Yr Athro Wynne Jones yn cymryd yr awenau fel Cadeirydd newydd Bwrdd CAFC - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’r Athro Wynne Jones wedi’i ethol yn Gadeirydd newydd Bwrdd Cyfarwyddwyr CAFC yn dilyn penderfyniad Mr John T Davies i roi’r gorau iddi ar ôl deng mlynedd o wasanaeth ymroddedig i’r Gymdeithas.

Yn ffigwr adnabyddus yn y byd amaethyddol, Yr Athro Jones yw’r ieuengaf o bedwar brawd ac fe’i magwyd ar y fferm deuluol yn Nolwen, ger Bae Colwyn. Mynychodd Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ble graddiodd mewn Amaethyddiaeth yn 1970. Yn dilyn cyfnod byr yn gweithio i’r Sefydliad Ymchwil Bridio Anifeiliaid wedi’i leoli yn yr Alban, ymunodd â Phrifysgol Reading fel Cynorthwyydd Ymchwil wrth iddo hefyd ymgymryd ag ymchwil ar gyfer Gradd Doethur mewn Athroniaeth, a ddyfarnwyd yn 1976.

Tan 1988 roedd yn Bennaeth Cynhyrchu Anifeiliaid yng Ngholeg Amaethyddol Cymru (yn rhan o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn awr) yn Aberystwyth. Yn 1988 cafodd ei benodi’n Ddirprwy Brifathro a Chyfarwyddwr Ymchwil yng Ngholeg Amaethyddol Harper Adams (Prifysgol yn awr) ac fe’i penodwyd yn Bennaeth yn 1996. Mae’r Athro Jones yn gyn-Lywydd Ffermwyr Dyfodol Cymru, yn gyn-Gadeirydd Cyswllt Ffermio Cymru, ac yn gyn-Gadeirydd i Ymddiriedolaeth Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield y DU.

Mae’i gyfraniadau personol wedi’u cydnabod yn dda gan y diwydiant; yn 2019 dyfarnwyd iddo wobr cyflawniad oes gan Lantra Cymru am ei gyfraniad at yr amgylchedd a diwydiant y tir. Yn gynharach yn 2009 dyfarnwyd yr OBE iddo am wasanaeth i addysg uwch amaethyddol. Yn ogystal, mae wedi dal llawer o benodiadau i fyrddau strategol a phwyllgorau ymgynghorol amaethyddol oherwydd ei wybodaeth a’i arbenigedd.

Dechreuodd gysylltiad yr Athro Jones â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1975 fel arddangoswr masnach gyda Choleg Amaethyddol Cymru fel oedd bryd hynny ac yn ddiweddarach gyda Phrifysgol Harper Adams. Mae wedi cael y cyfle i feirniadu nifer o gystadlaethau dros y blynyddoedd, yn cynnwys gwobr Syr Bryner Jones ar sawl achlysur. Yn 2015 gwahoddwyd yr Athro Jones i fod ar y Bwrdd ac ers hynny mae wedi cadeirio’r Pwyllgor Staffio a Chyflogau.

Mae’r Athro Jones yn byw yn Aberystwyth yn awr gyda’i wraig Irfana, cyfreithwraig wedi ymddeol, ac mae ganddo ddwy ferch sydd â rhan weithredol yn eu priod fusnes fferm a busnes gwledig.

Bydd y swydd fel Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn golygu arwain y Bwrdd wrth drafod cynigion a gyflwynir trwy amrywiol bwyllgorau a siroedd Cymru. Bydd y cynigion hyn yn cael eu cynnwys wedyn yng nghynlluniau blynyddol a chynlluniau strategol y Gymdeithas.

Disgrifodd yr Athro Wynne Jones y penodiad fel anrhydedd fawr yn ei erthygl i Flwyddlyfr CAFC 2022. “Rwyf yn dilyn camre llawer o unigolion ymroddedig y mae’u hymdrechion wedi sicrhau bod y Gymdeithas yn mwynhau lle mor amlwg yng ngweithgareddau Cymru wledig ac ymhellach i ffwrdd. Rwyf yn bwriadu cysegru fy egnïon fel Cadeirydd y Bwrdd i ddatblygu ac i adeiladu ar y llwyddiannau gynt hyn.”

Meddai Aled Rhys Jones, sydd newydd ei benodi’n Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru; “Rwyf yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â ffigwr mor brofiadol ac uchel ei barch o fewn y diwydiant amaethyddol. Bydd y sgiliau a’r profiadau y mae’r Athro Jones wedi’u crynhoi yn ystod ei yrfa drawiadol o fudd sylweddol i’r Gymdeithas wrth inni lywio ein llwybr yn y dyfodol. Rydym yn cychwyn ar bennod newydd gyffrous yn hanes balch Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a bydd yr Athro Jones yn dod ag arweiniad a barn gadarn.”