Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae beirniaid o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi dyfarnu’r cyfle i fynychu Cynhadledd Ffermio Rhydychen 2023 fis Ionawr nesaf i Dewi Parry o Abergele, Clwyd. Dewi yw Rheolwr Rhanbarthol Gogledd Cymru i RABI ac mae’n aelod blaenllaw o’i gymuned CFfI leol (Clwb Ffermwyr Ifanc).  Mae’n ffermio defaid Wyneblas Caerlŷr ac yn mwynhau criced yn ei amser sbâr.

Enwebwyd Dewi gan Bwyllgor Ymgynghorol Sirol Clwyd, sydd wedi tynnu sylw at barodrwydd Dewi i feddwl yn wrthrychol, yn fyfyriol ac yn greadigol. ‘Bydd Dewi’n herio ac yn craffu ar bopeth, mae â meddwl agored ac ni fydd yn gadael cwestiwn heb ei ofyn. Mae Clwyd wedi gwybod ers peth amser fod Dewi ond â diddordeb mewn atebion, mae’n union y math o berson sydd ag angen bod yng Nghynhadledd Ffermio Rhydychen.’

Mae Cynhadledd Ffermio Rhydychen, a gynhelir yn flynyddol yn nechrau Ionawr, wedi sefydlu enw am drafodaeth gref a siaradwyr arbennig. Mae’r gynhadledd yn un o’r digwyddiadau pwysicaf o’i math, gan ddod â ffermwyr, gwleidyddion, gwyddonwyr ac eraill at ei gilydd i drafod datblygiad y diwydiant amaethyddol yn y dyfodol. Bydd cynhadledd 2023, ‘Ffermio Dyfodol Newydd’ yn cael ei chynnal o’r 4ydd-6ed Ionawr 2023.  Bydd y Gynhadledd yn gyfle i archwilio atebion systemig i’r argyfyngau bioamrywiaeth, hinsawdd, bwyd ac ynni cynyddol yr ydym yn eu hwynebu ar y cyd, gydag optimistiaeth a phenderfyniad i beidio ag ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol.

Bob blwyddyn mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru’n cynnig bwrsari i alluogi pobl ifanc i fynychu Cynhadledd Ffermio Rhydychen.  I fod yn gymwys ar gyfer y bwrsari rhaid i ymgeiswyr fod rhwng 25 a 35 mlwydd oed ac yn gweithio yn un o ddiwydiannau’r tir.

Roedd y panel beirniadu wedi’i ffurfio o Dafydd Parry Jones, Cyril Davies, a Katie Davies (enillydd 2021). Nododd y beirniaid fod y brwdfrydedd a’r egni a ddangoswyd gan bob un o’r ymgeiswyr tuag at eu llwybr dewisedig yn rymus ac roedd yn galondid ganddynt glywed adborth mor gadarnhaol ar ddyfodol ein diwydiant a’n ffordd wledig o fyw. Wrth gloi’r broses gyfweld ’doedd gan y beirniaid ddim amheuaeth eu bod wedi cyfarfod arweinwyr y diwydiant i ddod.

Bydd Dewi’n cael ei wahodd i ysgrifennu erthygl ar gyfer Blwyddlyfr Sioe Frenhinol Cymru 2023 a byddir yn cyflwyno’r bwrsari iddo ar ddydd Llun 28 Tachwedd yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.

I gael mwy o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau ewch i wefan CAFC.