfarfod ac at ddysgu gan unigolion uchel eu proffil a’r ymgeiswyr eraill. Rwyf yn gobeithio datblygu fy sgiliau arwain yn y sector amaethyddol amrywiol trwy gael gwybod am y llwyddiannau a’r heriau y mae eraill wedi eu hwynebu yn y diwydiant.”

Joshua Govier, Llwynhelig, Y Bont-faen

Joshua Govier yw’r Rheolwr Da Byw ar Ystâd Penllyn, Bro Morgannwg. Wedi’i eni a’i fagu yng Nghaerdydd heb fod yr un o’i hynafiaid yn ffermwyr ond gyda chariad at amaethyddiaeth a chefn gwlad, roedd Joshua wedi ymrwymo i ddilyn gyrfa mewn amaethyddiaeth a mynychodd Ystâd Penllyn ym Mro Morgannwg ar gyfer profiad gwaith.  Mae Joshua’n byw ar yr Ystâd bellach gyda’i bartner a’u dau blentyn bach. Am y pum mlynedd ddiwethaf, mae wedi bod yn rheolwr da byw yn gyfan gwbl gyfrifol am y ddiadell 1100 o nifer o famogiaid Romney Seland Newydd sy’n cyflenwi cig i Forage, siop fferm yr ystâd.

“Trwy fod yn rhan o’r rhaglen datblygu arweinyddiaeth, fy nod yw dal i ddatblygu fy set sgiliau a’m gwybodaeth er mwyn gwella fy musnes.  Rwyf yn edrych ymlaen at rwydweithio gyda’r grŵp a chlywed gan arweinwyr y diwydiant am heriau a chyfleoedd y dyfodol sydd gennym fel sector.”

Esyllt Ellis Griffiths, Llanwenog, Llanybydder – Yn aros bywgraffiad

Natalie Hepburn, Caerdydd – Yn aros bywgraffiad

Zak Hughes, Broad Oak, Yr Amwythig

Mae Zak Hughes yn Asiant Blaendrafodion gydag NFU Mutual a chyn hynny’n Rheolwr Banc Amaethyddol. Disgynnodd Zak i’r sector yn ddamweiniol, ac yntau heb fod yn dod o gefndir ffermio, ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn amaethyddiaeth.

“Rwyf yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y rhaglen, gan adeiladu ar fy mhrofiad blaenorol fel Rheolwr Banc Amaethyddol a’m swydd bresennol fel Asiant Blaendrafodion gydag NFU Mutual. Rwyf yn gobeithio meithrin cysylltiadau gyda fy nghyfoedion yn y sector amaethyddol a gweithio tuag at gynnal y diwydiant a’i ddyfodol.”

Sean Jeffreys, Ffairfach, Llandeilo

Tyfodd Sean Jeffrey lan yn Abertawe ac roedd yn ffodus o allu profi blas ar fywyd gwledig ar dyddyn ei daid a’i nain. Aeth Sean yn ei flaen i ennill profiad gwaith ar amrywiol ffermydd cyn mynychu Prifysgol Harper Adams, ble bu’n astudio Amaethyddiaeth gyda Marchnata. Mae Sean wedi gweithio o’r blaen ar brosiect a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn hwyluso gwelliannau genetig tymor hir yn sector defaid Cymru trwy gofnodi perfformiad. Ar hyn o bryd mae’n cydbwyso swydd newydd gyda’r Masnachwyr Amaethyddol, Carr’s Billington ochr yn ochr â sefydlu Partneriaeth Ffermio Cyfran trwy gynllun Menter Cyswllt Ffermio ar fferm fynydd yn lleol i Landeilo.

“A minnau heb fod yn dod o gefndir amaethyddol, mae amgylchynu fy hun â phobl sydd â chariad at y diwydiant amaethyddol bob amser wedi bod yn bwysig imi er mwyn dysgu ac ehangu fy ngwybodaeth. Dyma’r rheswm pam oedd y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig mor atyniadol. Edrychaf ymlaen at gofleidio pob profiad y mae’r rhaglen yn ei gynnig, yn arbennig y cyfle i gyfarfod arweinwyr allweddol y diwydiant gyda’r diwydiant yn mynd drwy gyfnod o drawsnewid ar hyn o bryd.”

Hefin Beynon Jones, Llanarthne, Caerfyrddin
Hefin Jones yw’r bedwaredd genhedlaeth i ffermio yn Y Wern, Llanarthne. Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Abertawe, aeth Hefin yn ei flaen i weithio yng nghymunedau ôl-ddiwydiannol Cwm Gwendraeth yn bennaf ac ar secondiad gydag amrywiol sefydliadau yn amrywio o brifysgolion i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, cyn dychwelyd adref i ffermio pan ddirywiodd iechyd ei dad ychydig dros ddegawd yn ôl.

Ers dychwelyd adref i ffermio, bu Hefin yn ymwneud â gwaith NFU Cymru ar lefel sirol, fel aelod o Fforwm Polisi’r Genhedlaeth Nesaf, aelod o’r Bwrdd Da Byw ac aelod o’r Bwrdd Polisi. Mae bob amser yn ddiolchgar am gyfleoedd i ddysgu a chynrychioli’r sector. Ochr yn ochr â ffermio, mae Hefin yn gweithio fel cyfieithydd ar y pryd a hwylusydd hunangyflogedig. Bu’n gweithio ar amrywiol agweddau ar raglen Cyswllt Ffermio a chafodd ei ethol i Gyngor Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar.

Rhys Jones, Crosshands, Sir Gaerfyrddin

Daw Rhys Jones o Lanwrda, Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol ac mae wedi chwarae rhan weithgar gyda’r ffermwyr ifanc fel aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llangadog, gan gynrychioli’r Clwb, y Sir a Chymru mewn cystadlaethau Siarad Cyhoeddus yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Mae Rhys wedi dal swydd Cadeirydd Sirol NFU Cymru hefyd a bu’n rhedeg y Prosiect LEADER “Arloesi a Thechnoleg” yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.

“Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol ynghylch amaethyddiaeth Cymru, gan gael fy ysbrydoli gan fy niweddar Dad-cu i fod ag uchelgais, ac i’w gyflawni. Bydd cael y cyfle i fod yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth CAFC yn amhrisiadwy o ran fy natblygiad personol fy hun ac yn ei gynnig ei hun yn dda gobeithio i wella fy nealltwriaeth i arwain ac ysbrydoli eraill yn llwyddiannus.”

Elizabeth King, Hendy-gwyn, Caerfyrddin

Tyfodd Elizabeth King lan yng Ngwlad yr Haf ar fferm dda byw deuluol fechan ac mae hi bob amser wedi bod â chariad at amaethyddiaeth. Mae Elizabeth yn Ffermwr Ifanc brwd a gweithgar. Yn ystod ei hamser gyda’r CFfI mae hi wedi cystadlu ar lefel sirol a chenedlaethol ac wedi ymgymryd â nifer o swyddi swyddogol, yn cynnwys Cadeirydd y Clwb.

“Rwyf yn wirioneddol edrych ymlaen at gyfarfod amrywiaeth amryfal o bobl yn ystod y rhaglen a dysgu ganddynt a rhannu eu huchelgeisiau.  Rwyf yn sicr y bydd y rhaglen hon yn darparu’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd, herio fy hun a’m galluogi i wneud cysylltiadau gwych gydag unigolion o’r un anian. Rwyf wrth fy modd o allu cymryd rhan ac rwyf yn ddiolchgar dros ben am y cyfle.”

Sian Mercer, Ffarmers, Llanwrda

Tyfodd Sian Mercer lan ar fferm foch ac âr y teulu yn Lloegr a symudodd yn ddiweddarach i fferm ddefaid y teulu yn Sir Gaerfyrddin. Astudiodd Siân am ei Diploma Cenedlaethol mewn Amaethyddiaeth a BSc Amaethyddiaeth gyda Rheoli Cefn Gwlad yng Ngholeg Amaethyddol Cymru, cyn mynd am Seland Newydd i weithio ar ffermydd llaeth. Mae gyrfa amrywiol o fewn y diwydiant wedi dilyn, o addysgu yng Ngholeg Swydd Warwig, trefnu digwyddiadau i Gymdeithas Frenhinol Ffermwyr Godro Prydain (ABDF), ffotograffydd a phodlediwr amaethyddol hunangyflogedig i weithio’n awr gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar brosiect yn gweithio gyda ffermwyr ar afon Wysg a’i Llednentydd.

“Rwyf yn gyffrous o gael fy newis i fod yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Wledig CAFC gan y bydd yn dod â fi i gysylltiad â phobl o’r un anian i rannu meddyliau a syniadau a thrwy gyfarfod arbenigwyr y diwydiant, gallaf ddylanwadu ar eu meddwl gobeithio a dod â’r materion pwysig sy’n effeithio ar ein cymunedau ffermio i’r amlwg.

Emily Morgan, Penallta, Hengoed

Ar ôl graddio o Brifysgol Harper Adams yn 2021 gyda gradd BSc (Anrh.) mewn Gwyddor Biofilfeddygol, mae Emily’n gweithio’n awr fel Rheolwr Cyfrif i’r Gwneuthurwr Bwydydd Anifeiliaid ForFarmers, o fewn Tîm Moch y DU. A hithau wedi tyfu lan o fewn y Sector Amaethyddol, mae Emily’n mwynhau helpu i redeg diadell ei theulu o ddefaid pedigri ac o ddefaid masnachol yn ogystal â bod yn aelod gweithgar o’i Chlwb Ffermwyr Ifanc lleol.

‘Roedd ymgymryd â swydd cadeirydd clwb fy nghlwb ffermwyr ifanc lleol ym mis Medi 2021 yn her enfawr ond yn un yr wyf wedi’i gwir fwynhau. Dyma oedd fy mhrofiad cyntaf o ymgymryd â swydd arwain, ac er ei fod yn cymryd ymroddiad enfawr, mae’r gwobrwyon yn werth chweil. Rwyf yn gyffrous o fod yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Wledig CAFC 2022-23 i ddatblygu’r sgiliau hynny ymhellach!’

Huw Morgan, Tal-y-bont ar Wysg, Aberhonddu

Mae Huw Morgan yn ffermio buchod sugno a defaid gyda’r teulu yn Nhal-y-bont ar Wysg, ar odreon Bannau Brycheiniog. Mae teulu Huw wedi bod yn ymwneud â llawer o gynlluniau amgylcheddol dros y blynyddoedd ac maen nhw bob amser wedi ffermio gyda’r amgylchedd mewn cof. Mynychodd Huw Goleg Amaethyddol Cymru yn Aberystwyth, ble enillodd ei N.D.A.

Yn ogystal â’r fferm deuluol, mae Huw wedi gweithio ar amryw o ffermydd yn y DU yn ogystal â Denmarc a Seland Newydd. Mae Huw wedi bod yn gyfrifol o’r blaen am drefnu criw cneifio am bymtheg mlynedd a bu’n gwneud gwaith cneifio ar gontract am 25 mlynedd, yn ogystal â dod yn bartner yn sudd afal Aber Valley yn ddiweddar.

David Rees, Llangynwyd, Maesteg

“Mae’r diwydiant hwn yn dapestri cyfoethog o bobl, syniadau ac athroniaethau. Ond pan ydych yn cael eich cipio’n gyson yng ngwaith rhedeg fferm deuluol o ddydd i ddydd, gall hi fod yn hawdd iawn mynd yn sownd gydag egwyddorion marwaidd. Gellir dysgu llawer trwy ddarllen ac ymchwilio, ond rwyf yn ei chael hi’n llawer mwy cyfoethogol cyfarfod a thrafod syniadau gydag arbenigwyr y diwydiant sydd wedi bod yno, ei wneud a gwneud y camgymeriadau.  Rwyf yn gobeithio mai dyna’n union y bydd Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig CAFC yn gallu ei ddarparu.”

“Mae fy nghyfoedion yn y rhaglen eisoes wedi profi eu hunain yn uchelgeisiol ac entrepreneuraidd, ac yn yr amgylchedd yma yr ydych yn teimlo’n ddigon diogel i wthio’r syniadau a’r terfynau y gallech fod wedi’ch cyfyngu iddynt yn draddodiadol. Rwyf yn gobeithio gorffen y cwrs yma fel unigolyn mwy crwn a gwybodus, gyda rhwydwaith newydd o gyfoedion a chysylltiad hyd yn oed agosach â’r Sioe Frenhinol.”

Luke Watts, Martlewy, Arberth

Mae Luke Watts yn ffermio gartref, gan gynnig bocsys cig oen wedi’i fwydo ar laswellt gan ddefnyddio’u hŵyn Llanwenog cartref ac wŷn wedi’u magu’n frodorol. Mae’r teulu wedi lansio’r bocs stoc addasedig, Moithan Myfanwy yn ddiweddar, ble maen nhw’n arlwyo ar gyfer amryw o ddigwyddiadau, gan gynnig eu cynnyrch eu hunain, o roliau carpiau cig oen i Koftas cig oen steil Morocaidd. Y llynedd arallgyfeiriodd Luke a’i deulu i wersylla a glampio en-suite ar y fferm. Mae Luke yn falch o addysgu gwersyllwyr ifanc ynghylch pwysigrwydd amaethyddiaeth Cymru a’r bwyd a gynhyrchir yng Nghymru.

“Rwyf yn ei theimlo’n fraint ac rwyf yn gyffrous o fod wedi cael fy newis ar gyfer rhaglen arweinyddiaeth wledig CAFC. Rwyf yn awyddus i weld yr hyn sydd gan y rhaglen i’w gynnig ac i dreulio amser gyda phobl o’r un anian o fewn y diwydiant. Rwyf yn gobeithio datblygu fy setiau sgiliau trwy gydol y rhaglen i alluogi fy hunanddatblygiad fy hun a rhannu syniadau y gallaf ddod â nhw adref i’n mentrau ein hunain.”