Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Bob blwyddyn mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cyflwyno cyfres o wobrau er anrhydedd i bobl sydd wedi rhoi gwasanaeth eithriadol i’r gymdeithas, ar sail wirfoddol yn bennaf, ac mewn llawer achos am ymhell dros 30 mlynedd.

Cyflwynwyd cymysgedd o wobrau is-lywyddiaeth oes er anrhydedd, swyddi llywodraethwyr oes er anrhydedd a gwobrau’r gymdeithas mewn seremoni ar ail ddiwrnod Sioe Frenhinol Cymru (dydd Mawrth 19eg Gorffennaf) gan Lywydd y Gymdeithas, Mr Harry Fetherstonhaugh OBE FRAgS. Roedd yn anrhydedd i’r Gymdeithas groesawu EHB Y Dywysoges Frenhinol i’r seremoni wobrwyo, ble cyflwynodd hi nifer o wobrau.

Gwobrau Er Anrhydedd y Gymdeithas

Cyflwynir y gwobrau hyn i unigolion a enwebir gan Gyfarwyddwyr a Chyfarwyddwyr Cynorthwyol Anrhydeddus, sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r Gymdeithas dros flynyddoedd lawer.

Mr David Lewis, cyn-Gadeirydd Cyngor y Gymdeithas

Mr David Lewis yw’r unig unigolyn sydd wedi llenwi’r tair swydd uchaf o fewn y Gymdeithas fel Llywydd, Cadeirydd y Bwrdd a Chadeirydd y Cyngor.  Gorchest arwyddocaol ynddi ei hun a thystiolaeth o’r parch uchel sydd iddo gan ei gyd-aelodau o’r Gymdeithas hon.  Mae e’ eisoes wedi derbyn medal Aur y Gymdeithas, ond roedd y Gymdeithas yn dymuno cydnabod ei gyfraniad ymhellach. Cyflwynwyd paentiad portreadol gan Meirion Jones, yr arlunydd enwog, i David.

Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd A Medal Aur

Mr John T Davies, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr CAFC

Mae Mr John T Davies yn derbyn Medal Aur y Gymdeithas ac Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd am ei wasanaeth nodedig, ar ôl arwain y Gymdeithas fel Cadeirydd y Bwrdd am 10 mlynedd. Bu cyfnod John yn dal swydd Cadeirydd y Bwrdd yn un llwyddiannus ac mae wedi ein harwain gydag argyhoeddiad a phrofiad yn ystod ei gyfnod yn y swydd.  Sioe Frenhinol Cymru eleni yw sioe olaf John fel Cadeirydd y Bwrdd ac mae’r Gymdeithas yn dymuno’r gorau iddo at y dyfodol.

Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd A Medal Aur

Mr Steve Hughson, Prif Weithredwr CAFC

Mae Steve yn derbyn Medal Aur y Gymdeithas ac Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd am ei wasanaeth nodedig fel Prif Weithredwr.  Mae Steve yn ymddeol yn ddiweddarach eleni ar ôl arwain y Gymdeithas trwy gyfnod o newid a moderneiddio sydd wedi rhoi’r Gymdeithas mewn sefyllfa gref i wynebu’r dyfodol. Mae’i etheg gwaith, ei ddycnwch a’i gariad at y sioe hon yn ddiamheuol ac rydym yn cydnabod ei gyfraniad enfawr trwy fedal aur.

Llywyddiaeth Oes Er Anrhydedd

Mr Philip Hughes

Dyfernir Llywyddiaeth Oes Er Anrhydedd i Philip am ei wasanaeth nodedig i’r Gymdeithas, am ei ddyletswyddau yn y sioe haf ond hefyd yn ein Ffair Aeaf, ble mae’n Gyfarwyddwr Anrhydeddus Cynorthwyol Gweinyddiaeth.

Swydd Llywodraethwr Oes Er Anrhydedd

Mrs Ruth Davies

Dyfernir Swydd Llywodraethwr Oes Er Anrhydedd i Ruth am ei gwasanaeth nodedig, yn arbennig i Sir Clwyd, ble fel Ysgrifennydd mae hi wedi cefnogi’r Sir trwy flwyddyn Nawdd a ymestynnodd dros dair blynedd oherwydd y pandemig. Cyfrannodd hi’n fawr hefyd at Bwyllgor Llysgennad y sioe am flynyddoedd lawer ac mae hi’n aelod o’r Cyngor hefyd.

Mr Gerald Brown

Roedd cyfraniad ac ymroddiad Gerald i’r Gymdeithas yn cynnwys bod yn aelod gweithgar o nifer o Bwyllgorau, sef y Pwyllgorau Da Byw, y Ffair Aeaf a’r Rhaglen, ac mae’n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol y Sir.  Roedd â rhan enfawr wrth Godi Arian yn ystod blwyddyn Sir Nawdd Sir Gâr, ac yn awr mae’n rhoi’r gorau i stiwardio, ar ôl 29 mlynedd, ac am 20 o’r rheini roedd yn un o’r Prif Stiwardiaid yn y Prif Gylch. Dyfernir Swydd Llywodraethwr Oes Er Anrhydedd i Gerald am ei gyfraniad nodedig, a diolchwn iddo am ei ymroddiad i’r Gymdeithas dros y blynyddoedd.

Mr W Roy Davies

Mae Roy wedi rhoi’r gorau iddi’n ddiweddar fel Trysorydd Anrhydeddus Pwyllgor Ymgynghorol Sir Gâr, ond mae’r Gymdeithas yn ddiolchgar iawn am ei ymroddiad ffyddlon parhaol i’r Gymdeithas, yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru cewch hyd iddo’n stiwardio ym Mhafiliwn y Noddwyr o dan yr Eisteddle. Dyfernir Swydd Llywodraethwr Oes Er Anrhydedd i Roy am ei gyfraniad nodedig a’i ymroddiad parhaol i’r Gymdeithas.

Mr Colin Douch

Mae Colin wedi stiwardio yn y sioe ers dros 30 mlynedd ac ef yw’r Prif Stiward yn gyfrifol am yr adrannau arlwyo, yn cynnwys aelodau, beirniaid a stiwardiaid.  Mae’n aelod gweithgar o Bwyllgor Ymgynghorol Sir Gâr ac yn Aelod o Gyngor y Gymdeithas.  Dyfernir Swydd Llywodraethwr Oes Er Anrhydedd i Colin am ei wasanaeth nodedig.

Mr WP Lloyd Jones

Fe wnaeth Lloyd Jones droi’r 90 ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru (dydd Llun 18fed Gorffennaf). Yn ystod y seremoni wobrwyo, cymerodd Harry Fetherstonhaugh y Llywydd y cyfle i ddymuno Pen-blwydd Hapus iddo. Bu Lloyd yn gefnogwr ffyddlon i’r Gymdeithas ac mae wedi mynychu’r sioe bob blwyddyn er 1938.  Dros y blynyddoedd mae wedi dangos cobiau, wedi sylwebu yn y Prif Gylch ac ef yw Colofnydd Amaethyddol Cymru i’r Western Mail.  Diolchwn i Lloyd am y sylw a’r cyhoeddusrwydd parhaol y mae’n ei ddarparu ynghylch Sioe Frenhinol Cymru. Dyfernir Swydd Llywodraethwr Oes Er Anrhydedd i Lloyd am ei gyfraniad at y Gymdeithas.

Mr Colin VJ Pugh

Bu Colin yn ymwneud â’r Gystadleuaeth Carcasau Wŷn yn Sioe Frenhinol Cymru er 1963, yn helpu ei dad y diweddar Verney Pugh.  Daeth Colin yn Uwch Stiward yn 1991 ac mae’n Uwch Stiward hefyd ar gyfer Adran Carcasau’r Ffair Aeaf. Dyfernir Swydd Llywodraethwr Oes Er Anrhydedd i Colin am y cyfraniad nodedig parhaol yma i’r Gymdeithas.

Aelodaeth Oes Er Anrhydedd

Mr Paul Tucker

Bu Paul yn ymwneud â’r Adran Dofednod yn y sioe ers dros 30 mlynedd ac mae’n Brif Stiward ar gyfer y Ffair Aeaf. Dyfernir Aelodaeth Oes Er Anrhydedd i Paul am ei gyfraniad nodedig parhaol i’r Gymdeithas.

Mrs Rhian Davies – aelod o Staff y Gymdeithas

Mae Rhian wedi bod yn gweithio i’r Gymdeithas am 24 mlynedd mewn amrywiol swyddi, yn cynnwys y Dderbynfa, Cynorthwyydd Personol a Gweinyddiaeth yr Ŵyl, ac yn olaf fel Swyddog Gweinyddu yn goruchwylio’r Stiwardio a Gweinyddiaeth pob un o dri Digwyddiad y Gymdeithas.  Mae Rhian yn adnabyddus i bawb gan wneud cyfeillgarwch tymor hir gyda staff, stiwardiaid ac arddangoswyr, a bydd pawb yn ei cholli. Dyfernir Aelodaeth Oes Er Anrhydedd i Rhian am ei chyfraniad a’i hymroddiad nodedig i’r Gymdeithas.

Mrs Sheila Warner o Glwyd

Byddai’n amhriodol i’r Gymdeithas beidio â sôn am un o hoelion wyth gwirioneddol y Gymdeithas, na allai yn anffodus fynychu’r seremoni oherwydd rhesymau iechyd. Roedd Sheila yn Ysgrifennydd Anrhydeddus Pwyllgor Ymgynghorol Clwyd tan 2014, mae hi’n dal yn aelod ffyddlon o Bwyllgor Ymgynghorol Clwyd ac yn Aelod o’r Cyngor. Dyfernir Swydd Llywodraethwr Oes Er Anrhydedd i Sheila am ei hymroddiad a’i chyfraniad nodedig.