Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Wrth i Sioe Frenhinol Cymru 2022 dynnu at ei therfyn, mae’n ddiogel dweud bod yr ychydig ddiwrnodau diwethaf wedi bod yn orlawn o heulwen a dathliadau wrth inni weld y digwyddiad y bu mawr ddisgwyl amdano yn dychwelyd ar ôl saib o dair blynedd.

Unwaith eto, mae’r Sioe wedi gweld tyrfaoedd o selogion hapus y sioe yn cydgyfarfod yn eu miloedd o bedwar ban byd ar faes y sioe yn Llanelwedd i ddathlu goreuon amaethyddiaeth Cymru a Phrydain.

Wrth iddynt ddwyn yr holl sylw, fe wnaeth y da byw gipio canol y llwyfan yn sicr am y pedwar diwrnod llawn. Fel bob amser gwelodd y cystadlaethau safon uchel iawn o gynigion ar draws pob adran ac mae’n fraint gennym ddenu arddangoswyr o bell ac agos, i gyd yn gobeithio mynd adref gyda rhoséd chwenychedig Sioe Frenhinol Cymru. Dywedir yn aml fod yr arddangosion da byw yn Sioe Frenhinol Cymru yn arddangosfa o rai o’r anifeiliaid gorau yn Ewrop a ’doedd eleni ddim yn eithriad.

Meddai Richard Price, Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe am ei Sioe gyntaf yn y swydd:

“Ar ôl yr ansicrwydd ar ddechrau’r flwyddyn ynglŷn â COVID a’r pryderon gyda’r tywydd poeth ar ddechrau’r wythnos, rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu llwyddo i gael Sioe mor llwyddiannus.”

“Roedd ansawdd y da byw yn rhagorol unwaith eto, ac roedd hi’n ardderchog gweld yr Orymdaith Fawr yn y Prif Gylch. Roedd yna awyrgylch gwych o amgylch maes y sioe ac roedd nifer y mynychwyr yn dda dros y pedwar diwrnod.”

Canlyniadau Da Byw Allweddol

Prif Bencampwr y Ceffylau

Beirniadwyd gan Mrs Cynthia Higgon

Glynwyn Annie Power, caseg wag 6 blwydd oed, wedi’i magu a’i harddangos gan S & K J Gibbons o Gawthorpe, Gorllewin Swydd Efrog.

Prif Bencampwr y Bîff

Beirniadwyd gan Mrs R Wyllie

Bownhill Netta Buwch a llo Benyw Blonde Prydeinig, wedi’u magu gan T M & J Hope a’u harddangos gan Thor Atkinson Steel Fabrications Ltd o Ulverston, Cumbria.

Prif Bencampwr y Buchod Llaeth

Beirniadwyd gan Mr A Cope

Erie W Brook Lustre EX93, buwch yn llaetha, sydd wedi lloia deirgwaith, wedi’i magu a’i harddangos gan EM ac E ac IR Morgan.

Tîm o Bump y Natwest – bridiau bîff

Beirniadwyd gan Mr J McMilan

Tîm o Wartheg Limousin Prydeinig yn eiddo i Thor Atkinson Steel Fabrications Ltd, P R Dawes a Mr Christopher White.

Tîm o Bump Marks & Spencer – bridiau llaeth

Beirniadwyd gan Mr A Walters

Tîm o wartheg Holstein yn eiddo i EM ac E ac IR Morgan, BB Holsteins ac R a B Thomas.

Pencampwr Pencampwyr y Defaid

Beirniadwyd gan Mr E Owen

Hesbin Suffolk, wedi’i magu a’i harddangos gan Mr Dafydd Jones o Bennant, Ceredigion.

Prif Bencampwr y Moch

Beirniadwyd gan Mr P M Horsley

Offham Jean 2nd, Hesbinwch Gymreig, wedi’i magu a’i harddangos gan J & S Harmer o Lewes, Dwyrain Sussex.

Prif Bencampwr y Geifr

Kerbourne Daisymay, wedi’i magu a’i harddangos gan Mrs T a Miss M Ogborne o Chewstocke, Bryste.

Fe wnaeth yr heulwen Gymreig hyfryd ein hanrhydeddu â’i phresenoldeb drwy’r wythnos gan olygu bod gwerthiannau hufen iâ a hetiau haul wedi saethu i fyny. A gan wneud y gorau o’r tywydd godidog, roedd ymwelwyr yn ddiolchgar am y mannau ail-lenwi dŵr oedd yn frith o gwmpas maes y sioe a’r ardaloedd gyda chysgod ychwanegol. Nid yn unig oedd y mannau dŵr o fudd i gadw pawb wedi’u hydradu yn y gwres chwilboeth, ond maen nhw’n helpu’r Gymdeithas a’r Sioe i leihau faint o blastig a ddefnyddir ar y safle hefyd, sy’n mynd tuag at ein hymrwymiad i wneud cyfraniad cadarnhaol at yr agenda werdd.

Ar wahân i’r cystadlaethau, y stondinau masnach a 12 awr o ddigwyddiadau ac atyniadau di-baid bob dydd, mae’r sioe’n croesawu nifer fawr o bobl bwysig ar ymweliad. Eleni roeddem wrth ein bodd o groesawu Ei Huchelder Brenhinol, Y Dywysoges Frenhinol i’r sioe.

Yn ystod ei hymweliad, aeth y Dywysoges Anne ar daith o amgylch maes y sioe gyda Chyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe, Richard Price, gan ymweld ag amryw o fannau, yn cynnwys y Neuadd Fwyd, y Cneifio, y babell Arddwriaeth, y cylchoedd da byw, a’r Prif Gylch. Ar ôl dychwelyd i Bafiliwn y Llywydd, cyflwynodd Ei Huchelder Brenhinol nifer o Wobrau’r Gymdeithas a derbyniodd hi hamper bwyd o gynnyrch Cymreig cyn iddi ymadael.

Roeddem yn falch hefyd o groesawu Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS a Gweinidog yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AS, yn ogystal â’r Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop.

Yn Sioe eleni, cyhoeddodd y Gymdeithas ei bwriad i greu teyrnged barhaol i Dai Jones ‘Llanilar’ wedi ei farwolaeth yn gynharach eleni. Mae cynlluniau ar fynd i greu cofeb o faint naturiol o Dai sydd i’w leoli’n barhaol yng Nghylch y Gwartheg i nodi ei gyfraniad enfawr at fywyd gwledig ac at Sioe Frenhinol Cymru. Mae safle Just Giving wedi’i sefydlu i ganiatáu i unigolion a allai ddymuno cyfrannu tuag at gost y cerflun o faintioli llawn wneud hynny fel teyrnged er cof am Dai Jones.

Cliciwch yma i fynd i’r dudalen Just Giving.

Roedd y Sioe Frenhinol hon yn neilltuol o arbennig i’r Prif Weithredwr, Steve Hughson, a hithau’n sioe olaf iddo cyn iddo ymddeol o’r swydd ym mis Medi ar ôl deng mlynedd o wasanaeth i’r Gymdeithas.

“Rwyf mor falch fod ein sioe yn gymaint o lwyddiant o gofio’r cefndir ôl-bandemig ble mae hi fel petai’r byd cyfan wedi newid.  Os nad oedd hynny’n ddigon, roedd gennym y tywydd i ymgiprys ag ef. Profodd ein penderfyniad i fuddsoddi mewn gwyntyllu ychwanegol yn adeiladau’r defaid yn ystod y pandemig, er bod gennym lai o incwm, yn un cywir. Gyda rhodfeydd yn llawn stondinau masnach, cylchoedd yn llawn da byw ac wrth gwrs ddeuddeng awr o adloniant gan rai o’r perfformwyr mwyaf a gorau yn y Deyrnas Unedig, ’doedd hi ddim yn syndod bod mwy na 200,000 wedi mynychu’r Sioe dros y pedwar diwrnod.”

“Cawsom ein hanrhydeddu ag ymweliad EHB Y Dywysoges Frenhinol, a ddangosodd ddyfnder ei gwybodaeth am ffermio a materion gwledig ble bynnag yr âi hi.  Ac yn awr wrth i’r haul fachlud ar fy amser yn Sioe Frenhinol Cymru, gallaf edrych yn ôl gyda balchder ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni ac mae arnaf eisiau diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r llwyddiant hwnnw am eu cefnogaeth i’r Gymdeithas wych yma.  Mae’n ymdrech tîm.  Diolch o galon”

Wrth inni ddod i ddiwedd Sioe Frenhinol Cymru 2022, edrychwn ymlaen at adeiladu ar ein llwyddiant ac at eich croesawu chi’n ôl y flwyddyn nesaf ar 24-27 Gorffennaf 2023.