Yn ystod cyfarfod blynyddol Cyngor Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar ddydd Gwener 9 Rhagfyr, daeth cyfnod nodedig Clwyd fel sir nawdd i ben wrth i Forgannwg ymgymryd â’r rôl.
Dan arweiniad medrus y Llywydd, Harry Fetherstonhaugh, dechreuodd Clwyd eu taith dros dair blynedd yn ôl. Oherwydd y pandemig coronafeirws, cafodd blwyddyn y sir nawdd ei hoedi o 2020 tan 2021 ac yna’n derfynol tan 2022. Trwy gydol yr amser pur ansefydlog ac anodd hwnnw, mae Clwyd wedi parhau eu rôl gyda brwdfrydedd ac ymroddiad digynnwrf.
“Pan ofynnwyd imi fod y Llywydd, roeddwn yn edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous, ychydig a wyddwn i fy mod yn cofrestru ar gyfer swydd lled-sefydlog!” meddai Harry Fetherstonhaugh yn ei anerchiad olaf fel Llywydd i aelodau cyngor y Gymdeithas.
Mynegodd Harry ei ddiolchgarwch i’r Gymdeithas am roi iddo’r ‘fraint enfawr’ o fod yn Llywydd. “Gallaf eich sicrhau fod hyn wedi bod yn uchafbwynt gwirioneddol arwyddocaol yn fy mywyd.”
Trwy lu mawr o ddigwyddiadau codi arian, yn cynnwys Digwyddiad Tir Glas 2022, rasio camelod, teithiau cerdded noddedig, cyngherddau carolau, boreau coffi, nosweithiau bingo, arwerthiannau, teithiau tractorau, ciniawau a swperau, i enwi ond ychydig, mae’r tîm wedi cael ychydig flynyddoedd eithriadol brysur, a heriol yn aml.
Mae’r arian a godir gan bob sir nawdd yn sail i’r buddsoddiad cyfalaf ar safle maes y sioe. Mae’r cronfeydd hanfodol hyn yn cyfrannu at gynnal a chadw a datblygu’r safle, sy’n un o asedau mwyaf y Gymdeithas. Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r Gymdeithas wedi symud tuag at adfer ac adnewyddu’r adeiladau presennol, sy’n dod yn fwyfwy pwysig yn yr hinsawdd sydd ohoni. Yn ystod eu cyfnod fel sir nawdd, mae Clwyd wedi codi arian at baneli solar, enghraifft ragorol o gynaliadwyedd.
Cyflwynodd Harry Fetherstonhaugh siec am £335,345.82 yn swyddogol ar ran Pwyllgor Ymgynghorol Clwyd a’r sir nawdd i Gadeirydd y Cyngor, Nicola Davies.
Mynegodd Nicola ei diolchgarwch i Harry, ei wraig Davina, Lowri Lloyd Williams y Llysgennad, a thîm cyfan Clwyd.
“Rydych wedi arwain gyda’ch dull a’ch hiwmor gwybyddus ac ni allwn fod wedi cael gwell Llywydd yn fy mlwyddyn gyntaf fel Cadeirydd y Cyngor. Mae’ch degawdau o ymroddiad i’r Gymdeithas hon yn rhyfeddol ac mae buddiannau’r Gymdeithas bob amser yn agos at eich calon. Er ei fod yn rhoi’r gorau iddi fel Llywydd, rwyf yn falch o nodi y bydd Harry yn dal i fod yn Is-Gadeirydd y Bwrdd am weddill y tymor.
Gall Pwyllgor Ymgynghorol Clwyd fod yn falch iawn ohonynt hwy eu hunain, dan arweiniad eu Cadeirydd; Richard Tomlinson, yr Ysgrifennydd; Ruth Davies a’r Trysorydd; Nigel Davies. Diolch ichi a holl aelodau’r pwyllgor am eich gwaith aruthrol dros y tair blynedd ddiwethaf.” meddai Nicola.
A hithau’n derbyn pleidlais o ddiolch didwyll gan Nigel Davies, canmolwyd Lowri Lloyd Williams hefyd am yr holl ymroddiad, brwdfrydedd, ac egni a ddaeth hi i rôl y Llysgennad. Disgrifiodd Nigel Lowri fel ‘curiad calon’ tîm Clwyd ac fel rhan annatod o’u hymdrechion codi arian.
“Mae wedi bod yn arbennig iawn bod yn rhan o dîm Clwyd. Rydym wedi gweithio mor galed ac wedi cyd-dynnu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Trwy waith tîm a phenderfyniad, rwyf yn meddwl ein bod wedi dangos cryfder y Gymdeithas, a beth y gellir ei gyflawni gan ei haelodau.” meddai Lowri.
Yn dilyn camre Clwyd, tro Morgannwg yw hi yn awr i gymryd yr awenau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn 2023, gyda John Homfray yn arwain o’r tu blaen fel Llywydd.
Tra oedd yn ei gyflwyno, canmolodd William Hanks, Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Ffair Aeaf ac aelod o bwyllgor Morgannwg, John Homfray ar ei fusnes ffermio cymysg llewyrchus yn Y Bont-faen ac ar ei ymdrechion llwyddiannus wrth arallgyfeirio gyda bwyty a siop fferm.
Yn flaenorol mae John Homfray wedi bod yn Gadeirydd CLA Cymru (Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad), yn aelod o bwyllgor Samariaid Pen-y-bont ar Ogwr, yn Gadeirydd Bwrdd Monitro Carchar y Parc Ei Fawrhydi, yn Gadeirydd Clwb Ffermwyr Morgannwg ac ar hyn o bryd mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Y Bont-faen ac yn Gadeirydd eu hymddiriedolaeth.
“Bu’r teulu Homfray yn gefnogwyr ffyddlon i Bwyllgor Ymgynghorol Morgannwg er blynyddoedd lawer ac mae John, ynghyd â’i wraig Jo, a thîm cyfan Morgannwg yn wir edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous o’u blaenau. Bu John yn Ddarpar Lywydd am amser hir iawn ond mae wedi parhau’n frwdfrydig ac ymroddedig gydol yr amser.” meddai William.
Wrth dderbyn rôl y llywydd, meddai John, “Roeddwn wedi fy nghyfareddu’n fawr iawn fy mod wedi fy newis gan ein Pwyllgor Ymgynghorol fel Llywydd y sir nawdd yn ôl ym mis Mawrth 2019. Rwyf wedi mwynhau ein hymwneud â CAFC yn fawr hyd yn hyn. Mae hwn yn sefydliad wirioneddol ardderchog.”
Mae tîm y sir nawdd yn gobeithio ariannu adnewyddu Neuadd Morgannwg, gan osod to a chladin newydd. Gyda llawer o ddigwyddiadau yn yr arfaeth ar gyfer 2023, mae’r pwyllgor yn gweithio y tu ôl i’r llenni hefyd i drefnu’r diwrnod arddangos amaethyddol, ‘Regen ’23’, sydd i’w gynnal ar 8fed Mehefin ar Sealand’s Farm ym Mro Morgannwg. Bydd y digwyddiad yn ymestyn dros 600 erw ac yn arddangos goreuon oll amaethyddiaeth Cymru a sut y gall systemau ffermio atgynhyrchiol a blaengar helpu i oresgyn yr heriau sy’n wynebu amaethyddiaeth Cymru yn y dyfodol.
Yn cymryd yr awenau hefyd mae Jacob Anthony, sydd wedi’i ethol yn swyddogol yn Llysgennad ar gyfer blwyddyn sir nawdd Morgannwg, ac fe’i cyflwynwyd yng nghyfarfod Cyngor yr wythnos ddiwethaf gan Ysgrifennydd Pwyllgor Ymgynghorol Morgannwg, Charlotte Thomas.
“Rydym yn wirioneddol ddiolchgar o gael Jacob mewn rôl mor glodfawr â’n Llysgennad. Jacob yw’r pumed genhedlaeth ar fferm bîff a defaid ei deulu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’n danbaid ynghylch hyrwyddo pob agwedd ar amaethyddiaeth gyda’i ddealltwriaeth uniongyrchol o’r diwydiant ac rydym yn hyderus iawn fod y Gymdeithas mewn dwylo rhagorol gyda Jacob yn Llysgennad ar gyfer 2023.” meddai Charlotte.
Strwythur unigryw’r siroedd nawdd a’r Pwyllgorau Ymgynghorol yw’r hyn sy’n gosod y Gymdeithas ar wahân i eraill ac yn sicrhau bod pobl Cymru yn cadw perchenogaeth ar y digwyddiadau. Mae ymdrechion codi arian yr holl siroedd wedi’u buddsoddi’n ôl ym maes y sioe, gan ei wneud yn un o’r gorau yn Ewrop a gan greu gwir ymdeimlad o gydberchenogaeth ar y safle.