Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Fel ag yn y blynyddoedd diwethaf, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi rhoi rhodd i Gyngor Tref Llanfair-ym-Muallt eto tuag at y goleuadau Nadolig yn y dref, gan barhau’r berthynas agos rhwng y ddau sefydliad a’r gymuned leol.
Bob blwyddyn, mae’r arddangosfa goleuadau Nadolig yn cael ei gosod yn barod ar gyfer Ffair Aeaf Frenhinol Cymru sy’n cael ei chynnal fel arfer yn niwedd Tachwedd/dechrau Rhagfyr. Mae’r arddangosfa liwgar yn rhoi croeso Nadoligaidd cynnes i’r miloedd sy’n ymweld â’r Ffair Aeaf a’r llaweroedd o bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn mynd drwy’r dref yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig. Digwyddodd y Ffair Aeaf yr wythnos ddiwethaf a mwynhaodd llawer yr achlysur ac awyrgylch llawen y dref.
Fel arwydd o werthfawrogiad, mae’n bleser gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gyfrannu £350 i Gyngor y Dref i helpu tuag at y gost o gynnal, codi a phrynu goleuadau newydd. Cyfarfu Aled Rhys Jones,Prif Weithredwr CAFC â Maer y Dref, y Cynghorydd Alan Waller, yn ddiweddar i gyflwyno’r siec yn swyddogol.
Meddai Aled Rhys Jones,
“Mae’r berthynas rhwng y Gymdeithas a thref Llanfair-ym-Muallt yn hanfodol bwysig ac rydym yn falch o barhau ein cefnogaeth gyson tuag at yr arddangosfa goleuadau Nadolig. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor y Dref am yr awyrgylch llawen y mae’r goleuadau Nadolig yn ei greu ar gyfer ein Ffair Aeaf a’r ymwelwyr â maes y sioe.”
Byddai Cyngor Tref Llanfair-ym-Muallt yn hoffi diolch i CAFC am eu cefnogaeth barhaus i oleuadau Nadolig y dref, sy’n edrych yn wych bob blwyddyn. Derbynnir y rhodd hael yn ddiolchgar a byddir yn ei defnyddio tuag at gynnal a chadw ac unrhyw waith atgyweirio sydd ei angen i gadw’r arddangosfa oleuadau yn rhedeg.