Yfwch, bwytewch a byddwch lawen yn y Ffair Aeaf! - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ar fin digwydd, ac mewn mater o ddyddiau, bydd maes y sioe yn Llanelwedd yn ferw â chystadleuwyr, siopwyr Nadolig a dathliadau. Yn digwydd yr wythnos nesaf ar ddydd Llun 28ain a dydd Mawrth 29ain Tachwedd, bydd y gatiau’n agor am 8 y bore.

Mae digonedd o leoedd ar draws maes y sioe i gael tamaid i’w fwyta neu ddiod Nadoligaidd. Mwynhewch y lluniaeth yn un o’r llu o stondinau bwyd teithiol a’r bythau annibynnol, neu gynhesu y tu mewn yn un o’n cyfleusterau arlwyo isod.

Hafod a Hendre

Bwyty hunanweini a bar wedi’i leoli yn awyrgylch cynnes a chysurus Hafod a Hendre. Ar agor ar gyfer brecwast, cinio, swper a lluniaeth. Bydd adloniant cerddorol gydol nos Lun gan y deuawd canu, Hywell a Johnny a’r perfformiwr o Gymro Clive Edwards.

Tafarn y Ffair Aeaf

Mae Tafarn y Ffair Aeaf, sy’n boblogaidd iawn, yn ôl eleni! Wedi’i lleoli gerllaw’r Cylch Gwartheg allanol wrth y Danffordd. I helpu i leihau gwastraff defnydd untro yn ystod y Ffair, mae gennym gwpanau amldro arbennig ac iddynt frand y Ffair Aeaf ar gael. Galwch heibio am ddiod a chael eich un chi!

Y Pafiliwn Rhyngwladol

Yn newydd ar gyfer eleni, bydd adeilad y Pafiliwn Rhyngwladol yn troi’n gaffi Fingers and Forks, ffefryn arlwyo mawr. Bydd prydau poeth, te prynhawn, brechdanau a theisennau, ynghyd â the a choffi, yn cael eu gweini ar ddau lawr y Pafiliwn Rhynglwadol trwy gydol y ffair.

Neuadd De Morgannwg

Cymerwch seibiant oddi wrth y tywydd oerllyd a galw heibio’r caffi am ddiod boeth. Wedi’i leoli yn Neuadd Arddangos De Morgannwg, sy’n cael ei redeg gan y cwmni arlwyo teuluol, Cegin Gwenog.

Tafarn Neuadd Henllan

Amsugnwch yr awyrgylch Nadoligaidd yn Neuadd Henllan. Bydd y Dafarn ar agor trwy gydol y Ffair Aeaf, yn gweini bwyd a diodydd.

Y Bwyty Charolais

Mae’r Bwyty a’r Bar Charolais wedi’i leoli ym Mhafiliwn Cymdeithas y Gwartheg Charolais Prydeinig a bydd yn gweini amrywiaeth o fwyd a diodydd.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r amrywiaeth o letygarwch sydd ar gynnig yn ystod y Ffair Aeaf ac yn atgoffa ymwelwyr i ofalu am ei gilydd ac i aros yn ddiogel, tra byddant yn mynd i ysbryd y Nadolig!

I gael mwy o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau ewch i wefan CAFC.